Bryn Terfel 'ddim ar y llwyfan operatig am yn hir eto'
- Cyhoeddwyd
Mae Syr Bryn Terfel wedi dweud ei fod yn rhagweld y bydd ei yrfa fel canwr opera yn dod i ben yn ystod y ddwy neu dair blynedd nesaf.
Dyw'r canwr hefyd ddim yn credu y bydd yn rhyddhau albwm arall gyda chwmni Deutsche Grammophon - cwmni y mae wedi bod yn gysylltiedig ag ef ers 30 mlynedd.
Dros y penwythnos mae'r canwr o Bant-glas wedi rhyddhau albwm o ganeuon sy'n ymwneud 芒'r m么r ac ymhlith y cerddorion sydd wedi ymuno ag e mae Sting, Fisherman's Friends a Calan.
Wrth siarad ar raglen Bore Sul 91热爆 Radio Cymru am ddiwedd gyrfa operatig ei ffrind Angelika Kirchschlager, dywedodd bod ei chyngerdd olaf "wedi 'neud i fi feddwl pryd ddaw fy opera olaf i".
"Allai'm gweld fi ar y llwyfan operatig am yn hir iawn ac mae 'na resymau am hynna... mae gen i ddiddordebau eraill ac mae'r maes opera yn cymryd gymaint o amser," meddai.
"Weithiau mae'n saith wythnos o ymarfer, weithiau mae'n saith wythnos o berfformio - mae'n cymryd brathiad mawr o amser rhywun.
"Felly falle 'na i roi dwy neu dair blynedd i fi fy hun a meddwl am bethau eraill wedyn.
"Os 'na i agor y drws 'na sy'n mynd mewn i'r t欧 opera a theimlo 'na dwi'm yn mwynhau hwn ddim mwy' - yna fydd y 'sgidia wedyn ar y wal."
Mae'r albwm newydd yn dathlu perthynas 30 mlynedd Bryn Terfel 芒 chwmni recordio Deutsche Grammophon, ac mae'n edrych yn debyg mai "hon fydd fod fy albwm olaf gyda nhw", ychwanegodd.
"Dwi ddim yn un sydd wedi bod yn recordio gormod ond alla i fentro dweud bod hi bach yn hwyr r诺an i fi recordio yr oper芒u dwi wedi eu gwneud yn y gorffennol - mae'r llong yna yn anffodus wedi hwylio."
Bod ynghlwm 芒 chwmni Opera Cymru?
Yn ystod y sgwrs bu hefyd yn s么n am ei bryderon am gwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn sgil cynlluniau Cyngor Celfyddydau Lloegr i dorri cyllid y cwmni o 35% ac ymadawiad y cyfarwyddwr Aiden Lang.
"Mae pobl sy' tu cefn i'r llwyfan yn colli gwaith, bydd y cerddorfeydd yn llai, bydd y corws yn llai - mae'r cyfan yn ergyd eithaf syfrdanol," meddai Syr Bryn.
"Tasai hi yn ddwy neu dair blynedd lawr y l么n fe fyddai gen i ddiddordeb mawr mewn bod ynghlwm 芒 chwmni Opera Cymru a gweld be sy'n digwydd."
Gan gyfeirio at Ganolfan y Mileniwm dywedodd ei bod hi'n hynod bwysig iddyn nhw gael "y sioeau iawn a chomed茂wyr" i sicrhau ei dyfodol.
"Mae angen dechrau sioe gerdd yna sy'n symud i'r West End. Mae 'na bethau y gall rhywun ei wneud yn enwedig ar 么l y pandemig," meddai.
"Mae rhywun fel fi, yn fy oed a'n amser, angen rhoi breichiau o gwmpas ysgwyddau y rhai ifanc sy'n cychwyn ar eu gyrfaoedd r诺an... ond ydi'r ysgrifen ar y wal. Pwy a 诺yr?"
Y coroni yn 'anhygoel'
Gan gyfeirio at ei berfformiad yn ystod gwasanaeth coroni'r Brenin Charles yn Abaty Westminster ym Mai 2023, dywedodd ei bod hi'n bwysig iddo fod yna elfen Gymraeg yn rhan o'r seremoni a bod y cyfan wedi bod yn "brofiad anhygoel".
"Doedd gen i ddim problem i wneud o. O'n i wedi tynnu allan o wneud cyngerdd yn Hamburg a thynnu allan o gyngerdd yn Ffrainc er mwyn bod yna," meddai.
"Roedd clywed Zadok the Priest yn atseinio yn acwstig y gadeirlan yn anhygoel, yn fyd hollol wahanol - a phwy fuasai'n meddwl bod mab ffarm o Eifionydd yn eu canol nhw?
"Mae yna ddegau o elfennau brenhinol - fel y coleg brenhinol yng Nghaerdydd, y Gerddorfa Philharmonig, y T欧 Opera Brenhinol yn Llundain - dwi'n rhan o'r rhain."
'Eisiau popeth i Gymru'
Dywed hefyd ei fod yn gweld ei hun fel llysgennad i Gymru a'i fod yn falch o gael ei anrhydeddu 芒'r CBE ac o fod yr ail berson i dderbyn Medal y Frenhines am gyfraniad i gerddoriaeth.
"O'n i'n gweld fy mod yn gweithio cyn galeted ag y medrwn i yn y maes cerddorol ac hefyd bo fi eisiau popeth i Gymru," ychwanegodd.
Dywed hefyd ei fod yn edrych ymlaen at fod yn rhan o brosiect digartrefedd Tywysog a Thywysoges Cymru yng Nghasnewydd.
Wrth s么n am yr albwm newydd dywed fod yna deimlad arbennig yn perthyn iddo a bod ei recordio yn stiwdio Acapela ym Mhentyrch wedi bod yn brofiad cwbl arbennig.
"Yn yr Almaen hefyd mae'r caneuon sianti yn taro nodyn," meddai, "ac mae'n rhaid i gwmni fel Deutsche Grammophon feddwl am werthiant sydd yn bach pellach na Chymru fach."
Ychwanegodd ei bod wedi bod yn fraint canu caneuon J Glyn Davies a chydweithio ag artistiaid fel Sting.
"'Nes i ei gyfarfod am y tro cynta' mewn cyngerdd yn Efrog Newydd - ac yna es i ganu Roxanne iddo mewn cyngerdd oedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 ac mi ddaeth o i ganu yn fy mhen-blwydd i yn 50.
"Mae o wedi perfformio deuawd gyda fi ar yr albwm - doeddwn ni ddim gyda'n gilydd ond mi wnaeth Patrick Rimes dod 芒'r ddau berfformiad at ei gilydd.
"Dyma'r recordiad gorau i mi ei wneud - gyda cherddorion gwych," ychwanegodd wrth iddo baratoi ar gyfer ei berfformiad nesaf, sef Der fliegende Holl盲nder gan Wagner yn y T欧 Opera yn Covent Garden.
Mae modd gwrando n么l ar sgwrs Bryn Terfel yn llawn ar 91热爆 Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2023
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd27 Awst 2019