91热爆

Torri cyllid yn 'tanseilio' Opera Cenedlaethol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cav a PagFfynhonnell y llun, Opera Cenedlaethol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cyngor Celfyddydau Lloegr yn cynllunio i dorri cyllid Opera Cenedlaethol Cymru o 35%

Mae rhai o gefnogwyr Opera Cenedlaethol Cymru (OCC) wedi ysgrifennu llythyr agored yn amlinellu eu pryderon am gynllun i ostwng cyllid y cwmni.

Mae Cyngor Celfyddydau Lloegr yn cynllunio i dorri cyllid y cwmni o 35%.

Cafodd y llythyr ei arwyddo gan 19 person, gan gynnwys y cantorion Rebecca Evans, Gwyn Hughes Jones, y Fonesig Kiri Te Kanawa a chyn-arweinydd y cwmni Syr Richard Armstrong.

Am ddegawdau mae OCC wedi cael ei ariannu gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr - partneriaeth mae'r llythyr yn dweud sy'n "fargen drawsffiniol amhrisiadwy sydd o fudd i gynulleidfaoedd yn y ddwy wlad".

Yn 么l y llythyr mae cynyrchiadau Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru o fudd i Loegr a Chymru, gyda'r rhan fwyaf o berfformiadau'r OCC y llynedd yn digwydd yn Lloegr.

'Llai o offerynwyr a chantorion'

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener dywedodd Geraint Talfan Davies, cyn-gadeirydd OCC ac un sydd wedi arwyddo'r llythyr: "Mae hon yn fargen drawsffiniol sydd wedi bod gyda ni am ddegawdau ac mae Cyngor Celfyddydau Lloegr wedi troi cefn ar y fargen heb godi'r ff么n ar Gyngor Celfyddydau Cymru.

"Be 'dan ni'n mynd i weld yw y bydd lleihad yn nifer y dinasoedd y bydd ein cwmni opera ni yn ymweld 芒 yn Lloegr.

"Mi fydd yna leihad yn nifer yr offerynwyr yn y gerddorfa - offerynwyr llawn amser a chantorion llawn amser yn y corws.

"Ma' hwnna yn mynd i danseilio, dwi'n credu, y cwmni mewn ffordd niweidiol dros ben."

Ffynhonnell y llun, Opera Cenedlaethol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru o 'Un ballo in maschera' gan Verdi yn 2019

Dywed Cyngor Celfyddydau Lloegr eu bod yn falch o allu buddsoddi 拢15.3m yn Opera Cenedlaethol Cymru yn ystod y tair blynedd nesaf ar gyfer eu gwaith yn Lloegr a'u bod yn edrych ymlaen i'r cwmni barhau 芒'u teithiau.

"Mae'n buddsoddiad yn ychwanegol i'r hyn y mae Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn ei dderbyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ynghyd 芒 Chyngor Celfyddydau Cymru ry'n ni yn siomedig bod Cyngor Celfyddydau Lloegr wedi gostwng eu cyllid i Opera Cenedlaethol Cymru.

"Mae canlyniad yr adolygiad buddsoddi yn fater i Gyngor Celfyddydau Lloegr ac ry'n yn cydnabod yr angen i wneud penderfyniadau anodd."

'Nid dyma'r amser'

Mae awduron y llythyr yn poeni na fydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn gallu cynnal maint y cwmni ac y bydd y toriad cyllid yn gostwng y nifer o weithwyr llawn amser ac y bydd hynny yn effeithio ar eu "gallu i ddarparu'r addysg a'r gwaith cymunedol sydd wedi bod o fudd i gymaint o bobl ifanc a chymunedau".

"Daethpwyd i'r casgliad bod cynnal corws a cherddorfa llawn amser yn ganolog i gynnal yr ansawdd hwnnw," medd y llythyr.

"Mae'r cynnig presennol i ddibynnu llawer mwy ar chwaraewyr a chantorion annibynnol - sydd ddim yn hawdd nac yn ymarferol y tu allan i Lundain - yn effeithio'n uniongyrchol ar enw da OCC.

"Rydym yn annog Cynghorau Celfyddydau Lloegr a Chymru i weithio gyda'i gilydd ar yr adolygiad yma... ac i wrthod unrhyw ostyngiad tan fod yr adolygiad wedi'i gwblhau," dywedodd y llythyr.

"Nid dyma'r amser i wthio'r fargen yma i'r naill ochr," ychwanegodd Geraint Talfan Davies.

"Fedrwch chi ddim tynnu 35% o arian Lloegr mas o gyllid y cwmni heb danseilio'r cwmni.

"Mae Cyngor Celfyddydau Lloegr wedi cychwyn ar asesiad strategol o opera - ond am ryw reswm asesiad strategol dim ond o opera yn Lloegr a gan fod cymaint o opera yn Lloegr yn cael ei gyflenwi gan Opera Cenedlaethol Cymru,dwi'n credu y dylai'r ddau gyngor ddod at ei gilydd i wneud yr asesiad strategol yma," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig