91热爆

Comisiynydd y Gymraeg: 'Dim dyddiad penodol eto' ar gyfer penodi

  • Cyhoeddwyd
Aled RobertsFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Aled Roberts yn Gomisiynydd y Gymraeg o Ebrill 2019 tan ei farwolaeth yn Chwefror 2022

Nid oes "dyddiad penodol eto" ar gyfer penodiad Comisiynydd y Gymraeg meddai Llywodraeth Cymru, ond mae'r cyfweliadau wedi eu cynnal ar gyfer y swydd.

Wedi marwolaeth y cyn-gomisiynydd, Aled Roberts fis Chwefror, ei ddirprwy, Gwenith Price, sydd wedi ymgymryd 芒 dyletswyddau'r r么l.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr oedd 17 Mehefin, ac mae'r cyfweliadau wedi eu cynnal.

Dywedodd llefarydd nad oedden nhw eisiau datgelu sawl ymgeisydd oedd, na sawl un cafodd eu cyfweld.

"Bydd 'na gyhoeddiad ar yr apwyntiad maes o law," meddai'r llefarydd.

45 o staff

Ers dod i rym yn 2012, bwriad r么l y Comisiynydd, sydd 芒 45 o staff, yw hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, gosod safonau ar sefydliadau a hybu statws swyddogol yr iaith.

Yn dilyn cyfnod Meri Huws fel deilydd cyntaf y swydd, penodwyd Aled Roberts ym mis Ebrill 2019.

Yn gyn-aelod Democratiaid Rhyddfrydol o'r Cynulliad, dywedodd bod "hybu a hyrwyddo yn fwyfwy pwysig", yn ogystal 芒'r gwaith o reoleiddio.