91热爆

Comisiynydd y Gymraeg Aled Roberts wedi marw yn 59 oed

  • Cyhoeddwyd
Aled RobertsFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Aled Roberts wedi bod yn Gomisiynydd y Gymraeg ers Ebrill 2019

Mae'r cyn-Aelod Cynulliad a Chomisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts wedi marw yn 59 oed.

O Rosllannerchrugog yn wreiddiol, fe fynychodd Ysgol y Ponciau, Ysgol y Grango ac Ysgol Rhiwabon cyn astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Wedi gyrfa fel cyfreithiwr, fe gafodd ei ethol i Gyngor Wrecsam yn 1991, cyn cael ei wneud yn faer y dref yn 2003, ac yna arweinydd y cyngor yn 2005.

Fe gafodd ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol - y Senedd, bellach - yn 2011.

Fe gynrychiolodd ranbarth Gogledd Cymru dros y Democratiaid Rhyddfrydol am bum mlynedd nes 2016 pan gollodd y blaid y sedd ranbarthol.

Bu wedyn yn gyfrifol am gynnal adolygiad annibynnol o'r Gymraeg mewn Addysg ar ran Llywodraeth Cymru ac yn cadeirio'r bwrdd a fu'n gweithredu'r argynmhellion a nodwyd yn ei adolygiad.

Wedi hynny fe ddaeth yn Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg gan olynu Meri Huws, ac roedd wedi bod yn y r么l honno ers 1 Ebrill 2019.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd ei ddirprwy fod cydweithio gydag Aled Roberts wedi bod yn "fraint"

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price: "Roedd Aled yn gymeriad hoffus 芒 dawn anghyffredin i ddod 芒 phobl at ei gilydd.

"Roedd yn ddyn ei filltir sgw芒r 芒'i galon yn y Rhos. Ei angerdd dros dwf yr iaith Gymraeg yn y rhan honno o Gymru oedd y sbardun iddo fynd ati i symbylu newid er lles cenedl gyfan.

"Pobl oedd wrth wraidd popeth a wna. Roedd yn gadarn ei weledigaeth dros gynyddu hawliau i siaradwyr Cymraeg, a thros sicrhau cyfiawnder pan fo annhegwch.

"Dymunai weld Cymru lle roedd cyfle gan bob dinesydd i siarad a defnyddio'r iaith. Doedd dim pall ar ei frwdfrydedd, a gweithiodd yn ddiflino drwy ei salwch. Braint oedd cydweithio ag o.

"Mae'r newyddion am ei farwolaeth yn ein trist谩u yn ddirfawr, a gwyddom y bydd pawb sydd wedi gweithio ag o'n teimlo yr un fath.

"Rydym yn meddwl heddiw am ei deulu; am ei wraig, Llinos, a'u meibion, Ifan ac Osian, ei fam a'i chwaer, ac mae ein cydymdeimladau dwysaf 芒 nhw yn eu colled."

'Ymrwymiad i'r Gymraeg'

Yn rhoi teyrnged iddo, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Daeth 芒 barn wybodus iawn am ogledd Cymru i'r Senedd ac ymrwymiad i'r Gymraeg a aeth ymhell y tu hwnt i wleidyddiaeth y pleidiau.

"Yn ystod ei gyfnod fel comisiynydd, tynnodd yn uniongyrchol ar ei brofiad ei hun, a phrofiad y cymunedau yr oedd wedi'u cynrychioli, i ganolbwyntio ar y Gymraeg fel iaith fyw, rhan o'n profiad bob dydd.

"Mae'n ddrwg iawn gennyf fod ei amser a'i waith fel comisiynydd wedi'i dorri'n fyr oherwydd ei farwolaeth annhymig. Bydd colled ar ei 么l mewn cymaint o ffyrdd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd "parch aruthrol i Aled ar draws y pleidiau gwleidyddol", meddai Heledd Fychan AS

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds y bydd Aled Roberts yn cael ei gofio am ei waith diflino yn gwarchod a hybu'r Gymraeg.

"Bydd yn cael ei gofio am ei waith eithriadol fel aelod o'r Cynulliad dros Ogledd Cymru ac fel cynghorydd sir," meddai.

"Fe wnaeth ffynnu yn ei waith fel Comisiynydd y Gymraeg gan ymgeisio i hyrwyddo'r iaith ym mhob agwedd o fywyd gan gynnwys ei waith fel aelod o'r Cynulliad.

"Bydd marwolaeth Aled yn gadael twll dwfn ym mywyd gwleidyddol Cymru ac yn ein plaid - byddwn yn ei golli'n fawr."

'Diolch am ei gyfraniad i'r genedl'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg, Heledd Fychan fod "parch aruthrol i Aled ar draws y pleidiau gwleidyddol fel cyn-arweinydd Cyngor Bwrdeistref Wrecsam, cyn-Aelod Cynulliad ac yna fel Comisiynydd y Gymraeg".

"Roedd yn angerddol dros yr iaith, a'r defnydd ohoni yn ein bywydau bob dydd, a bydd colled fawr ar ei 么l," meddai.

"Hoffwn ar ran Plaid Cymru yrru ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu a'i ffrindiau heddiw, a diolch am ei gyfraniad i'r genedl."

Ychwanegodd arweinydd y gr诺p Ceidwadol yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Bydd Aled yn cael ei gofio am ei wasanaeth cyhoeddus a'i angerdd am yr iaith Gymraeg.

"Roedd ganddo lawer yn dal i'w gynnig. Rydym yn meddwl am y teulu yn y cyfnod anodd yma."

'Dyn y bobl'

Dywedodd y cyn brif weinidog Carwyn Jones fod "gan bawb barch tuag at Aled".

"Roedd e'n gryf yn ei gred. Yn Rhyddfrydwr cadarn ond oedd e wastad yn fodlon gweithio gyda rhai yn y pleidiau eraill er mwyn sicrhau lles pobl Cymru.

"Roedd yn teimlo yn gryf dros yr iaith, wedi dod o gefndir glofoal a dosbarth gweithiol ac yn dod o ardal lle'r oedd y Gymraeg wedi cwympo ac yn gweld hynny ei hunain....roedd e am weld fod cymunedau fel Rhos yn gallu defnyddio'r Gymraeg."

Un oedd yn ei adnabod yn dda yw'r barnwr a'r sylwebydd Nic Parry, oedd wedi gweithio yn yr un cwmni cyfreithiol a Mr Roberts yn y gogledd.

Dywedodd fod y newyddion ysgytwol yn "golled sy'n mynd i gael ei theimlo ar yr aelwyd ond yn genedlaethol yn ddiamheuol".

"Oedd yn ddyn y bobl...yn ymuno efo nhw ar ddydd Sadwrn i gefnogi [t卯m] Wrecsam, lle ro ni'n ei weld yn aml.

"Roedd yn un o'r bobl gyffredin ac roedden nhw'n meddwl y byd ohono. Roedd o'n ddyn o chi'n gallu ymddiried ynddo fo o ac mae hynny mor mor bwysig."

Pynciau cysylltiedig