91Èȱ¬

Safonau'r Gymraeg: Cymeradwyo rheoliadau newydd

  • Cyhoeddwyd
DeintyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn un o'r cyrff dan sylw

Bydd naw corff Prydeinig o'r sector iechyd yn dod o dan ddyletswydd i ddefnyddio'r Gymraeg, ar ôl i Senedd Cymru gymeradwyo set newydd o reoliadau Safonau'r Gymraeg.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Jeremy Miles, y bydd "yn cryfhau hawliau unigolion wrth ddelio â'r sector".

Ond dywedodd Cymdeithas yr Iaith bod Llywodraeth Cymru "wedi colli cyfle, a hynny ar draul cleifion".

Dyma'r set gyflawn gyntaf o reoliadau safonau i ddod gerbron y Senedd ers 2018, pan gyhoeddodd y Gweinidog y Gymraeg ar y pryd, Eluned Morgan na fyddai Llywodraeth Cymru'n gorfodi rhagor o sectorau i fabwysiadu'r Safonau Iaith am y tro.

Bryd hynny, dywedodd Ms Morgan ei bod wedi sylweddoli bod y "broses o wneud a gosod y safonau yn llafurus, costus a chymhleth".

Crëwyd y drefn hon gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Mae 124 o gyrff eisoes yn dod o dan y safonau, gan gynnwys byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru, a bydd y rheoliadau hyn yn codi'r nifer i 133.

Mae safonau'r Gymraeg yn egluro sut mae'n rhaid i sefydliadau ddefnyddio ac ystyried y Gymraeg ochr yn ochr â'r Saesneg.

Y cyrff dan sylw yw:

• Y Cyngor Ceiropractig Cyffredinol

• Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol

• Y Cyngor Meddygol Cyffredinol

• Y Cyngor Optegol Cyffredinol

• Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol

• Y Cyngor Fferylliaeth Cyffredinol

• Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal

• Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

• Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

'Cynyddu defnydd'

Dywedodd Jeremy Miles mai "rhan o'r jig-so yw'r rheoliadau hyn er mwyn gwireddu'r nod o gynyddu defnydd - a dyna sy'n bwysig - o wasanaethau Cymraeg".

"Bydd angen cefnogi'r cyrff i adeiladu capasiti i gynnig mwy o wasanaethau Cymraeg. Bydd swyddfa'r comisiynydd ar gael i gynnig arweiniad i'r cyrff wrth iddyn nhw fynd ar eu taith iaith.

"Bydd partneriaid eraill fel y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol hefyd ar gael i gynnig help i'r cyrff a'u staff, os byddan nhw'n dymuno dysgu Cymraeg, i allu cynnig gwell gwasanaethau Cymraeg i'r cyhoedd."

Ymatebodd Heledd Fychan ar ran Plaid Cymru: "Mae hawliau iaith penodol newydd a phwysig yn cael eu creu yn sgil y rheoliadau."

Cyfeiriodd at "yr hawl i'r cyhoedd yng Nghymru wneud cais am swydd yn Gymraeg gyda'r cyrff dan sylw, ac i weithiwyr y cyrff allu cael gwersi Cymraeg am ddim; yr hawl i ymarferwyr a'r proffesiynau iechyd sy'n wynebu cwynion yn eu herbyn i gael ymwneud yn Gymraeg â'r broses drwyddi draw, ar lafar ac yn ysgrifenedig; a'r hawl i aelodau'r cyhoedd yng Nghymru allu gweld, clywed a defnyddio'r Gymraeg yn eu hymwneud â'r cyrff. "

Ychwanegodd ei bod yn "falch iawn bod y llywodraeth ar y cyd 'efo Plaid Cymru yn ymrwymedig i ymestyn y ddyletswydd i ddefnyddio'r Gymraeg i sectorau eraill o bwys sy'n cyffwrdd bywydau dinasyddion Cymru, megis y diwydiant dŵr, maes trafnidiaeth, cyrff cyhoeddus newydd sydd tu allan i'r gyfundrefn safonau a'r cymdeithasau tai, ynghyd â'r ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio i ddatblygu amserlen i gwblhau gweithredu'r Mesur yn ei gyfanrwydd".

'Ehangu'r hawl'

Esboniodd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg: "Bydd y rheoliadau yn dod i rym ar 31 Hydref 2022 ac o'r dyddiad hwnnw byddwn yn medru gosod dyletswyddau ar y cyrff drwy roi Hysbysiad Cydymffurfio iddynt.

"Bydd y gwaith cychwynnol o drafod gyda'r cyrff yn unigol yn cychwyn yn fuan gyda'r broses o ymgynghori ar hysbysiadau cydymffurfio yn barod erbyn daw'r rheoliadau i rym."

Yn ôl Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price, "bydd gosod safonau ar y sefydliadau hyn yn ehangu'r hawl sydd gan ddefnyddwyr i ddod at y Comisiynydd gyda chŵyn os ydynt yn cael trafferth defnyddio'r Gymraeg".

'Colli cyfle'

Ymatebodd Gwerfyl Roberts, cadeirydd grŵp iechyd Cymdeithas yr Iaith: "Dim ond gwasanaethau sy'n cael eu darparu yn uniongyrchol trwy'r cyrff rheoleiddio fydd yn cael eu cynnwys yn y Safonau newydd, fydd dim disgwyliadau i sicrhau bod unrhyw driniaeth ar gael yn Gymraeg.

"Nid yn unig mae hyn yn effeithio ar gleifion heddiw ond wrth anwybyddu dylanwad y cyrff rheoleiddio ar gynllunio gweithlu iechyd Cymraeg yng Nghymru, parhau fydd y sefyllfa, a bydd cleifion bregus yn parhau i gael eu hamddifadu o dderbyn triniaeth yn Gymraeg.

"Mae'r llywodraeth wedi colli cyfle, a hynny ar draul cleifion. Er bod y llywodraeth yn arddel egwyddor 'y cynnig rhagweithiol' ym maes iechyd, dydy'r Safonau ddim yn adlewyrchu hynny o gwbl.

"Dylai'r Safonau hwyluso profiadau defnyddwyr, gan gynnwys aelodau proffesiynol, rhai dan hyfforddiant ac aelodau'r cyhoedd; a dylent fynd i'r afael â holl swyddogaethau cyrff rheoleiddio gofal iechyd."