Eisteddfod 2022: Gruffydd Si么n Ywain yn ennill y Fedal Ddrama
- Cyhoeddwyd
Mae'r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 wedi cael ei rhoi i Gruffydd Si么n Ywain.
Daeth i'r brig gyda'r ddrama 'Nyth' mewn cystadleuaeth a ddenodd 15 o ymgeiswyr a chafodd ei anrhydeddu ar lwyfan y Pafiliwn yn Nhregaron ddydd Iau.
Mae Gruffydd Si么n Ywain, sy'n wreiddiol o Ddolgellau ond sydd bellach yn byw yn Llundain, hefyd yn derbyn rhodd ariannol o 拢750.
Wrth draddodi ar ran ei chyd-feirniaid, dywedodd Janet Aethwy fod y ddrama fuddugol yn "stori afaelgar wedi ei saern茂o'n gelfydd".
Y dasg oedd cyfansoddi drama lwyfan, heb gyfyngiad o ran hyd, sydd 芒 photensial i'w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.
Pwy ydy Gruffydd Si么n Ywain?
Magwyd ym Mhenybryn, Dolgellau, gyda'i ddau frawd a'i chwaer.
Astudiodd yn Ysgol Gynradd Dolgellau, Ysgol y Gader a Choleg Meirion Dwyfor cyn gweithio fel dylunydd.
Symudodd i Goleg Chelsea Llundain i astudio dylunio a chyfathrebu ac mae wedi byw yn Llundain ers 15 mlynedd erbyn hyn.
Fel aelod o G么r Llundain mae'n rhan o gymdeithas Gymraeg clos y ddinas.
Mae'n gweithio fel Cyfarwyddwr Creadigol yn y 91热爆, yn gyfrifol am ddyluniad systemau cynhyrchu a chreadigol y gorfforaeth.
Mae hefyd yn parhau i greu gwaith creadigol llawrydd, gan gydweithio'n ddiweddar gyda S诺nami, Hansh a'r Urdd.
Dyma'r tro cynaf iddo gystadlu am y Fedal Ddrama.
'Ffraeth ac emosiynol'
Y beirniaid eleni oedd Janet Aethwy, Sharon Morgan a Sera Moore Williams.
"Mae'n ddrama hyderus a chrefftus sy'n portreadu perthynas cwpwl gwrywaidd sy'n chwilio am fam fenthyg er mwyn creu teulu, a'u perthynas hwy gyda ffrind benywaidd," meddai Janet Aethwy am y ddrama fuddugol.
"Mae'r them芒u yn gyfredol a dadleuol a pherthnasol i gynulleidfa heddiw ac mae'r cymeriadau yn gwbl gredadwy, yn gelfydd a chrwn.
"Mae'r ddeialog yn ffraeth ac yn emosiynol ac yn llifo'n wych.
"Mae'r dramodydd yn defnyddio ei gymeriadau i wthio'r plot yn ei flaen yn araf a phwyllog ac mae sicrwydd y bwriad wrth adeiladu'r stori yn dal ein sylw wrth i ni fuddsoddi yn nhynged y cymeriadau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2022
- Cyhoeddwyd3 Awst 2022
- Cyhoeddwyd2 Awst 2022