Meinir Pierce Jones yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen
- Cyhoeddwyd
Meinir Pierce Jones yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.
Derbyniodd yr awdur o Nefyn, Ll欧n yr anrhydedd am ei nofel 'Capten' mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn yn Nhregaron brynhawn Mawrth.
Roedd 14 wedi ymgeisio eleni i greu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn stor茂ol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.
Y wobr yw Medal Goffa Daniel Owen, yn rhoddedig gan Gareth, Cerys a Betsan Lloyd, Talgarreg - a 拢5,000 gan Brifysgol Aberystwyth.
Dywedodd un o'r tri beirniad, yr awdur Manon Steffan Ros, fod "y safon yn gyffredinol yn uchel iawn eleni" er nad oedd y tri yn gyt没n ar yr enillydd.
'Gwirionais fy mhen yn syth'
Y beirniaid oedd Manon Steffan Ros, Emyr Llywelyn ac Ioan Kidd - er nad oedd Mr Llywelyn bresennol ar lwyfan y Pafiliwn oherwydd Covid-19.
Wrth draddodi'r feirniadaeth, dywedodd Manon Steffan Ros eu bod yn "chwilio am nofel a fyddai'n deilwng o wobr sy'n cario enw Daniel Owen, un o'r awduron mwyaf medrus, synhwyrus a gafaelgar yn hanes Cymru".
"Roedd ein disgwyliadau felly'n uchel," meddai.
"Mae'n draddodiad wrth draddodi beirniadaeth i rannu'r gwaith i wahanol ddosbarthiadau, ond ma' arna i ofn na fydda i'n gwneud hynny heddiw, gan fod y dosbarthiadau hynny wedi bod yn reit wahanol gan y tri beirniad.
"Ond ma'n saff dweud mod i o'r farn bendant fod y safon yn gyffredinol yn uchel iawn eleni, a 'mod i wedi cael mwynhad gwirioneddol wrth ddarllen bob un.
"...Ac ymlaen at 'Capten' gan Polly Preston. Gwirionais fy mhen yn syth 芒'r nofel hyfryd hon, a methais ei rhoi i lawr.
"Mae'r arddull yn gynnil ond yn hardd; y cymeriadau yn gwbl real o'r dechrau un; y stori'n crisialu cyfnod sydd wedi mynd, heb deimlo'n sentimental nac yn hiraethus.
"Mae'n anodd meddwl am unrhyw nofel debyg i hon, ond teimlaf fod cryfder y cymeriadau a'u perthynas nhw gyda'u cymunedau yn fy atgoffa o grefft Kate Roberts.
"Does dim amheuaeth gen i mai 'Capten' ydy nofel orau'r gystadleuaeth eleni. Mae hi'n hyfryd, hyfryd, hyfryd o nofel."
Ychwanegodd: "Er i'r tri beirniad gytuno i ddechrau mai Polly Preston oedd enillydd haeddiannol Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, ar 么l i ni'n tri gael un cip olaf, golygodd ail-ddarlleniad fod ail-feddwl, a bu trafodaethau pellach. Ni fu penderfyniad unfrydol.
"Pryder mawr Emyr Llywelyn ydi fod gormod o ddefnydd o Saesneg yn y nofel hon, a Ioan Kidd a minnau o'r farn mai dyfais oedd hyn, fod yr awdur yn defnyddio'r Saesneg fel symbol o ddieithrwch a'r chwithdod rhwng fydoedd y ddwy iaith.
"Mewn geiriau eraill, mae'r defnydd o Saesneg yn y nofel hon yn pwysleisio pwysigrwydd a harddwch y Gymraeg, ac yn nodi'n gelfydd y bygythiad sydd i'r cymunedau yn sgil y defnydd o'r Saesneg.
"Mae'n drueni, wrth gwrs, nad oedd y beirniaid yn unfryd, ac fel oeddwn i'n s么n gynna', bydd posib i chi ddarllen sylwadau'r tri ohonom ar bob un o'r ymgeisiadau yn y Cyfansoddiadau.
"Mae Ioan Kidd a minnau'n gwbl hyderus fod Polly Preston yn gwbl haeddiannol o Wobr Goffa Daniel Owen eleni, ac y bydd y nofel yn cael ymateb gwresog gan ddarllenwyr Cymru.
"Mae'n chwip o nofel, fedrai'm disgwyl i chi gael ei darllen hi! Llongyfarchiadau fil i Polly Preston, ac i'r holl gystadleuwyr."
Pwy ydy Meinir Pierce Jones?
Cafodd ei magu ar fferm ar gyrion Nefyn ac ar 么l crwydro dipyn daeth adref, ac yno y mae hi a'i chymar Geraint yn byw ers chwarter canrif a mwy.
Mae ganddyn nhw bedwar o blant - Math, Casia, Efa a Sabel - a dau o wyrion, Caio a Deri.
Addysgwyd Meinir yn Ysgol Nefyn, Ysgol Glan y M么r, Pwllheli a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor.
Ei swydd gyntaf oedd swyddog golygyddol gyda'r Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth ac ar hyn o bryd mae'n gweithio fel golygydd creadigol gyda Gwasg y Bwthyn yng Nghaernarfon.
Yn y blynyddoedd rhwng hynny bu'n ennill ei bara menyn fel awdur a chyfieithydd a sgriptwraig yn bennaf.
Bu hefyd yn gweithio fel rheolwr prosiect i ailagor a rhedeg Amgueddfa Forwrol Ll欧n rhwng 2011 a 2019.
Mae Meinir wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar gyfer plant dros y blynyddoedd yn cynnwys Y Cwestiwn Mawr, Modryb Lanaf Lerpwl, Bargen Si么n ac yn fwyaf diweddar Cnwcyn a'i Ffrindiau.
Cyhoeddodd ddwy nofel flaenorol ar gyfer oedolion sef Y Gongl Felys, a gyrhaeddodd Restr Hir Llyfr y Flwyddyn yn 2005 a Lili dan yr Eira. Ysgrifennodd Capten dros gyfnod y pandemig.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2022
- Cyhoeddwyd1 Awst 2022
- Cyhoeddwyd1 Awst 2022