91热爆

Crynodeb

  • Meinir Pierce Jones yn ennill Medal Goffa Daniel Owen

  • Beirniadu toiledau a glendid 'anaddas' y 'Steddfod

  • Maes B yn agor a gwersyllwyr yn edrych ymlaen

  • Galw am drefnu mwy o eisteddfodau lleol

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 17:18 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022

    A dyna ni o faes Eisteddfod Ceredigion yn Nhregaron am heddiw.

    Roedd hi'n ddiwrnod glawog ond wnaeth y glaw ddim amharu ar yr hwyl, y gweithgareddau a'r cystadlu.

    Ac roedd yna deilyngdod eto heddiw - llongyfarchiadau mawr i Meinir Pierce Jones o Nefyn wrth iddi ennill Medal Goffa Daniel Owen gyda chlamp o nofel.

    Mae dydd Mercher yn ddiwrnod llawn gwobrau - y diweddaraf yma ar ein llif byw fory.

    Mae gweddill straeon y dydd ar wefan Cymru Fyw a lluniau'r dydd o'r Eisteddfod yma.

    Hwyl am y tro - diolch am eich cwmni.

    cor
  2. Tocynnau Cabarela fel aurwedi ei gyhoeddi 17:17 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022

    Caffi Maes B oedd llwyfan cyntaf Cabarela n么l yn Eisteddfod Sir Fynwy yn 2016. Heno, y Pafiliwn yw eu llwyfan.

    Mae sioeau Cabarela sy'n gyfuniad o gerddoriaeth a chomedi gan y gr诺p Sorela, Hywel Pitts, Ffion Emyr, Meilir Rhys, Iestyn Arwel a Miriam Isaac wedi mynd o nerth i nerth, ac mae'r tocynnau wastad fel aur!

    CabarelaFfynhonnell y llun, Eisteddfod
    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Plismona ar y maes!wedi ei gyhoeddi 17:07 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022

    Dyma Morgan, 6, yn gwisgo helmed yr heddlu, a'i frawd mawr Osian, sy'n 10, yn cadw llygad arno.

    beic
  4. Cydnabod mawrion Ceredigionwedi ei gyhoeddi 17:05 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022

    Ym mhabell Cyngor Sir Ceredigion mae saith llun o Gardis adnabyddus; Lyn Ebenezer, Dic Jones, Caryl Lewis, Lleucu Roberts, Menna Elfyn, Hywel Teifi Edwards a T. Llew Jones.

    portreadauFfynhonnell y llun, bbc
  5. Casglu barn am ddifrifoldeb argyfwng hinsawddwedi ei gyhoeddi 17:02 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022

    Maes

    Yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg, mae Extinction Rebellion yn gofyn i bobl rannu eu barn am ddifrifoldeb yr argyfwng hinsawdd.

    鈥淢ae鈥檙 ymateb wedi bod yn drawiadol iawn,鈥 meddai Philippa Gibson o Bontgarreg.

    鈥淗eddiw, does neb wedi nodi ei fod e ddim yn ddifrifol.鈥

    Maen nhw wedi 鈥渟ynnu braidd gan yr ymateb cadarnhaol鈥 ar y stondin ac allan ar y maes.

    Maes
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    鈥淢ae鈥檙 ymateb wedi bod yn drawiadol iawn,鈥 meddai Philippa Gibson o Bontgarreg

  6. Mwy o dalent Ll欧n ar y ffordd i Dregaronwedi ei gyhoeddi 16:59 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022

    Mae cast y sioe Mae Pawb Isio Byw gan Tebot, cwmni theatr cymunedol yn Ll欧n wedi bod yn ymarfer eu sioe newydd ar gyfer ei pherfformio yn yr Eisteddfod.

    Byddan nhw'n perfformio'r sioe gomedi newydd ar Lwyfan y Maes o nos Iau ymlaen. Ymysg y cast mae Llyr Titus a Mared Llywelyn Williams, dau o Forfa Nefyn, Ll欧n.

    Gyda Meinir Pierce Jones o Nefyn yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen heddiw, Esyllt Maelor o Forfa Nefyn yn cael ei choroni ddoe, mae Pen Ll欧n yn sicr yn gwneud ei farc ar Dregaron.

    Mae Pawb Isio BywFfynhonnell y llun, Tebot
  7. Meinir Pierce Jones yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owenwedi ei gyhoeddi 16:58 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022

    Nofel gan yr awdur o Nefyn oedd yn fuddugol eleni - er nad oedd penderfyniad y beirniaid yn unfrydol.

    Read More
  8. C么r Hen Nodiant yn dathluwedi ei gyhoeddi 16:53 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022

    Roedd C么r Hen Nodiant yn falch iawn o ennill cystadleuaeth y c么r i bensiynwyr.

    Catrin Williams gyda'r tlws yw'r arweinydd, a Marged Jones sy'n sefyll wrth ei hymyl oedd yn cyfeilio.

    hen nodiant
  9. Ymateb da iawn i ddeiseb Mynyddoedd Cambriawedi ei gyhoeddi 16:49 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022

    Mae Cymdeithas Mynyddoedd Cambria yn casglu llofnodion ar y maes i ddeiseb yn galw ar i'r mynyddoedd fod yn ardal o harddwch naturiol eithriadol.

    Un fuodd yn casglu b'nawn Mawrth oedd Erin, 11, o Landdewi Brefi: 鈥淔i yw si诺r o fod y person mwya鈥 ifanc sy鈥檔 casglu! Ni wedi cael ymateb da iawn.鈥

    Mae Elenydd yn rhan o Fynyddoedd Cambria.

    Erin o Landdewi Brefi yn falch o'r ymateb hyd yma
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Erin o Landdewi Brefi yn falch o'r ymateb hyd yma

  10. Aneirin Jones a Ryan Young yn codi to'r T欧 Gwerinwedi ei gyhoeddi 16:42 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022

    Roedd Aneirin Jones a Ryan Young yn diddanu yn y T欧 Gwerin ar ddiwedd y dydd - a'r gynulleidfa wrth eu boddau.

    Disgrifiad,

    Aneirin Jones a Ryan Young yn diddanu yn y T欧 Gwerin

  11. Sioe ar safle hynafol Ystrad Fflurwedi ei gyhoeddi 16:39 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022

    Abaty Ystrad Fflur yw safle godidog drama awyr agored Yr Arglwydd Rhys gan gwmni theatr Mewn Cymeriad ar nos Fercher 3 Awst.

    Ychydig filltiroedd o'r Maes ger Pontrhydfendigaid, mae'r cast wedi bod yn ymarfer sioe gyntaf y cwmni gyda mwy nag un cymeriad.

    Mae鈥檙 sioe deuluol yn seiliedig ar Yr Arglwydd Rhys; honnir mai ef a gynhaliodd yr Eisteddfod gyntaf erioed yn ei gastell yn Aberteifi 1176.

    Y cast yw Dyfed Cynan (Yr Arglwydd Rhys), Si么n Emyr (bardd), Cadi Beaufort (Gwenllian) a Ffion Glyn (Harri II).

    Y cerddor Mei Gwynedd sydd wedi cyfansoddi鈥檙 caneuon i eiriau鈥檙 Prifardd Anerin Karadog.

    Ystrad Fflur
  12. "Profiad gwefreiddiol" ennill Medal Goffa Daniel Owenwedi ei gyhoeddi 16:31 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022

    Disgrifiad,

    Meinir Pierce Jones - enillydd Medal Goffa Daniel Owen

  13. Un o hoff gymeriadau plant Cymru ar lwyfan y Pafiliwnwedi ei gyhoeddi 16:28 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022

    Mae Nel, un o hoff gymeriadau plant Cymru yn mentro ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf brynhawn yma.

    Bydd sioe Na, Nel! - Achub y Byd! ymlaen yn y Pafiliwn am 17.30 heddiw ac mae'n cael ei ddisgrifio fel "Proms cerddorol i鈥檙 teulu cyfan".

    Mae'r sioe gan Meleri Wyn James wedi ei seilio ar gymeriad direidus y gyfres lyfrau Na Nel!

    Na NelFfynhonnell y llun, Y Lolfa
  14. Paned o G锚 - mor bwysig i ni fod ar y maeswedi ei gyhoeddi 16:21 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022

    鈥淢ae mor bwysig cael stondin fel ein un ni ar y maes, a 鈥榙an ni wedi bod yn weddol brysur,鈥 medd Daniel Bowen o siop lyfrau LHDTC+ Paned o G锚.

    "Er i鈥檙 criw gael ymateb 鈥渃ymysg鈥 gan rai, mae wedi bod 鈥渕or c诺l gweld cymaint o bobl ifanc mor hyderus yn dod mewn a phrynu,鈥 meddai.

    Maes
  15. Ifan Gruffydd a Nyth Cacwn yn 么lwedi ei gyhoeddi 16:16 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022

    Ar 么l dros 30 mlynedd o aros, ac am ddwy noson yn unig, bydd Ifan Gruffydd a'r ddrama Nyth Cacwn yn 么l ar nos Fercher a Iau, 3 a 4 Awst, ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid.

    Yn 么l Euros Lewis, cyfarwyddwr a chyd-awdur y sioe: "Dyw e ddim yn gyd-ddigwyddiad - mae'r ffaith fod y 'Steddfod wedi dod i Dregaron - oedd e yn gwneud beth mae'r 诺yl fod i wneud wrth deithio i le i le - oedd e yn sbarduno ac yn hala ni i gwestiynu beth os, ac os 'y ni mynd i ddod 芒 Nyth Cacwn yn 么l - os na wnawn ni e nawr, ni byth yn mynd i 'neud e."

    Mwy am y stori yma.

    Nyth CacwnFfynhonnell y llun, bbc
  16. Merched Ll欧n yn serennu ...wedi ei gyhoeddi 16:08 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022

    Mae nifer wedi bod yn llongyfarch yr awdures fuddugol ar y cyfryngau cymdeithasol - yn eu plith ffrindiau ers blynyddoedd maith.

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. 'Parchu barn Emyr Llew ond yn anghytuno'wedi ei gyhoeddi 16:08 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022

    Mewn cyfweliad ar S4C wedi'r seremoni, ac mewn ymateb i feirniadaeth Emyr Llywelyn am gynnwys y Saesneg yn y nofel dywedodd Meinir Pierce Jones dan chwerthin:

    "Dwi'n parchu barn Emyr Llew yn llwyr ond dwi'n anghytuno efo fo,"

    Dywedodd fod y nofel yn 103,000 o eiriau o hyd ond fod "llai na 1%" ohoni yn Saesneg.

    Roedd Emyr Llywelyn yn credu bod yna ormod o Saesneg yn y gwaith buddugol - y ddau feirniad arall oedd am wobrwyo'r nofel.

    CaptenFfynhonnell y llun, Siop y Felin
  18. Dal y tr锚n i Maes Bwedi ei gyhoeddi 15:53 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022

    Daniel a Molly o Gaerdydd
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Daniel a Molly o Gaerdydd

    Dal y tr锚n o Gaerdydd i Aberystwyth cyn cyrraedd Tregaron a Maes B wnaeth Daniel a Molly.

    Hefyd yn cyrraedd ar ddiwrnod cyntaf y gwersyll, mae'r criw isod. Maen nhw'n cyrraedd mewn pryd ar gyfer y parti agoriadol heno sy'n cael ei ddisgrifio fel "Takeover enfawr" gan Roughion, Martyn Kinnwe, Ryan M Hughes a Rollie.

    Mwy yn cyrraedd Maes B
  19. O Ben Ll欧n a Chaerdydd i Maes Bwedi ei gyhoeddi 15:43 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022

    Pwy sy'n edrych fwyaf parod am Maes B a phob tywydd? Awen a Celyn o Gaerdydd neu Cai a Twm o Ben Ll欧n?

    Awen a Celyn o Gaerdydd
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Awen a Celyn o Gaerdydd

    Cai a Twm o Ben Ll欧n
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Cai a Twm o Ben Ll欧n

  20. Gwersyllwyr ar y ffordd i Maes Bwedi ei gyhoeddi 15:38 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022

    Am hanner dydd heddiw fe agorodd gwersyll Maes B. Ar 么l tair blynedd o aros ers y Maes B diwethaf yn Llanrwst yn 2019, tydi ychydig o giwio ddim i weld yn broblem i ieuenctid Cymru...

    Disgrifiad,

    Gwersyllwyr Maes B