Eisteddfod Ceredigion 2022: Seremoni y Fedal Ddrama
- Cyhoeddwyd
Seremoni y Fedal Ddrama fydd prif seremoni'r dydd ym mhafiliwn y brifwyl ddydd Iau.
Y dasg oedd cyfansoddi drama lwyfan ac nid oedd unrhyw gyfyngiad o ran hyd.
Am 17:00 brynhawn Iau bydd y beirniaid Janet Aethwy, Sharon Morgan a Sera Moore Williams yn datgelu, os oes teilyngdod, ffugenw'r buddugol.
Fel yn achos seremoni Medal Goffa Daniel Owen, seremoni fer fydd hon a dyw'r Archdderwydd na'r Orsedd ddim yn rhan o'r seremoni.
Mae'r buddugol yn ennill y fedal (er cof am Urien Wiliam) a 拢750 o Gronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli.
Gwobrwyir drama sydd 芒 photensial i'w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.
Enillydd Medal Ddrama Eisteddfod AmGen 2021 oedd Gareth Evans-Jones, o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys M么n.
Hon oedd yr eildro iddo gipio'r Fedal gan iddo hefyd ennill y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn Llanrwst yn 2019 am ei ddrama Adar Papur.
Ddydd Iau hefyd bydd y beirniaid yn yr adran gerddorol yn dewis pwy fydd yn cael cystadlu am y Rhuban Glas eleni.
Yn ystod y dydd bydd Llywyddion Anrhydeddus Ceredigion yn cael eu croesawu i'r llwyfan - sef Bethan Bryn, Delyth Hopkins Evans, Neli Jones, Rhiannon Lewis ac Owain Schiavone.
Roedd g诺r Neli Jones, Selwyn Jones, i fod yn llywydd anrhydeddus gyda'i wraig Neli ond bu farw yn gynharach eleni ac felly fe fydd rhan o'r digwyddiad yn coff谩u ei gyfraniad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd2 Awst 2021