Dathlu canmlwyddiant Neges Ewyllys Da yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Mae mudiad yr Urdd yn dathlu canmlwyddiant y traddodiad o anfon Neges Ewyllys Da flynyddol i bobl ifanc yng ngweddill y byd.
Mae'r neges oddi wrth ieuenctid Cymru wedi ei chyflwyno yn ddi-dor ers 1922 - a chafodd ei darlledu am y tro cyntaf ddwy flynedd yn ddiweddarach dros donfeddi'r 91热爆 World Service.
Erbyn heddiw mae'r negeseuon blynyddol yn cael eu cyfieithu i 100 o ieithoedd.
Ffrwyth llafur y Parch Gwilym Davies, heddychwr, yw'r neges.
Ymhlith y cannoedd o bobl ifanc Cymru sydd wedi bod ynghlwm 芒'r neges mae'r cyn-Aelod Seneddol, Ann Clwyd.
Yn Eglwys Gadeiriol Caer yn 1952 fe gyflwynodd hi neges o ewyllys da fu'n cyfeirio at newyn, rhyfeloedd a thrallodau ar draws y byd.
"O'n i tua 14 amser hynny ac mae'n bell yn 么l, ond mae gen i lun rhywle o fi yn sefyll yn yr ardd yng Nghaer ac o'n i ar fin mynd i siarad yn y gadeirlan," meddai Ms Clwyd.
"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig bod pobl ifanc yn gwybod be sy'n digwydd yn y byd a bod nhw'n cymryd cyfrifoldeb am wella petha mewn gwahanol wledydd."
Dywedodd y cyn-wleidydd bod y neges heddwch hyd yn oed yn fwy perthnasol wrth gyfeirio at ryfel Wcr谩in.
Mae'r neges o ewyllys da bellach yn cyrraedd 100 o wledydd, gyda phobl ifanc eraill yn ymateb yn eu hiaith frodorol.
O fynd i'r afael 芒'r cynnydd mewn troseddau cyllyll i rybuddio yn erbyn twf arfau niwclear yn yr 1980au, mae'r neges wedi ymdrin 芒 sawl pwnc dros y blynyddoedd.
Yn 1987 fe deithiodd Guto Puw i Genefa gyda'r Urdd, a sylw'r neges o ewyllys da - arfau niwclear.
"Mynd 芒 thelegramau heddwch oeddan ni, oedd yr Urdd wedi bod yn casglu," meddai Guto sy'n wreiddiol o'r Parc ger Y Bala.
"Naethon ni gasglu rhyw 20,000, a dwi'n cofio cario y pethau trymion 'ma - rhyw dri pharsel trwm - eu cario nhw ar draws y ffordd a'u cyflwyno nhw yn Genefa.
"Oedd 'na lot yn y newyddion am arfau niwclear a gwledydd yn adeiladu nhw - mi oeddan ni dal yn y rhyfel oer.
"Mae o yn bwysig. Dwi'n meddwl bod pobl yn fwy tueddol o wrando ar bobl ifanc a dwi'n gobeithio y bydd pobl yn gweithredu ar hynny oherwydd ma' neges heddwch yr Urdd bob amser yn berthnasol."
Mae Catrin Lyall yn dysgu yn ardal Abertawe, ac yn cofio'r profiad o gyflwyno a llunio neges o ewyllys da y flwyddyn 2000 tra'n ddisgybl yn Ysgol Glan Clwyd.
"Mi oedd 'na deimlad mawr o fileniwm newydd, canrif newydd a dechrau newydd, a bod y ganrif newydd ddim yn dilyn yr un camgymeriadau 芒'r ganrif gynt," meddai.
"Oedd o'n ddechrau newydd, yn gyfle a 'neud yn si诺r bod ni'n dysgu, a dwi'n cofio teimlo pa mor lwcus oeddwn i o lunio'r neges."
Dros y blynyddoedd mae'r neges wedi'i chyflwyno mewn ffurfiau gwahanol.
Yn 1978 cyhoeddodd y gr诺p Hergest neges ar ffurf c芒n.
Mi oedd Geraint Davies yn rhan o'r broses gyfansoddi, ac mae wedi cadw copi o'r g芒n gafodd ei chyfieithu i amryw o ieithoedd eraill.
"Thema'r g芒n oedd Estyn Dy Law, a'r teitl oedd 'Ni'," meddai.
"Mae e'n rhan o batrwm Neges Ewyllys Da yr Urdd ar hyd y degawdau - o estyn llaw i bawb - yr elfen o arwyddair yr Urdd, bydd ffyddlon i'n nghyd-ddyn lle bynnag y bo.
"Ac wedyn wrth reswm er mwyn cyrraedd pobl a chael y neges yma allan mae angen fersiynau mewn sawl iaith."
Wrth i Urdd Gobaith Cymru nodi ei chanmlwyddiant, mae'r mudiad yn dweud bod y negeseuon hyn yn bwysicach heddiw, o bosib, nag erioed o'r blaen.
Eleni fe fydd pobl ifanc Cymru yn teithio i ddinas Oslo yn Norwy er mwyn ymweld 芒'r ganolfan Nobel, gan ledaenu'r neges o ewyllys da fydd yn mynd i'r afael 芒'r Argyfwng Newid Hinsawdd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2021