91热爆

Mynediad i Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych am ddim

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Urdd Gobaith CymruFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y nod yw denu mwy o ymwelwyr a chystadleuwyr o bob cwr o Gymru

Bydd mynediad i Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 am ddim wedi buddsoddiad ariannol gwerth 拢527,000 gan Lywodraeth Cymru i nodi canmlwyddiant yr Urdd.

Yn 么l cyfarwyddwr yr 诺yl, Si芒n Eirian y gobaith ydy ceisio denu cynulleidfaoedd newydd ac ehangu gorwelion plant Cymru.

Mewn datganiad dywedodd y Gweinidog Addysg a'r Iaith Gymraeg, Jeremy Miles, ei fod yn gobeithio gweld mwy o bobl "yn manteisio ar y cyfle" i fynychu.

Fe ohiriwyd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych yn 2020 oherwydd y pandemig.

Ond gyda'r 诺yl bellach i'w chynnal ar yr un flwyddyn ag y mae'r mudiad yn dathlu 100 mlynedd o gefnogi pobl ifanc, fe roddwyd buddsoddiad o dros 拢500,000 i ddiddymu ffi mynediad ac ehangu cynulleidfa'r 诺yl.

'Denu mwy o bob cefndir'

"'Dan ni'n hynod ddiolchgar i'r gweinidog ac i Lywodraeth Cymru," meddai cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a'r Celfyddydau, Sian Eirian.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Fe wnaeth yr Eisteddfod T agor drysau newydd," medd Sian Eirian, cyfarwyddwr yr Eisteddfod

"'Dan ni'n ymfalch茂o ein bod ni'n sefydliad cynhwysol, yn agored i blant a phobl ifanc o bob cwr a'n gobaith ni ydy denu mwy o ymwelwyr a chystadleuwyr o bob cwr o Gymru gan gynnwys ardaloedd difreintiedig.

"Ac efallai bydd y rhai a oedd ond yn dod am ddiwrnod yn treulio dau ddiwrnod neu dri r诺an.

"Mae'n holl bwysig ein bod ni'n newid, mae'r Eisteddfod T wedi agor y drysau i gynnwys pobl newydd... a dwi'n credu bydd hyn yn wir yn Ninbych."

Ychwanegodd Ms Eirian fod y mudiad wedi ceisio dod yn gynhwysol drwy gynnig aelodaeth am 拢1 i blant o gartrefi incwm isel yn hytrach na 拢10.

Dim cynulleidfa yn y Cylch na'r Sir

Cyhoeddodd yr Urdd ddydd Mawrth hefyd y byddai holl Eisteddfodau Cylch a Sirol y mudiad yn ddi-gynulleidfa oherwydd Covid-19.

Mi fydd cystadlaethau llwyfan i'r aelodau sydd rhwng 19 a 25 yn mynd yn syth i'r Genedlaethol yn Ninbych.

Ym Mhrestatyn mae disgyblion Ysgol y Llys wedi bod yn ysu am y cyfle i groesawu cystadleuwyr ar draws Cymru i'r caeau ar gyrion tref Dinbych.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae Cymru yn edrych 'mlaen at eisteddfod draddodiadol," medd Dyfan Phillips, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith

Wedi dwy flynedd o aros mae 'na gynnwrf yn 么l pennaeth yr ysgol a chadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Dyfan Phillips.

"Mae 'di bod yn gyfnod hir yn ystod Covid, gymaint o ansicrwydd ond mae'r ffaith ein bod ni'n cael y buddsoddiad ariannol yn goblyn o hwb mawr i ddenu cynulleidfaoedd eang," meddai.

"Mae cynnig mynediad am ddim i deuluoedd - mae'n dangos pa mor gynhwysol ydy'r Urdd fel mudiad.

"Mae 'na garfan o blant ar draws ysgolion Cymru wedi colli allan felly mae 'na hen edrych 'mlaen.

"Dwi'n meddwl fod Cymru benbaladr yn edrych 'mlaen at eisteddfod draddodiadol."

Barn y plant

Yn 么l Cerys, un o ddisgyblion blwyddyn 5 Ysgol y Llys, mae hi'n gyfnod cyffrous.

"Dydy llawer o bobl heb gael cystadlu dros y flwyddyn ddiwethaf oherwydd Covid ac mae o jest yn neis cael hwyl y flwyddyn yma."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Bethan, Cerys ac Evissa o Ysgol y Llys, Prestatyn yn edrych ymlaen

Dywedodd Evissa sydd ym mlwyddyn 6 fod cystadlu ar-lein wedi bod yn hwyl yn ystod Eisteddfod T ond ei bod hi'n edrych ymlaen at ddychwelyd i lwyfan yr 诺yl.

"Dwi'n gobeithio y byddwn ni'n gallu practisio gyda'n gilydd a chael help er mwyn gwybod y caneuon," meddai.

Yn 么l Bethan o flwyddyn 5 mae hi'n "andros o gyffrous" croesawu cystadleuwyr ar draws Cymru i Ddinbych.

Mewn datganiad dywedodd y Gweinidog Addysg a'r Iaith Gymraeg, Jeremy Miles ei fod yn falch bod modd i Lywodraeth Cymru "gefnogi'r 诺yl" ar flwyddyn mor bwysig i'r mudiad.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

"Rwy'n falch iawn o gefnogi'r 诺yl wych hon drwy gyhoeddi y bydd mynediad i Eisteddfod yr Urdd 2022 am ddim," meddai.

"Rwy'n gobeithio y bydd cymaint o bobl 芒 phosibl yn manteisio ar y cyfle i fynychu a dathlu canfed blwyddyn y mudiad.

"Mae Eisteddfod yr Urdd, nid yn unig yn un o uchafbwyntiau diwylliannol ein calendr Cymreig, ond hefyd yn ffordd wych i'n plant a'n pobl ifanc weld a chlywed ein hiaith, ei siarad eu hunain, a chymryd rhan yn y digwyddiadau cystadleuol a chymdeithasol niferus sydd ar gael."

Mi fydd yr 诺yl yn cael ei chynnal yn Sir Ddinbych ym mis Mai gyda'r gobaith o ddenu mwy na'r 90,000 sydd fel arfer yn mwynhau hwyl Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.