Lansiad ymgyrch recriwtio'r Urdd wedi nawdd o 拢1.3m
- Cyhoeddwyd
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi dechrau "ymgyrch recriwtio genedlaethol" sy'n ganlyniad cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru i "ailadeiladu i'r dyfodol" wedi'r pandemig.
Cyhoeddwyd ym mis Chwefror y byddai'r 拢1.3m ychwanegol yn helpu'r mudiad ieuenctid greu 60 o swyddi newydd.
Ddydd Llun, fe gyhoeddodd yr Urdd, sy'n dathlu ei chanmlwyddiant yn 2022, , sy'n cynnig cyfleoedd ar draws Cymru i weithio ymhob un o'i hadrannau.
Cyn y pandemig, roedd yr Urdd yn cyflogi 320 o staff ond oherwydd effaith cyfyngiadau Covid-19 ar weithgareddau torfol bu'n rhaid colli 54% o'r gweithlu.
Mae 20 o'r swyddi newydd o fewn yr Adran Brentisiaethau, sy'n anelu at "ddatblygu a meithrin gweithlu ifanc, hyderus a dwyieithog".
"Mae dangos cefnogaeth i'r genhedlaeth iau yn bwysicach nac erioed," meddai Prif Weithredwr yr Urdd, Si芒n Lewis.
"Mae plant a phobl ifanc wedi'u heffeithio yn fwy na neb gan y pandemig, ac mae ein gwaith adfer yn canolbwyntio'n bennaf ar gefnogi iechyd a lles ein hieuenctid, ynghyd 芒 darparu cyfleoedd gwaith hanfodol a hyfforddiant amhrisiadwy trwy gyfrwng y Gymraeg."
Ychwanegodd: "Fel corff gwirfoddol, dielw, mae pob ceiniog o incwm rydym yn ei dderbyn yn cael ei ail-fuddsoddi i wella bywydau ieuenctid Cymru.
"Mae'r grant diweddaraf yma gan Lywodraeth Cymru yn hwb sylweddol i'n cynorthwyo wrth i ni ail-adeiladu yn dilyn effaith Covid-19 ar ein gwasanaethau a'n sefyllfa staffio. Mae medru darparu hyfforddiant at hynny yn hynod werthfawr, a credwn yn gryf fod hurio prentisiaid yn fuddsoddiad pwysig iawn i'r dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2020