91热爆

Wcr谩in: Yr Urdd i dderbyn 250 o ffoaduriaid

  • Cyhoeddwyd
merch a'i thedi

Mae mudiad Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn derbyn ffoaduriaid o Wcr谩in i un o'i wersylloedd dros y misoedd nesaf.

Bydd y mudiad yn cynnig "llety tymor byr" i tua 250 o bobl o Wcr谩in wrth i'r rhyfel barhau yno.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi rhagor o fanylion am gynlluniau i fod yn "Genedl Noddfa" a chroesawu ffoaduriaid.

Dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford yr wythnos ddiwethaf y byddai Cymru'n gallu croesawu tua 1,000 o ffoaduriaid "yn y don gyntaf".

Mae mwy na 10,000 o bobl o Gymru eisoes wedi dangos diddordeb mewn cynnig cartref i ffoaduriaid o Wcr谩in.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn dechrau gweithredu fel "uwch-noddwr" ar gyfer ffoaduriaid o 26 Mawrth o dan gynllun Cartrefi i Wcr谩in Llywodraeth y DU.

Dan eu cynlluniau, bydd canolfannau croeso'n cael eu sefydlu i gynnig lloches a chefnogaeth i ffoaduriaid am gyfnod.

Y cyntaf bydd un o wersylloedd yr Urdd. Does dim modd cyhoeddi pa wersyll oherwydd rhesymau diogelwch.

'Pwysigrwydd gwaith dyngarol'

Wrth gyhoeddi'r cynlluniau, dywedodd Si芒n Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru bod "estyn llaw o gyfeillgarwch i eraill yn eu cyfnod o angen yn un o werthoedd y mudiad".

"Mae'n bwysig i ni ddangos i'n haelodau pa mor bwysig yw gwaith dyngarol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

"Rydyn ni'n hynod ddiolchgar am gefnogaeth aelodau'r Urdd a'r ysgolion am ein galluogi i agor ein drysau i deuluoedd o Wcr谩in sy'n chwilio am loches a diogelwch.

"Dyw hyn ond yn bosibl o ganlyniad i ddealltwriaeth a charedigrwydd ein haelodau, gan fod gofyn iddynt ohirio eu cynlluniau i fynychu cyrsiau preswyl yn un o'n gwersylloedd am y tro wrth i ni gynnig lloches i'r ffoaduriaid."

Mae'r Urdd yn berchen ar Ganolfan Breswyl yn Hwngari sydd hefyd wedi'i gynnig fel lloches i ffoaduriaid o Wcr谩in sy'n cyrraedd Hwngari ar hyn o bryd.

Ychwanegodd Si芒n Lewis fod y mudiad wedi cynnig lloches a chefnogaeth i 113 o ffoaduriaid o Afghanistan yn ddiweddar.

Dywedodd bod hynny'n "adlewyrchiad llwyddiannus o uchelgais Cymru i ddod yn Genedl Noddfa ac rydym yn fwy na pharod i wneud hyn eto ar adeg mor anodd yn hanes Wcr谩in".

'Cyflymu'r broses'

Wrth gyhoeddi rhagor o gynlluniau, dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, bod Cymru "wedi ymrwymo i sicrhau bod yna groeso cynnes i bobl sy'n ffoi rhag trais a gwrthdaro Wcr谩in".

"Mae gwaith aruthrol wedi'i wneud i sicrhau llety a gwasanaethau cymorth, ac i baratoi i'r cynllun ddechrau ar 26 Mawrth," dywedodd.

"Bydd y ffaith ein bod yn uwch-noddwr yn cyflymu'r broses o alluogi Wcrainiaid sydd am ddod i Gymru i wneud hynny'n gyflym, heb orfod poeni am brofi bod ganddyn nhw gysylltiad 芒 Chymru cyn gallu dod."