Wcr谩in: Cymru'n barod i dderbyn 1,000 o ffoaduriaid
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru'n barod i dderbyn o leiaf 1,000 o ffoaduriaid o Wcr谩in, yn 么l y prif weinidog, Mark Drakeford.
Dywedodd Mr Drakeford wrth 91热爆 Cymru ei bod hi'n "amhosib" gwybod faint fydd yn dod i'r DU, ond bod llywodraeth Cymru yn bwriadu croesawu tua mil "yn y don gyntaf".
Mewn llythyr ar y cyd i lywodraeth y DU, mae prif weinidogion Cymru a'r Alban wedi cadarnhau eu hymrwymiadau i gyfrannu tuag at gynllun nawdd dyngarol y DU.
Ond, fe aeth Mark Drakeford a Nicola Sturgeon gam ymhellach gan gynnig bod yn "noddwyr arbennig" yn y gobaith y byddai hynny'n cyflymu'r broses o ddod 芒 ffoaduriaid yma.
Y nod yw gallu gosod ffoaduriaid mewn llety dros dro yn syth ac yna gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys unigolion, i roi llety hir dymor a gwasanaethau diogelwch iddynt.
Mae llywodraeth y DU eisoes wedi cyhoeddi y bydd aelwydydd sy'n croesawu ffoaduriaid i'w cartrefi yn cael cynnig 拢350 y mis.
Mae disgwyl i fanylion pellach cynllun nawdd y llywodraeth gael eu cyhoeddi ddydd Llun.
Ynddo, y disgwyl yw y bydd Wcrainiaid yn gallu gwneud cais i ddod i'r DU os ydynt wedi eu cysylltu 芒 noddwr a fydd yn gallu darparu llety iddyn nhw.
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru bod Mark Drakeford a Nicola Sturgeon wedi cadarnhau mewn llythyr i weinidog llywodraeth y DU, Michael Gove, eu bod yn ymrwymo i gynllun nawdd dyngarol llywodraeth y DU.
Ond, dywedodd y llefarydd eu bod wedi "pwysleisio'r angen am fwy o eglurder ar sut y bydd y cynllun yn gweithio" gan lywodraeth y DU.
Mae'r llythyr yn dweud na fydd cap yn cael ei osod gan Gymru a'r Alban ar y nifer o ffoaduriaid y byddan nhw'n eu croesawu.
Mae'r Alban wedi ymrwymo i gefnogi 3,000 o ffoaduriaid yn y lle cyntaf, a Chymru i gymryd 1,000.
'1,000 yw ein rhagfynegiad gorau'
Wrth siarad ar raglen 91热爆 Cymru Politics Wales, dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford ei bod hi'n "amhosib ar y pwynt hwn" i ddweud faint o ffoaduriaid allai ddod i Gymru.
"Ry'n ni'n gwybod bod mwyafrif y bobl sy'n ffoi o'r golygfeydd erchyll yn Wcr谩in eisiau aros mor agos 芒 phosib i'r lle y gwnaethon nhw ffoi. Bydd pobl eisiau ymgartrefu yng Ngwlad Pwyl, Moldofa..." dywedodd.
"Felly ar y pwynt hwn dw i ddim yn credu y gall unrhyw un wneud syniad manwl gywir o faint o bobl bydd eisiau dod i'r Deyrnas Unedig a lle fydd y bobl yma'n ymgartrefu.
"Ond 1,000 yw ein rhagfynegiad gorau yn seiliedig ar y gwaith ry'n ni wedi'i wneud gyda ffoaduriaid Syriaidd ac Affganaidd a dyna fydd ein tybiaeth wrth gynllunio ar gyfer y don gyntaf o bobl a allai ddod i ymgartrefu yng Nghymru."
Fe alwodd Mr Drakeford hefyd ar lywodraethau i "ailddyblu eu hymdrechion" i ostwng niferoedd yr arfau niwclear.
Ar ddechrau ymgyrch filwrol Rwsia ar Wcr谩in, fe roddodd yr Arlywydd Putin rymoedd niwclear Rwsia ar "rybudd arbennig".
Er iddo ymatal yn ystod pleidlais Senedd gan Blaid Cymru yn gynharach yr wythnos hon, fe ddywedodd Mark Drakeford eto ei fod yn gwrthwynebu'r fath arfau a bod angen "gwneud y byd yn le mwy diogel".
Mae'r prif weinidogion hefyd wedi galw am eglurder ar frys ar drefniadau ariannol i gefnogi awdurdodau lleol.
Fe awgrymodd y ddau yn y llythyr bod angen trefniant ariannol "fesul person" - yn debyg i gynlluniau ffoaduriaid Syria ac Affganistan - er mwyn cefnogi costau.
Mae'r llythyr hefyd yn galw i holl ofynion y cynllun fisa i Wcrainiaid i gael eu diddymu. Mae Mark Drakeford eisoes wedi dweud na ddylai fod angen fisa ar ffoaduriaid.
Dywedodd y Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, mewn cyfweliad gyda Sky News y byddai'n "hael" i'r rheiny sy'n ffoi o Wcr谩in ac y bydd manylion am ail gynllun fisa'n cael ei gyhoeddi ddydd Llun.
Wrth ymateb i alwadau llywodraeth Cymru, dywedodd Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Mark Isherwood, bod angen i'r "rhethreg gyd-fynd 芒 gweithredoedd".
"Mae'r ffoaduriaid hyn, sydd yn ffoi o ryfel anghyfiawn ar eu tir cartref, angen cartrefi, gofal iechyd, swyddi ac addysg," dywedodd.
"Ddylai'r llywodraeth Lafur fod yn clustnodi adnoddau ar gyfer hyn, ond does dal dim manylion gennym ni, a hynny i gyd pan fo ffoaduriaid Affganaidd yn dal mewn gwestai a lletyau gwely a brecwast ar hyd y wlad yn aros am fywyd cynaliadwy sawl mis ar 么l cyrraedd Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2022