Puro aer ysgolion gyda pheiriant wedi ei greu'n lleol
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o ysgolion Cymru yn defnyddio peiriannau puro aer er mwyn atal Covid-19 rhag lledaenu mewn dosbarthiadau.
Mae'r peiriannau wedi cael eu datblygu a'u creu yn Sir Gaerfyrddin gan feddyg lleol, gyda phlant ysgol hefyd yn cael chwarae eu rhan yn y gwaith adeiladu.
"Mae Covid-19 yn feirws sy'n lledaenu yn yr awyr, felly mae sicrhau aer glân yn hanfodol mewn adeiladau fel ysgolion ac ysbytai," meddai Dr Rhys Thomas, meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.
"Mae awyru da yn allweddol wrth dorri'r gadwyn trosglwyddo.
"Rwyf wedi cael fy syfrdanu gan gyffro a brwdfrydedd y plant sydd eisiau dysgu sut i gadw ei gilydd yn ddiogel trwy lanhau'r aer a mynd ati i adeiladu'r peiriannau eu hunain."
Corsi Rosenthal Thomas (CRT) yw'r enw ar y peiriannau, sy'n cael gwared ar ronynnau feirysau yn yr aer.
Dr Rhys Thomas fu'n gyfrifol hefyd am greu peiriant anadlu ar gyfer cleifion Covid-19 - un a gafodd ei brofi yn Bangladesh.
Mae sawl ysgol yn Sir Gâr eisoes yn defnyddio'r peiriannau puro aer, ac mae'r cynllun nawr yn cael ei dreialu mewn ysgolion yng Ngheredigion.
"Fe 'nes i weld Dr Rhys Thomas yn y cyfnod clo yn gweithio ar y peiriannau glanhau aer 'ma a phenderfynu cysylltu gydag e," meddai Ioan Jones, dirprwy bennaeth yn Ysgol Gymraeg Ffwrnes, Llanelli.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Yn hytrach na phrynu peiriannau eraill drud, fe nethon ni brynu'r adnoddau yn rhatach ar Amazon ac wedyn fe ddaeth Rhys i wneud y gwaith, gyda'r plant yn chwarae eu rhan.
"Ry'n ni'n ysgol o 480 o blant - fel arfer bydden ni wedi cael mwy o achosion Covid ond ers cael y peiriannau, ma'r achosion wedi lleihau yn bendant.
"Mae un neu ddau wedi cael y clefyd ond mae wedi lleihau yn sylweddol."
Mae pedwar peiriant wedi bod yn yr ysgol ers diwedd 2021. Mae un ymhob dosbarth ym mlynyddoedd 5 a 6 a'r bwriad yw eu gosod yn nosbarthiadau blynyddoedd eraill yn y dyfodol.
"Yn ddelfrydol, bydden i'n rhoi un ymhob dosbarth ond gan fod Covid yn cael mwy o effaith ar blant hÅ·n, fe wnaethon ni benderfynu eu rhoi yn nosbarthiadau blwyddyn 5 a 6," ychwanegodd Mr Jones.
Yn ôl un disgybl yn yr ysgol mae dysgu am y peiriannau wedi bod yn brofiad diddorol.
"Ers gweithio gyda Dr Rhys, rwy'n deall yn well sut mae Covid yn cael ei ledaenu trwy'r awyr," meddai Seren, sy'n 10 oed.
"Mae'n ddiddorol gweld y filter ar y peiriant yn newid lliw wrth lanhau'r aer."
Ymestyn i Geredigion
Ar hyn o bryd, tri pheiriant sydd yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan. Bwriad Cyngor Sir Ceredigion yw treialu 30 uned arall - fe fyddant yn cael eu hadeiladu a'u rhoi ar waith mewn dosbarthiadau ar gampysau cynradd ac uwchradd ledled y sir.
"Yn dilyn y gwaith a wnaed gan yr adrannau Dylunio a Thechnoleg i greu feisors ar gyfer ein gweithwyr rheng-flaen ar ddechrau'r pandemig yn 2020, dechreuais ymchwilio i weld a oedd modd i ni wneud rhywbeth i leihau effaith y don ddiweddaraf o Omicron ar ein hysgolion," meddai Aled Wyn Dafis, pennaeth adran Dylunio a Thechnoleg Ysgol Bro Pedr.
"Mi ddes i ar draws y gwaith gwych mae Dr Rhys Thomas wedi ei gyflawni i ddatblygu'r peiriant puro aer Corsi Rosenthal Thomas gan ddefnyddio adnoddau sydd ar gael yn rhad dros y we.
"Felly dyma gysylltu â Dr Rhys am fwy o wybodaeth, ac roedd yn falch i glywed bod ysgol yng Ngheredigion yn awyddus i dreialu'r peiriannau CRT yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd2 Medi 2021
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd8 Medi 2020