91热爆

Rhyddid i ysgolion benderfynu mesurau Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Arholiadau: Beth ydy barn y disgyblion?

Bydd ysgolion yng Nghymru yn cael rhyddid i benderfynu gyda'u cynghorau lleol pa fesurau Covid fydd mewn grym ar 么l hanner tymor mis Chwefror.

O dan gynlluniau newydd, bydd gofyn i ysgolion ddychwelyd i'w hamserlen arferol ar 么l hanner tymor.

Ond mae disgwyl i wisgo mygydau barhau mewn ysgolion am y tro.

Bydd newidiadau Llywodraeth Cymru, gafodd eu cyhoeddi gan y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles ddydd Mawrth, yn dibynnu ar sefyllfa iechyd y cyhoedd.

Y bwriad yw cynnal arholiadau hefyd.

Yn sgil dyfodiad amrywiolyn Omicron cyn y Nadolig fe wnaeth rhai ysgolion symud i ddysgu ar-lein ac roedd ysgolion ddeuddydd yn hwyr yn agor i ddisgyblion ym mis Ionawr.

Roedd Eithne Hughes, cyfarwyddwr undeb ASCL Cymru, wedi galw ar y rheolau i gael eu llacio yn raddol.

"Rhaid symud yn raddol gan nad yw'r feirws wedi diflannu," meddai wrth 91热爆 Cymru fore Mawrth.

"Mae'n bwysig cydnabod bod clystyrau o achosion yn parhau yn y wlad - a rhaid sicrhau ein bod yn cadw cymaint o ddisgyblion 芒 phosib yn yr ysgol."

Yn Lloegr fydd yna ddim cyfyngiadau yn yr ystafelloedd dosbarth - gan gynnwys peidio gwisgo gorchudd ar yr wyneb.

Arholiadau

Bydd arholiadau yn cael eu cynnal eleni wedi dwy flynedd o beidio 芒 chynnal asesiadau allanol.

Ar Dros Frecwast dywedodd Si么n Amlyn, swyddog Undeb NASUWT "bod y rhan fwyaf yn eitha' cyt没n y bydd arholiadau yn digwydd er lles disgyblion fel bod modd cael dull o fesur sy'n safonol".

"Mae'r ffaith bod ysgolion wedi bod ar agor yn golygu bod yr arlwy mae nhw wedi ei gael yn well na'r llynedd."

O ran mygydau "be 'dan ni wedi ei weld yw bod disgyblion yn cymryd at y masgiau fel rhan o fywyd cyffredin o ddydd i ddydd," meddai.

"Yn naturiol mae addysg yn well heb fasgiau ond os yw eu defnyddio yn arafu'r haint mae'n golygu y bydd ysgolion yn gallu aros ar agor a bod llai o staff a disgyblion yn absennol," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Doedd yna ddim arholiadau allanol yn ystod haf 2020 na haf 2021

Mae Mari, sy'n 16, ac yn ddisgybl yn Ysgol Bro Edern Caerdydd, yn dweud fod y cyfnod ers dechrau'r pandemig wedi bod yn un anodd i nifer o ddisgyblion.

"Mae'n amser sy'n llawn straen a bod yn onest, gan ein bod wedi colli gymaint o ysgol," meddai.

Dywedodd fod dychwelyd i'r ysgol hefyd wedi golygu rhagor o addasu: "Oedd hi wedi bod yn normal i ni aros adre a gwneud gwersi ar-lein.

"Ond mae'n dod 'efo lot o straen i bawb yn enwedig pobl efallai sydd ddim wedi cael y cyfle ar-lein gan fod nifer o ysgolion ddim wedi gosod gwaith a chael llai o gyfleoedd na ni yn fan hyn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mari yn ddisbygl chweched dosbarth yng Nghaerdydd

Mae Eluned, sy'n 17 oed ac yn ddisgybl yn yr un ysgol, yn credu fod polisi mygydau Llywodraeth Cymru wedi bod yn gywir.

"Er bod mwy o gyfyngiadau mae'n caniat谩u i ni gael addysg well achos bod llai o bobl yn s芒l, llai o'r staff yn s芒l."

Mae'r ddwy hefyd yn rhoi croeso i'r tebygrwydd y bydd yna arholiadau eleni.

"Rwy'n falch gan fod dyna be' o ni'n disgwyl yn dod i mewn i TGAU a Lefel A," meddai Mari.

"Bod ni'n gwneud arholiadau ar ddiwedd y flwyddyn ac felly dwi'n hapus i fod yn gwneud nhw eto - hefyd i brofi i'n hun dwi'n gallu gwneud e."

"Dwi'n meddwl bod ddim gwneud arholiadau efallai wedi bod yn bryder i bawb nad ydy'n nhw'n ddigon galluog a falle heb gael y cyfle i weld be 'ma nhw wir yn gallu gwneud."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth holl ysgolion Cymru ailagor fis Ionawr ond ychydig yn hwyrach na'r disgwyl yn sgil Omicron

Er yn cydnabod nad yw'r mwyafrif yn hoff o arholiadau, mae Eluned hefyd yn eu croesawu.

"Mae yna lot o straen ac yn amlwg does ddim lot o bobl actually mo'yn gwneud arholiad ond dwi'n meddwl ei fod yn ddelfrydol fod pawb yn gorfod gwneud nhw rhywbryd yn eu bywydau.

"Fel blwyddyn 12 dy' ni ddim really mo'yn mynd i flwyddyn 13 heb wneud unrhyw arholiad go iawn."

'Ddim yn ddigon da'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg y dylai'r "mwyafrif [o benderfyniadau] - fel ar fygydau - gael eu cymryd ar y brig er mwyn sicrhau safon addysg ar draws Cymru".

Ychwanegodd Laura Anne Jones AS nad oedd yn "ddigon da" bod y gweinidog yn anfodlon "mynd ben-ben gyda'r undebau, ac sy'n fodlon mynd yn erbyn cyngor gwyddonol".

Er hynny, fe wnaeth groesawu'r penderfyniad ar arholiadau, gan alw am gefnogaeth gan y llywodraeth i ddisgyblion allu paratoi yn llawn.