91热爆

Torri dwy record byd ar ben-blwydd yr Urdd yn 100

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mistar UrddFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Mae cefnogwyr yr Urdd wedi torri dwy record byd ar ben-blwydd y mudiad yn 100 oed.

Yn ystod y bore, bu cannoedd o unigolion a grwpiau yn canu'r g芒n 'Hei Mistar Urdd' ac yn uwchlwytho'r recordiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Brynhawn Mawrth fe gyhoeddodd y mudiad "bod yr Urdd a'i gefnogwyr wedi torri dwy record byd" drwy lwytho y nifer mwyaf o fideos o bobl yn canu'r un g芒n ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cyn heddiw 250 oedd y nifer oedd wedi postio yr un g芒n ar Twitter ond rhwng 10:45 a 11:45 fore Mawrth roedd 1,176 wedi postio fideo ohonyn nhw'n canu'r g芒n 'Hei Mistar Urdd'.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Urdd Gobaith Cymru

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Urdd Gobaith Cymru
Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan 91热爆CymruWales Press

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan 91热爆CymruWales Press

Gydol y dydd mae degau wedi bod yn rhannu eu hatgofion am y mudiad gyda nifer yn rhannu lluniau ohonynt mewn eisteddfodau a gwersylloedd.

Mae nifer eraill wedi bod yn anfon eu dymuniadau da.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 3 gan Matthew Rhys

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 3 gan Matthew Rhys

Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Si芒n Lewis bod y pen-blwydd yn gyfle i "ddathlu stori'r urdd ac edrych tua'r dyfodol".

Fe sefydlwyd yr Urdd ym 1922 gan Syr Ifan ab Owen Edwards.

Cyhoeddodd y syniad mewn erthygl yng nghylchgrawn 'Cymru'r Plant' a'r bwriad oedd rhoi rhagor o gyfleodd i blant yng Nghymru i ddefnyddio'r Gymraeg.

Sefydlwyd adran gyntaf yr Urdd yn Nhreuddyn, Sir Y Fflint yn yr un flwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Roedd yr Urdd wedi bod yn cydweithio gyda grwpiau ac ysgolion ledled Cymru er mwyn paratoi ar gyfer yr ymgais i dorri record byd.

Yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth roedd gor-诺yr Syr Ifan ab Owen Edwards ymhlith y rhai fu'n canu.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw dywedodd y prifathro, Clive Williams, ei fod wedi bod yn fore hynod o gyffrous.

"Mae wedi bod yn hynod o braf gweld pawb yn mwynhau eto wedi cyfnod anodd," ychwanegodd.

Yn gynharach dywedodd Lewys Jones, Swyddog Celfyddydau a Gwersylloedd yr Urdd: "Dwi'n meddwl ei bod hi'n holl bwysig bod yr Urdd yn teimlo eu bod nhw'n ymestyn ei profile mewn ffordd a rhoi cyfle i bob math o bobl ifanc a plant o amgylch Cymru.

"Mae'n bwysig bod pob un ohonyn nhw'n teimlo eu bod nhw'n perthyn i'r iaith ac yn cael cyfle i ymwneud 芒 gwahanol weithdai drwy'r Gymraeg - yn chwaraeon neu'n eisteddfodau neu drwy'r celfyddydau.

"Felly mae'n gr锚t cael mynd i ysgolion sydd ella erioed wedi cymryd rhan efo'r Urdd o'r blaen a rhoi blas iddyn nhw o'r iaith a gweithgareddau gwahanol."

'Mor berthnasol ac erioed'

Yn 么l Si芒n Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, ma'r pen-blwydd yn gyfle i edrych ymlaen hefyd.

"Mae'r Urdd wedi bod yn fudiad hollol unigryw ac arloesol ers y cychwyn, ac mor berthnasol heddiw i fywydau pobl ifanc ag yr oedd ganrif yn 么l.

"Mae cyrraedd y garreg filltir arbennig hon yn gyfle inni ddathlu stori'r Urdd ac edrych tua'r dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y canmlwyddiant yn 'flwyddyn i'w chofio' yn 么l Prif Weithredwr yr Urdd, Si芒n Lewis

Cafodd y part茂o rhithiol yr Urdd ei ddarlledu ar 91热爆 Radio Cymru ac ar 91热爆 Radio Wales hefyd.

Yn 么l Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau 91热爆 Cymru, Rhuanedd Richards, mae'r 91热爆 yn falch o fod yn rhan o'r digwyddiadau.

"Mae gan yr Urdd a 91热爆 Cymru bartneriaeth arbennig sy'n ymestyn dros ddegawdau, gyda'r 91热爆 yn darlledu o Eisteddfod yr Urdd ers y saithdegau."

Ddydd Mawrth hefyd fe wnaeth Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan agor arddangosfa newydd i ddathlu'r canmlwyddiant.

Mae adeiladau nodedig ar draws Cymru wedi cael eu goleuo yn lliwiau'r Urdd.