'Llai' o brofion llif unffordd ar gael i'w dosbarthu
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y profion llif unffordd sy'n cael eu dosbarthu gan fferyllwyr i'r cyhoedd yn cael eu cwtogi mewn rhannau o Gymru oherwydd bod yna "lai" ohonyn nhw ar gael.
Dywedodd fferyllydd cymunedol sy'n gweithio yn Sir Benfro a Cheredigion bod fferyllfeydd wedi penderfynu lleihau nifer y pecynnau sy'n cael eu rhoi i bobl oherwydd y cynnydd yn y galw am brofion.
"Yn ystod y pythefnos diwetha', ni wedi bod yn cael llai o'r paciau'n dod i mewn," meddai Richard Evans, aelod o Fwrdd y Fferyllwyr yng Nghymru.
Dywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU eu bod wedi dyblu dosbarthiad y profion yn yr wythnosau diwethaf a bod cyflenwadau newydd yn dod ar gael trwy gydol y dydd.
Ychwanegodd llefarydd: "Yn ystod adegau o alw uchel gall yna fod seibiau dros dro wrth archebu neu dderbyn profion, i sicrhau ein bod yn rheoli'r ddarpariaeth ar draws y system."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n cynyddu'r capasiti am brofion llif unffordd yn eu holl safleoedd casglu, gan gynnwys fferyllfeydd, a bod nhw'n annog pobl i ddefnyddio'r profion sydd ganddyn nhw gartref cyn archebu mwy.
Ond dywedodd Mr Evans bod fferyllfeydd bellach ond yn cynnig un bocs o brofion i bob aelwyd yn hytrach na dau.
"Ni nawr wedi gorfod penderfynu dim ond rhoi un bocs i bobl sydd yn addas, mae saith test mewn pob bocs so ma' digon fan 'na i deulu o bedwar i neud y test cyn bo' nhw'n mynd i gymdeithasu dros y Nadolig a nawr dros y flwyddyn newydd.
"Os oes eisiau rhagor arnyn nhw, gallen nhw gael rhagor mewn y dyddiau nesa'."
Galw wedi cynyddu'n 'ddychrynllyd'
Cyhoeddwyd brynhawn Mercher bod y gyfradd saith diwrnod am bob 100,000 o bobl yng Nghymru sydd a coronafeirws wedi codi i 1,079.3, sef ei lefel uchaf erioed, ac mae cyfanswm yr achosion Covid ers dechrau'r pandemig bellach dros 600,000.
Dywedodd Mr Evans bod y galw am brofion wedi cynyddu'n "ddychrynllyd".
"Bwyti fis yn 么l o'n i ddim ond yn rhoi bwyti hanner dwsin, lan i ddeg y dydd allan. Bore 'ma nawr, ni 'di rhoi bwyti ryw 20 mas."
Ychwanegodd ei fod yn "bwysig bod pobl yn gallu cael y profion hyn, bo' nhw'n defnyddio nhw cyn mynd allan i gymdeithasu - 'na'r peth synhwyrol i 'neud".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ar hyn o bryd mae yna alw digynsail am brofion PCR a llif unffordd ar draws y DU.
"Rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn Lloegr i wella a chyflymu'r ddarpariaeth o brofion llif unffordd fel bod pobl yn gallu cael mynediad yn hawdd i'w pecynnau profi yma.
"O 18 Rhagfyr, cafodd y nifer bosibl o becynnau sy'n gallu cael eu rhyddhau'n uniongyrchol i gartrefi pobl ei chynyddu o 230,000 y dydd i 650,000 ar draws y DU.
"Rydyn ni hefyd yn gweithio i gynyddu'r capasiti yn ein holl safleoedd casglu, gan gynnwys fferyllfeydd yng Nghymru.
"Byddwn yn annog pawb i ddefnyddio'r profion sydd gennym nhw gartref cyn archebu mwy."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2021