Covid-19: Dros 10,300 achos newydd a 11 marwolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dros 10,300 o achosion newydd o Covid-19 wedi'u cofnodi yng Nghymru yn ogystal 芒 11 marwolaeth arall.
Dyma'r pedwerydd diwrnod yn olynol i Iechyd Cyhoeddus Cymru gofnodi'r gyfradd uchaf o achosion Covid-19 yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.
Mae'r gyfradd saith diwrnod fesul 100,000 o bobl wedi codi unwaith eto o 1,092.5 i 1,190.
Cafodd 10,393 o achosion newydd eu cofnodi mewn cyfnod o 24 awr hyd at 09:00 ar 30 Rhagfyr.
Cafodd 11 marwolaeth yn rhagor yn gysylltiedig 芒'r feirws eu cofnodi hefyd.
Mae'n golygu bod cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru ers dechrau'r pandemig, yn 么l dull cofnodi ICC, yn 6,567 a chyfanswm yr achosion yn 632,125.
Mae 2,490,223 o bobl wedi cael o leiaf un brechlyn, 2,302,282 wedi cael dau ddos a 1,626,146 wedi cael brechlyn atgyfnerthu.
Ddydd Mercher, roedd cyfanswm yr achosion o'r amrywiolyn Omicron yng Nghymru yn 7,369.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2021