91热爆

Tafarndai a bwytai i gael ailagor dan do ar 17 Mai

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Tafarn yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dydy tafarndai a bwytai Cymru ddim wedi cael agor dan do ers cyn y Nadolig

Bydd tafarndai a bwytai yn cael ailagor dan do o 17 Mai os ydy achosion coronafeirws yn parhau'n isel, medd Llywodraeth Cymru.

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi mai dyna'r bwriad, ond bydd hynny'n ddibynnol ar ba blaid sydd mewn p诺er yn dilyn etholiad y Senedd ar 6 Mai.

O ddydd Sadwrn bydd chwe pherson o wahanol aelwydydd yn cael cwrdd yn yr awyr agored, cyn i dafarndai a bwytai gael ailagor tu allan ddydd Llun.

Mae'r gwrthbleidiau wedi cyhuddo Mr Drakeford o ddefnyddio'r cyhoeddiadau am lacio cyfyngiadau fel ffordd o ymgyrchu etholiadol.

Mae'r ddwy brif wrthblaid yng Nghymru wedi cyhoeddi mai 17 Mai fyddai tafarndai a bwytai yn ailagor dan do os mai nhw fydd mewn p诺er wedi'r etholiad hefyd.

Disgrifiad,

Rhian Davies o dafarn y Crown & Sceptre Llangatwg sy'n edrych ymlaen i agor ei thafarn

Beth ydy'r cyhoeddiadau newydd?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd modd i dafarndai a bwytai - sydd heb gael agor dan do ers bron i chwe mis - ailagor yn llawn ar 17 Mai os ydy achosion coronafeirws yn aros yn isel.

Bydd Mr Drakeford hefyd yn cadarnhau ddydd Gwener bod digwyddiadau dan do i blant a digwyddiadau dan do i hyd at 15 o oedolion yn cael ailddechrau ar 3 Mai - pythefnos yn gynt na'r dyddiad oedd wedi'i gyhoeddi'n wreiddiol.

Bydd hefyd yn cyhoeddi mai'r bwriad ydy agor sinem芒u, theatrau ac amgueddfeydd ar 17 Mai.

Ond mae wedi pwysleisio mai pwy bynnag fydd yn llywodraethu wedi'r etholiad fydd yn cadarnhau'r dyddiadau hynny wedi i'r arolwg nesaf gael ei gynnal ar 13 Mai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r manylion ar adael i fwytai ailagor yn ddibynnol ar ba blaid sydd mewn p诺er yn dilyn yr etholiad ar 6 Mai

Mr Drakeford fydd yn arwain cynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener, pan fydd y Prif Weinidog yn cadarnhau canfyddiadau eu harolwg diweddaraf o'r cyfyngiadau.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo arweinydd Llafur Cymru o "ymgyrchu amlwg", tra bod Plaid Cymru'n dweud ei bod yn "hollol anaddas" i'r gynhadledd gael ei defnyddio yn y fath ffordd.

Byddai gadael i bobl yfed alcohol dan do mewn tafarndai a bwytai ar 17 Mai yn cyd-fynd 芒'r amserlenni sydd eisoes wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer Lloegr a'r Alban.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi croesawu'r newyddion, gan ddweud y bydd perchnogion tafarndai a bwytai wrth eu bodd o gael ailagor dan do unwaith eto.

Dywedodd Plaid Cymru y byddan nhw'n rhoi mwy o gefnogaeth ariannol i'r sector lletygarwch os mai nhw fydd yn llywodraethu ar 么l yr etholiad, ac y byddan nhw'n 么l-ddyddio'r gefnogaeth ariannol i 26 Ebrill i'r busnesau sydd ddim yn gallu ymdopi'n ariannol gyda gweini yn yr awyr agored yn unig.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Mr Drakeford o chwarae gemau gwleidyddol mewn cyfnod etholiad, gan alw ar y Prif Swyddog Meddygol i gynnal y gynhadledd yn hytrach na'r Prif Weinidog.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd tafarndai yn cael gweini yn yr awyr agored o ddydd Llun ymlaen

Ychwanegodd y Ceidwadwyr y dylai'r 91热爆 ystyried a yw'n briodol i ddarlledu'r gynhadledd, ond mae'r gorfforaeth wedi amddiffyn y penderfyniad.

Dywedodd y 91热爆 eu bod yn "rhoi gwybodaeth iechyd cyhoeddus allweddol i'n cynulleidfa heb gyfaddawdu ar ein dyletswydd i fod yn deg a diduedd".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Snowdonia Parc, Waunfawr

Roedd Carmen Pierce, landlord tafarn y Snowdonia Parc yn Waunfawr ger Caernarfon wedi bod yn gobeithio am newyddion da gan y llywodraeth.

"Mae'n rhaid i bethau fod yn saff ar gyfer y cwsmeriaid a'r staff, felly dan ni'n ei chymryd hi fel daw hi, un dydd ar y tro. Dyna ydan ni wedi'i wneud hyd yma," meddai.

"Mi fyddwn ni'n agor tu allan ddydd Llun os fydd y tywydd yn caniat谩u. Dwi'n edrych ymlaen.

"Mae gynnon ni ardal patio newydd ac mae gynnon ni lwyth o fyrddau tu allan beth bynnag, ond dydan ni ddim yn rhoi gazebos i fyny na dim byd, dim ond byrddau yn yr awyr agored fel arfer."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae John Evans, perchennog y Black Boy, wedi bod yn y busnes ers hanner canrif eleni

Dywedodd John Evans, perchennog gwesty'r Black Boy yng Nghaernarfon, na fyddent yn ailddechrau gweini tu allan tan tua dydd Mercher, gan hefyd bwysleisio bod angen gofal wrth ailagor yn llawn.

"Fyddan ni ond yn ailagor pan 'dan ni'n barod i wneud - mae'n rhaid i'r cwsmeriaid a staff fod yn saff," meddai.

"Rydan ni'n gwario miloedd ar hyn o bryd yn gosod ffenestri a drysau bi-fold newydd er mwyn gwella'r ventilation pan fyddan ni'n cael agor tu mewn eto.

"Tan hynny byddwn yn gwerthu hufen i芒 a bwyd a diod tu allan - mae tafarndai'n gorfod newid yn 么l y galw.

"Dwi wedi bod yn y busnes 'ma ers 50 mlynedd eleni, ac mae'r Blac wedi bod yma ers 500 mlynedd flwyddyn nesa, ac yn sicr mae'r lle wedi gweld newidiadau o'r blaen."

Beth ydy sefyllfa'r cyfyngiadau erbyn hyn?

Mae siopau, salonau harddwch a llefydd torri gwallt eisoes ar agor yng Nghymru, tra bo'r holl ddisgyblion ysgol hefyd wedi dychwelyd i'w dosbarthiadau.

Yn ogystal 芒 lletygarwch awyr agored, bydd digwyddiadau ac atyniadau awyr agored yn cael ailagor ddydd Llun a bydd modd cynnal priodasau gyda hyd at 30 o westeion hefyd.

Bydd campfeydd a chanolfannau hamdden yn gallu ailagor o 3 Mai, ac fe fydd modd creu cartref estynedig gydag un cartref arall ar y dyddiad hwnnw hefyd.

Cymru sydd 芒'r gyfradd isaf o bedair gwlad y DU bellach - 14.6 achos ar gyfer pob 100,000 o boblogaeth dros saith diwrnod.

Mae Cymru wedi brechu cyfran uwch o'i phoblogaeth hefyd, gyda 54.8% o gyfanswm y boblogaeth wedi derbyn eu brechlyn cyntaf yn erbyn Covid-19.