'Cwbl anaddas i Mark Drakeford roi'r diweddariad Covid'
- Cyhoeddwyd
Mae Mark Drakeford wedi cael beirniadaeth am ddweud y bydd yn datgan yn ystod cynhadledd coronafeirws Llywodraeth Cymru ddydd Gwener sut y byddai'n llacio rheolau petai'r Blaid Lafur yn ennill yr etholiad.
Dywedodd Mr Drakeford y byddai'n dweud a fyddai'n caniat谩u i dafarndai a bwytai ailagor dan do ar 17 Mai.
Yn 么l Plaid Cymru fe fyddai'n "gwbl anaddas" i ddefnyddio'r gynhadledd ar gyfer cyhoeddiadau pleidiol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd uwch gwas sifil yn ymateb i g诺yn ysgrifenedig gan arweinydd Plaid Cymru.
Bydd cynhadledd Llywodraeth Cymru'n cael ei darlledu ar 91热爆 One Wales ddydd Gwener.
Dywed y Ceidwadwyr Cymreig y dylai'r Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton arwain y gynhadledd yn hytrach na Mr Drakeford, gan gyhuddo arweinydd Llafur o "ymgyrchu noeth".
Ar raglen Ask the Leader 91热爆 Cymru nos Fawrth, gofynnwyd i Mr Drakeford a fyddai'n ailagor safleoedd lletygarwch dan do yn gynt - o 17 Mai, fel yn achos Lloegr.
Atebodd: "Byddaf yn gwneud datganiad ynghylch hynny ddydd Gwener.
"Bydd y penderfyniad yna ochr arall yr etholiad. Ond ddydd Gwener fe wnaf amlinellu beth fyddai llywodraeth Lafur yn ei wneud yn y tair wythnos wedi'r etholiad, fel rydym yn gyson wedi rhoi arwydd o flaen llaw i letygarwch dan do, i weddill y diwydiant twristiaeth, a phethau eraill ynghylch beth rydym ym meddwl y byddai'n cyd-destun iechyd cyhoeddus yn ei ganiat谩u nawr."
笔翱尝滨厂脧础鲍: Cymharwch addewidion y pleidiau
DWY GROES MEWN DAU FLWCH: Pam bod gennych chi ddwy bleidlais?
PWY SY'N SEFYLL YN FY ARDAL I?: Rhowch eich cod post yn y blwch
WEDI DRYSU?: Dysgwch fwy gyda 91热爆 Bitesize
PODLEDIAD: Pwy sy'n pleidleisio?
BLOG VAUGHAN RODERICK: Gwyntoedd oer y gogledd
Mewn ymateb i'r datganiad hwnnw, fe ysgrifennodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price at brif was sifil Llywodraeth Cymru, yr Ysgrifennydd Parhaol Shan Morgan.
Dywedodd Mr Price y byddai'n "gwbl anaddas i blaid y llywodraeth bresennol ddefnyddio adnoddau a sianeli cyfathrebu'r llywodraeth i wneud cyhoeddiadau pleidiol lai na phythefnos cyn y diwrnod pleidleisio".
Gofynnodd Mr Price i Ms Morgan "ymyrryd i sicrhau bod unrhyw gyfathrebu trwy'r platfform yma'n cynnal llythyren ac ysbryd y canllaw sydd yno i sicrhau cydraddoldeb a chwarae teg i bawb".
Dywedodd bod cyhoeddiad ddydd Mawrth ynghylch llacio'r rheolau o ran cwrdd tu allan hefyd wedi digwydd "heb ymgynghori o flaen llaw gydag arweinwyr y gwrthbleidiau, a chyn fy nghyfarfod sydd wedi'i drefnu gyda'r prif weinidog".
Yn ystod ymgyrchoedd etholiadol, mae gweinidogion ac adrannau llywodraeth, yn gyffredinol, yn osgoi lansio polis茂au newydd neu weithredoedd o bwys, yn rhannol i ddiogelu didueddrwydd y gwasanaeth sifil.
Fe fyddai'r Senedd, dan amgylchiadau arferol, wedi cael ei diddymu 21 diwrnod cyn yr etholiad, ond mae'r diddymiad wedi'i ohirio tan 29 Ebrill - wythnos cyn y diwrnod pleidleisio - fel bod modd delio gyda deddfwriaeth coronafeirws petai angen gwneud hynny.
Mae'r canllawiau'n nodi na all gweision sifil weithio mewn meysydd proffil uchel eraill, ond mae'n rhaid i swyddogion barhau i gefnogi gweinidogion trwy roi cyngor, heb gael "eu tynnu i mewn i'r arena wleidyddol".
'Amheus'
Dywedodd Janet Finch-Saunders o'r Ceidwadwyr Cymreig: "Mae'r Prif Weinidog Llafur wedi cael digon o gyfleoedd i roi ffordd fanwl ymlaen i deuluoedd, gweithwyr a busnesau yng Nghymru, ond mae yn fwriadol wedi dewis peidio gwneud hynny.
"Mae felly yn amheus ei fod, ar yr adeg fwyaf sensitif yma o etholiad y Senedd, wedi penderfynu gwneud nifer o ddatganiadau cyfnod clo annisgwyl.
"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y gallai, ac y dylai, cyhoeddiadau'n ymwneud 芒'r pandemig gael eu harwain gan uwch weision sifil fel y prif swyddog meddygol, a dyna ddylai ddigwydd ddydd Gwener."
Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol nad oedd y blaid eisiau bod yn rhan o "gemau a dadlau dibwys gyda'r pleidiau eraill".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Ysgrifennydd Parhaol wedi derbyn gohebiaeth gan Adam Price a bydd yn ymateb iddo'n uniongyrchol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2021