91热爆

Etholiad 2021: 'Gwnelo llacio cyfyngiadau dim 芒'r ymgyrchu'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, S4C

Mae'r Prif Weinidog Llafur Mark Drakeford yn dweud bod dim cysylltiad rhwng penderfyniad i lacio rhai o'r cyfyngiadau coronafeirws yn gynt ag ymgyrch etholiadol Senedd Cymru.

Roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi ei gyhuddo o "chwarae gwleidyddiaeth" trwy lacio cyfyngiadau am yr eildro yn ystod y cyfnod ymgyrchu.

Ond mynnodd Mr Drakeford ar raglen Ask The Leader 91热爆 Cymru: "Does wnelo fe ddim ag ymgyrchu etholiadol.

"Mae'r cyfan i wneud 芒'r cyngor sydd gyda ni ynghylch sefyllfa bresennol y feirws."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd mwy o gyfleoedd i bobl gymdeithasu tu allan o wythnos nesaf

Dywedodd Mr Drakeford bod y penderfyniad i adael chwe pherson o chwe aelwyd gwrdd yn yr awyr agored o ddydd Sadwrn, ac mewn mannau tu allan bwytai a thafarndai o ddydd Llun 26 Ebrill, ar sail arweiniad ymgynghorwyr meddygol a gwyddonol Llywodraeth Cymru.

"Cyfraddau coronafeirws Cymru yw'r rhai isaf yn y DU, y cyfraddau brechu yw'r rhai gorau yn y DU," meddai. "Mae hynny'n creu cyd-destun ble roedden ni'n gallu adfer mwy o ryddid i bobl yn gyflymach nag yr oedden ni wedi rhagweld."

Senedd 2021: Beth yw addewidion y Blaid Lafur

Dywedodd Mr Drakeford hefyd y bydd yn gwneud datganiad pellach ynghylch y sector lletygarwch yng nghynhadledd adolygiad coronafeirws Llywodraeth Cymru ddydd Gwener.

Ond ni wnaeth ymhelaethu a fydd Cymru'n dilyn yr un trywydd 芒 Lloegr gan ganiat谩u i dafarndai a bwytai ailagor dan do ar 17 Mai.

Dywedodd: "Bydd y penderfyniad yna ochr arall yr etholiad. Ond ddydd Gwener fe wnaf amlinellu beth fyddai llywodraeth Lafur yn ei wneud yn y tair wythnos wedi'r etholiad, fel rydym yn gyson wedi rhoi arwydd o flaen llaw i letygarwch dan do, i weddill y diwydiant twristiaeth, a phethau eraill ynghylch beth rydym ym meddwl y byddai'n cyd-destun iechyd cyhoeddus yn ei ganiat谩u nawr."

Dywedodd Mr Drakeford y byddai llywodraeth Lafur "yn cadw opsiynau ar agor" ynghylch cyfraddau treth incwm.

Mae wedi dweud yn y gorffennol na fyddai llywodraeth Lafur yn codi cyfraddau nes "o leiaf" bo effaith economaidd y pandemig wedi pasio.

Pan ofynnwyd pryd fyddai'n ystyried codi'r dreth, awgrymodd efallai byddai'n ei gostwng: "Rydym yn cadw'r opsiwn ar agor pan rydym yn mynd heibio'r cyfnod presennol.

"Wnawn ni edrych i weld pan fo'r adferiad ar waith beth yw'r amgylchiadau. Wnaethon ni ddim codi'r dreth incwm yn y pum mlynedd diwethaf".

Mae etholiadau Senedd Cymru ddydd Iau Mai 6.