91热爆

Cyflymu'r rhaglen o lacio cyfyngiadau Covid yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Dywedodd Mark Humphreys o Enzone Fitness ym Mangor bod y newyddion yn "newid positif ond dim be' 'dan ni isio"

Bydd pobl Cymru'n cael ffurfio aelwydydd estynedig ac ymweld 芒'r gampfa wythnos yn gynt na'r disgwyl yn dilyn cyhoeddiad gan y prif weinidog.

Fe fydd campfeydd a chanolfannau hamdden yn cael ailagor i unigolion neu hyfforddiant un-am-un o ddydd Llun, 3 Mai.

Bydd dwy aelwyd yn cael cwrdd o dan do o'r dyddiad hwnnw hefyd wrth i nifer yr achosion newydd o Covid barhau i ddisgyn.

Gall gweithgareddau awyr agored sydd wedi'u trefnu, a phriodasau awyr agored ddigwydd o 26 Ebrill yn hytrach na 3 Mai.

Dywedodd Mark Drakeford: "Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaethom amlinellu ein rhaglen i agor yr economi a llacio'r cyfyngiadau rydym wedi bod yn byw gyda nhw cyhyd, fel rhan o'n dull gofalus a graddol sydd 芒'r nod o gadw pawb yn ddiogel.

"Yr wythnos hon, oherwydd y gwelliannau rydym yn parhau i'w gweld, rydym yn gallu rhoi rhai o'n cynlluniau ar waith yn gynt."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth cyhoeddiad Mark Drakeford yn hwyr nos Iau

Mae nifer yr achosion wedi disgyn o 37 person am bob 100,000 o'r boblogaeth yr wythnos ddiwethaf i lai na 21 yr wythnos hon.

Mae nifer yr achosion mewn ysbytai yn 26% yn is na dydd Iau diwethaf - y nifer isaf ers 22 Medi 2020.

Y rheolau newydd yn llawn

Dydd Llun 12 Ebrill:

  • Bydd plant yn dychwelyd i'r ysgol yn llawn ar gyfer addysg wyneb yn wyneb, bydd pob dysgwr 么l-16 yn dychwelyd i ganolfannau addysg bellach a hyfforddiant, a bydd campysau prifysgolion yn gallu agor ar gyfer cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb/ar-lein i bob myfyriwr;

  • Bydd gweddill y siopau yn ailagor, gan gwblhau'r broses raddol o ailagor busnesau sy'n gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol;

  • Bydd gweddill y gwasanaethau cysylltiad agos yn ailagor, gan gynnwys gwasanaethau symudol;

  • Bydd y cyfyngiadau ar deithio i mewn ac allan o Gymru yn cael eu codi. Fodd bynnag, mae'r cyfyngiadau ar deithio i wledydd y tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin heb esgus rhesymol yn parhau. Mae'r Ardal Deithio Gyffredin yn golygu'r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon;

  • Bydd hawl i fynd i weld lleoliadau priodas, drwy apwyntiad;

  • Bydd y cyfyngiadau ar ganfasio gwleidyddol yn cael eu codi, ond bydd gofyn i ganfaswyr wneud hynny mewn modd diogel.

Dydd Llun 26 Ebrill:

  • Byddai atyniadau awyr agored, gan gynnwys ffeiriau a pharciau thema, yn cael ailagor;

  • Bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailddechrau, gan gynnwys mewn caffis, tafarndai a bwytai. Bydd lletygarwch o dan do yn parhau i fod ar gau, heblaw ar gyfer bwyd i'w gludo oddi yno;

  • Gellir cynnal gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl (y dyddiad gwreiddiol oedd dydd Llun 3 Mai);

  • Gellir cynnal derbyniadau priodasau yn yr awyr agored, ond byddant hefyd wedi'u cyfyngu i 30 o bobl (y dyddiad gwreiddiol oedd dydd Llun 3 Mai).

Dydd Llun 3 Mai (ddydd Llun 10 Mai yn wreiddiol):

  • Caiff campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd ailagor. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant unigol neu un-i-un ond nid dosbarthiadau ymarfer corff;

  • Bydd modd ffurfio aelwydydd estynedig unwaith eto, a fydd yn galluogi dwy aelwyd i gwrdd a chael cyswllt o dan do.

Fel y nodwyd yn y Cynllun Rheoli'r Coronafeirws diwygiedig, mae nifer fach o gynlluniau peilot ar gyfer digwyddiadau awyr agored i rhwng 200 a 1,000 o bobl yn cael eu cynllunio hefyd.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd hawl gan bobl yng Nghymru i ddychwelyd i'r gampfa o 26 Ebrill

Beth ydy ymateb y pleidiau?

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Mae rhaglen frechu wych Prydain yn amddiffyn mwy a mwy o fywydau bob dydd ac yn rhoi'r gallu inni adfer rhyddid mewn modd diogel ond cyflymach.

"Mae pwysau gan y cyhoedd a'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gorfodi gweinidogion Llafur i weithredu, ond mae mwy y gallan nhw ei wneud o hyd wrth gyflymu'r map ffordd gydag ailddechrau gweithgareddau fel lletygarwch awyr agored a champfeydd yn ddiogel.

"Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig fap ffordd manwl allan o'r clo i roi stop ar gemau gwleidyddol Llafur, i amddiffyn bywydau trwy frechu, ac yn bwysig, i gael Cymru ar y ffordd i adferiad."

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: "Mae Plaid Cymru wedi bod yn pwyso am gael ailagor campfeydd mor gyflym ac mor ddiogel 芒 phosib oherwydd eu bod yn hanfodol i iechyd meddwl a lles pobl.

"Er bod y dyddiad newydd hwn i'w groesawu, nid yw'n ddigon cynnar o hyd.

"Mae golygfeydd yfed heb ei reoleiddio dros y dyddiau diwethaf wedi bod yn destun pryder difrifol a bydd llawer yn cwestiynu penderfyniad y Llywodraeth Lafur i beidio 芒 symud ailagor lletygarwch awyr agored yn ei flaen. Wedi'r cyfan, mae amgylchedd yfed wedi'i reoleiddio yn opsiwn gwell a mwy diogel.

"Yn yr un modd, mae'r diffyg dyddiad clir ar letygarwch dan do yn parhau i fod yn broblem fawr ac o leiaf dylai'r llywodraeth ailedrych ar frys ar ei phenderfyniad i ohirio unrhyw gymorth ariannol ychwanegol tan ar 么l yr etholiad."

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds: "Mae hyn yn newyddion i'w groesawu.

"Mae campfeydd a chanolfannau ffitrwydd yn chwarae rhan bwysig yn iechyd corfforol a meddyliol cymaint o bobl ar draws Cymru.

"Mae pawb sydd wedi glynu at y rheolau wedi chwarae rhan i ddod 芒'r cyhoeddiad yma ymlaen.

"Ond rhaid i'r cyhoedd hefyd gofio nad yw'r feirws wedi mynd a bod angen iddyn nhw gadw at reolau parthed pellter cymdeithasol."

Pynciau cysylltiedig