91热爆

Galw i ailagor marchnad dai Cymru'n 'bwyllog'

  • Cyhoeddwyd
Prisiwr taiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae bron 16,500 o gartrefi Cymru ar werth ar hyn o bryd, a thros hanner wedi'u gwerthu'n amodol ar gytundeb

Mae yna alw ar Lywodraeth Cymru i'r farchnad dai gael ei "hailagor yn bwyllog", 11 wythnos ers i'r argyfwng coronafeirws ddod 芒'r sector i stop.

Mae arwerthwyr tai a chyfreithwyr eisiau i briswyr gael ymweld ag eiddo gwag er mwyn cwblhau'r gwerthiannau ar eu hanner - cam a fyddai'n aildanio'r farchnad dai.

Yn 么l y wefan gwerthu eiddo Rightmove mae 16,485 o dai ar werth yng Nghymru, a thros hanner wedi'u gwerthu'n amodol ar gytundeb.

Dywed Llywodraeth Cymru mai dim ond pan fo symud t欧'n hanfodol y dylid prisio eiddo.

Ffynhonnell y llun, Ross Johnson
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ross Johnson yn delio ag oedi, cost a straen ag yntau yng nghanol trefnu morgais ar gyn-siop farbwr

Mae Ross Johnson yn aros ers dau fis i brisio eiddo masnachol yn Nhon-teg, ger Pontypridd ar gyfer morgais, ac mae'n amcangyfrif y gallai'r oedi gostio cymaint 芒 拢1,500 yn ychwanegol.

Prynwyd cyn-siop farbwr gyda benthyciad dros dro gyda'r bwriad o gael morgais ar 么l cwblhau gwelliannau ond daeth cyfyngiadau i rym cyn i brisiwr allu ymweld 芒'r eiddo.

"Mae mor rhwystredig ac yn gryn straen oherwydd mae'n costio llawer o arian i mi," meddai.

"Rwy'n deall nad ydy'r llywodraeth eisiau lledaenu coronafeirws, ond does dim risg uwch i brisiwr ymweld ag eiddo gwag mewn offer diogelwch llawn na mynd i ganolfan arddio neu siop llawn pobl."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dim ond ar-lein y mae pobl Cymru'n gallu gweld eiddo sydd ar werth ers yr argyfwng Covid-19

Mae rhai benthycwyr yn cymeradwyo morgeisi "芒 llai o risg" gan ddefnyddio algorithm, data lleol a phrisiau hanesyddol i brisio eiddo - proses nad sydd angen ymweliad mewn person.

Ond mae rhai'n rhybuddio fod prisio rhithwir yn gallu arwain at brisiadau is "gan fod y risg i'r benthycwyr yn uwch yn sgil mwy o ansicrwydd".

Mae 14% yn llai o eiddo ar werth yng Nghymru eleni o gymharu 芒 2019, yn 么l Rightmove, ac mae tai ar y farchnad am bythefnos a hanner yn hirach na'r 10 wythnos arferol, ar gyfartaledd.

O'r 16,485 o dai yng Nghymru sydd ar restr gyfredol y wefan, mae 9,424 wedi'i gwerthu, yn amodol at gytundeb.

Bydd adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru ar 18 Mehefin. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am amserlen i'r sector gwerthu tai, ac i ystyried gadael i arwerthwyr ymweld ag eiddo fel eu bod yn barod i fynd ar y farchnad pan fydd yn amser ailddechrau prynu a gwerthu.

Ffynhonnell y llun, Newland Rennie
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r arwerthwr tai, Heidi Davis eisiau dechrau paratoi ar gyfer ailddechrau prynu a gwerthu eiddo

Byddai hynny'n ddefnyddiol, medd Heidi Davis o arwerthwyr Newland Rennie yng Nghas-gwent:

"Pan fydde'r farchnad yn ailagor, bydde'r holl fanylion a lluniau gyda ni'n barod i brynwyr posib eu gweld fel bod arwerthwyr tai ddim ar y droed 么l o'r diwrnod cyntaf," dywedodd.

"Byddai hynny, a gadael i briswyr fynd i dai tra bo'r perchnogion yn gadael am gyfnod byr, yn caniat谩u i'r farchnad yng Nghymru ailagor yn bwyllog."

Ychwanegodd: "Bydden ni'n cadw rheolau pellter cymdeithasol, gwisgo PPE a sicrhau fod neb 芒 symptomau Covid-19.

Dywed Llywodraeth Cymru fod pobl yn cael symud t欧 pan "nad oes modd gohirio".

Ychwanegodd llefarydd: "Pan fo angen prisiad i hwyluso symud t欧 hanfodol gall hynny ddigwydd cyn belled 芒 bod mesurau pellter cymdeithasol yn cael eu cynnal, a bod neb yn yr aelwyd yn y categori risg uchel ac yn gwarchod eu hunain neu 芒 symptomau, yn unol 芒'r canllawiau."