Cyngor newydd i wisgo gorchudd wyneb yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi newid eu cyngor swyddogol am ddefnyddio gorchudd wyneb.
Yr argymhelliad nawr yw i wisgo gorchudd tair haen mewn sefyllfaoedd pan nad oes modd cadw pellter o ddau fetr.
Mewn datganiad mae'r llywodraeth yn dweud eu bod yn ymateb wedi i Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) newid eu cyngor swyddogol nhw rai dyddiau yn 么l.
"Mae'r dystiolaeth yn glir mai cadw pellter o ddau fetr a chadw hylendid dwylo da yw'r modd mwyaf effeithiol o warchod eich hun ac eraill rhag cael eich heintio a'r coronafeirws, ond mae canllawiau newydd WHO yn dweud y gallai gorchudd wyneb tair haen helpu rheoli'r feirws dan amgylchiadau penodol."
Mae'r cyngor yma ond yn cyfeirio at bobl sydd ddim yn dangos symptomau o coronafeirws. Mae'n rhaid i bobl sy'n dangos symptomau hunan ynysu am saith diwrnod a chael prawf yn unol a'r canllawiau.
Oni bai bod y prawf yn dangos canlyniad negatif, mae'n rhaid iddyn nhw aros yn eu cartrefi drwy gydol y cyfnod, mwgwd neu beidio.
Beth yw gorchudd tair haen?
Er mwyn gwarchod eraill, mae Sefydliad Iechyd y byd yn cynghori bod angen gwneud, trafod a gwaredu mygydau mewn modd penodol.
Mae WHO yn argymell tair haen i'r gorchudd, yn cynnwys,
Haen fewnol o ddeunydd amsugnol fel cotwm
Haen ganol o ddeunydd anw毛edig fel polypropylene
Haen allanol o ddeunydd an-amsugnol fel polyester neu bolyester-cymysg
Cadw pellter a golchi dwylo
"Golchi dwylo, osgoi cyffwrdd eich wyneb a chadw dau fetr rhwng pobl yw'r ffordd orau o atal y feirws rhag lledu o hyd," medd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.
"Ar ddydd Gwener, fe ddiweddarodd WHO eu canllawiau am orchudd wynebau, gan gynghori y dylen nhw gael eu hystyried mewn mannau lle mae'n anodd cadw pellter cymdeithasol.
"Serch hynny, er mwyn bod yn gwbl eglur, dyw'r newid cyngor ddim yn golygu nad oes angen cadw pellter cymdeithasol na golchi dwylo rheolaidd.
Dim angen mwgwd tu allan
"Mae angen tystiolaeth wyddonol bellach am fudd i'r cyhoedd yn ehangach o wisgo gorchudd wyneb, ond mae 'na ganfyddiadau sy'n awgrymu y gallai gorchudd tair haen, neu mygydau cartref leihau'r achosion o drosglwyddo'r haint o un person i'r llall, os yw'n cael ei wisgo a'i drafod a'i waredu yn gywir.
"Dyna pam ry'n ni'n argymell y dylai pobl Cymru wisgo gorchudd wyneb tair haen mewn sefyllfaoedd lle gall fod yn anodd cadw pellter, er enghraifft ar drafnidiaeth gyhoeddus. Does dim cyngor i wneud hyn tu allan.
"Fydd dim rhaid i bobl wisgo mwgwd, ond ry'n ni'n annog pobl i wneud hyn er eu lles nhw ac eraill."
Mae'r Gweinidog Iechyd yn pwysleisio taw cyngor i bobl heb symptomau yw hyn yn unig, ac y dylai unrhyw un sydd a thymheredd uchel, peswch parhaol neu golled sydyn o synnwyr blasu neu arogli hunan ynysu am o leiaf saith diwrnod a chael prawf ar unwaith.
Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi croesawi'r cyhoeddiad wedi iddo godi'r mater gerbron Senedd Cymru wythnos diwethaf.
"Dwi'n credu bod y dystiolaeth yn eglur nad yw gwisgo mwgwd yn ddigon yn ei hun, ond yn gallu bod yn help mawr yn y frwydr yn erbyn coronafeirws mewn rhai mannau cyhoeddus," meddai.
Gwybodaeth eglur
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd Anthony Smith, prif weithredwr y corff goruchwylio Transport Focus: "Mae pobl sy'n dychwelyd i drafnidiaeth gyhoeddus wedi dweud wrthym eu bod am weld pob teithiwr yn gwisgo gorchudd wyneb.
"Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru yn gam i'r cyfeiriad cywir, ac fe fydd yn cynyddu'r pwysau ar eraill i orchuddio'u wynebau.
"Bydd angen gwybodaeth eglur ar deithywr nawr ar sut i wneud neu brynu gorchudd wyneb priodol, ac a fyddan nhw'n cael eu gwrthod ar drafnidiaeth gyhoeddus os na fyddan nhw'n gwisgo un."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020