Risgiau iechyd Brexit bellach 'yn debygol, nid 'posib'
- Cyhoeddwyd
Yn 么l adroddiad newydd ar effeithiau posib Brexit ar iechyd a lles pobl yng Nghymru, mae'r risgiau o effaith niweidiol wedi cynyddu ers dechrau'r flwyddyn gyda'r posibilrwydd cynyddol o Brexit digytundeb.
Mae dadansoddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru o dystiolaeth ers adroddiad blaenorol ym mis Ionawr yn awgrymu bod y "tebygolrwydd o effaith negyddol fawr wedi cynyddu o fod yn 'bosibl' i 'debygol'" o ran safonau bwyd a rheolau'n ymwneud ag ansawdd aer a d诺r ymdrochi.
Ond mae asesiad diweddaraf y corff iechyd hefyd yn nodi bod y cyfleoedd am effeithiau cadarnhaol "wedi parhau'n gymharol sefydlog".
Mae'n argymell camau gweithredu yn y meysydd ychwanegol sy'n cael eu nodi, gan gynnwys "ymchwil pellach i ddeall yn llawnach effaith Brexit wrth iddo ddigwydd" a sut y gellir lliniaru unrhyw effeithiau ar gyfer y dyfodol".
Risgiau ychwanegol
Mae'r risgiau ychwanegol y dylid eu hystyried wedi'r adolygiad yn ymwneud 芒 meysydd yn cynnwys:
Effaith economaidd oherwydd newidiadau mewn mewnfudo;
Mynd i'r afael 芒 chyffuriau anghyfreithlon;
Iechyd meddwl;
Gwasanaethau cymunedol a'r trydydd sector;
Pobl ag amrywiaeth o anableddau;
Ffermwyr a chymunedau gwledig;
Pobl sy'n cael eu cyflogi mewn sectorau sy'n agored i newidiadau mewn telerau masnach gyda'r UE, fel rhai sectorau gweithgynhyrchu.
Mae'r adolygiad yn nodi rhai effeithiau cadarnhaol posib yn achos pobl ar incwm isel, o ganlyniad i ostyngiadau posib mewn prisiau tai.
Hefyd bydd yna gyfleoedd i fusnesau gynyddu allforion yn sgil gostyngiad yng ngwerth y bunt.
Mae'r grwpiau poblogaeth allai gael eu heffeithio'n benodol yn cynnwys pobl oedrannus 芒 chyflyrau cronig neu anableddau sydd angen meddyginiaeth a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac a allai fod ar incwm isel, yn 么l Liz Green o Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd: "Bydd poblogaethau o'r fath yn fwy agored i effeithiau unrhyw effeithiau negyddol Brexit fel pwysau chwyddiant ar fwyd a thanwydd, cyflenwi meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol a phroblemau staffio a wynebir gan y gwasanaethau y maent yn cael mynediad iddynt."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2019