Brexit heb gytundeb: 'Dinistriol' i amaethwyr a physgotwyr
- Cyhoeddwyd
Gall gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb gael effaith "wirioneddol ddinistriol" ar ddiwydiant amaeth a physgota'r wlad, yn 么l y Gweinidog Materion Gwledig.
Dywedodd Lesley Griffiths bod rhaid osgoi gadael yr UE heb gytundeb, gan bryderu y byddai'n "dinistrio economi'r wlad a'r arfordir".
Daw'r rhybudd ddiwrnod cyn pleidlais dyngedfennol ar gytundeb Brexit a chyn iddi gyfarfod Llywodraeth y DU.
Dywedodd y byddai cynhyrchwyr cig coch a physgod cregyn - gyda 90% o'r cynnyrch yn achos y ddau ddiwydiant yn cael ei allforio i'r UE - mewn lle bregus iawn petai'r DU yn gadael heb gytundeb.
'Ddim yn opsiwn'
"Rydym wedi bod yn glir o'r dechrau nad yw Brexit heb gytundeb yn opsiwn i ddiwydiannau amaeth a physgota Cymru," meddai Ms Griffiths.
Ychwanegodd y byddai newidiadau arfaethedig yn ergyd galed i'r diwydiant cig a physgod cregyn, gyda thollau uwch yn sgil Brexit heb gytundeb yn ychwanegu at gost allforio.
Byddai gadael yr UE heb gytundeb hefyd yn golygu bod unrhyw anifeiliaid byw neu gynnyrch anifeiliaid yn gorfod cael tystysgrif iechyd arbennig cyn gallu cael eu hallforio - gan ychwanegu at gostau cynhyrchu a biwrocratiaeth.
Yn sgil hynny, mae perygl y gallai'r farchnad pysgod cregyn ddirywio, wrth i ddarparwyr fethu 芒 chludo cynnyrch o'r wlad i'r UE yn ddigon cyflym.
Ar hyn o bryd, mae cludo bwyd m么r o Gymru i farchnadoedd yr UE yn digwydd o fewn cyfnod o 24 awr, ac mae pryderon y byddai oedi yn y gadwyn fwyd honno yn arwain at gostau ychwanegol a phroblemau pellach.
'Anawsterau recriwtio'
Ychwanegodd Ms Griffiths: "Mae ein cwmn茂au bwyd yn wynebu anawsterau recriwtio o'r UE yn barod, yn sgil y cwymp cychwynnol yng ngwerth y bunt.
"Byddai cwymp pellach yn gwaethygu'r anawsterau hynny.
"Dwi'n gwrthod ymddiheuro am drafod rhagolygon real o fod heb gytundeb.
"Ni allwn danbrisio nac anwybyddu effaith wirioneddol ddinistriol tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd ar ein diwydiannau."
"Fel llywodraeth, fe wnawn cymaint ag y gallwn i gefnogi'r sector i baratoi am Brexit a'r heriau sydd o'n blaenau.
"Drwy Gronfa Bontio'r UE, rydym eisoes wedi darparu 拢6m o brosiectau i helpu ein diwydiannau amaeth, pysgota a bwyd sicrhau eu bod yn gystadleuol mewn marchnad sy'n newid, a'u galluogi i ffynnu mewn byd 么l-Frexitaidd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2018