Llywodraeth Cymru'n stocio warws i baratoi am Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae nwyddau gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer cartrefi gofal ac ysbytai'n cael eu cadw mewn warws yn ne Cymru.
Dywed penaethiaid y gwasanaeth iechyd yng Nghymru na fyddai pobl h欧n yn cael eu hanghofio fel rhan o baratoadau i ddelio 芒 Brexit heb gytundeb.
Mae yna 1,000 o wahanol nwyddau, sy'n amrywio o rwymynnau i fwyd ar gyfer y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Daw hyn wrth i'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething rybuddio am "effeithiau sylweddol posib" i Brexit heb gytundeb.
Fe brynodd Llywodraeth Cymru'r warws ger Casnewydd yn gynharach eleni.
Dywedodd Mr Gething wrth aelodau cynulliad ddydd Mawrth: "Er ein bod ni'n gwneud popeth allwn ni i baratoi, ni all unrhyw fath o gynllunio warantu Brexit heb darfiad.
"Byddai awgrymu fel arall yn gamarweiniol iawn ac yn anghyfrifol."
Ychwanegodd y byddai'r arian sydd wedi'i wario ar stocio'r warws - 拢11m - wedi gallu cael ei ddefnyddio i dalu am saith o sganwyr MRI.
Mae gan yr adeilad - sy'n 240,00 troedfedd sgw芒r - gwerth deufis o gynnyrch ychwanegol, ar gost o 拢5m hyd yma.
Dywedodd Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru, bod cael warws eu hunain yn galluogi'r gwasanaeth i gael mynediad i gynnyrch sydd ddim ar gael yn gyson yn Lloegr.
"Ond y budd mwyaf yw ein bod ni'n gallu cynnig cynnyrch i gefnogi'r gwasanaethau gofal cymdeithasol os ydyn nhw'n lleihau," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd26 Medi 2019