91热爆

Cynllun dadleuol yn ateb i broblem digartrefedd Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Christina
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Christina wedi bod yn byw ar strydoedd Caerdydd ers 1994

Fe fyddai cynllun dadleuol sy'n cynnig cartrefi parhaol i bobl ddigartref yn datrys y mater yng Nghymru, yn 么l arbenigwr ar ddigartrefedd o'r Ffindir.

Daw'r sylwadau wrth i nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru gynyddu.

Does gan Lywodraeth Cymru ddim "gweledigaeth na ffocws i leihau nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru", yn 么l Juha Kaakinan.

Mae gweinidog tai Llywodraeth Cymru yn cyfaddef bod angen "ad-drefnu'r system" er mwyn dod 芒 digartrefedd i ben.

Wrth i nifer y pebyll ar strydoedd Caerdydd gynyddu, bu rhaglen 91热爆 Wales Investigates yn siarad gyda Del Clarke, sy'n cysgu ar strydoedd y brifddinas.

Tan yn ddiweddar, roedd Mr Clarke, sy'n 40 oed, yn gweithio ac yn rhannu cartref gyda'i bartner a'i fab.

"Fe wnaeth fy mherthynas i dorri lawr rhyw flwyddyn a hanner yn 么l, roeddwn i'n yfed yn drwm, fe ddifethais i bopeth, fe gollais i'n swydd, fy nghartref ac mae gen i fab bach dwi ddim wedi'i weld ers sbel."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Del Clarke yn gweithio ac yn rhannu cartref gyda'i bartner a'i fab tan yn ddiweddar

Am gyfnod o bum mis, bu'r 91热爆 yn siarad gyda phobl fel Mr Clarke wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i gartrefi parhaol.

Mae ffigyrau'n dangos bod o leiaf 100 o bobl yn cysgu ar strydoedd Caerdydd, a bod 90 o bobl ddigartref wedi marw yng Nghymru rhwng 2013-17.

Er bod 'na gefnogaeth ar gael i bobl sy'n cysgu ar y stryd, gyda llety ychwanegol ar gael yn y gaeaf, dod o hyd i gartrefi parhaol ydy'r frwydr i nifer o bobl ddigartref.

Yn 么l elusennau, maen nhw'n gweld patrwm o bobl sy'n symud yn 么l ac ymlaen o lety dros dro a 'n么l i'r strydoedd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Juha Kaakinan yn arbenigwr ar ddigartrefedd

Un sy'n dweud bod 'na ateb i'r broblem ydy Juha Kaakinan o'r Ffindir.

Mae'n gyfrifol am Housing First, cynllun tai sy'n cynnig cartrefi parhaol i bobl ddigartref.

Does 'na ddim amodau personol, fel gorfod rhoi'r gorau i alcohol neu gyffuriau, ond mae 'na gymorth dwys diderfyn ar gael.

Mae'r cynllun wedi bod yn un dadleuol, ond mae gwl芒u dros dro Helsinki wedi gostwng o 600 i 52, gyda'r nifer sy'n cysgu ar y stryd mwy neu lai yn diflannu.

'Rhwystredig'

Mae 'na sawl peilot tebyg i Housing First yn cael eu rhedeg yng Nghymru, ond dyw Mr Kaakinan ddim yn deall pam bod y llywodraeth yn oedi cyn cynnig y gwasanaeth i bawb sydd ei angen.

"Mae'n rhwystredig gan fod tystiolaeth yn dangos mai cynnig cartrefi parhaol yw'r ffordd ymlaen," meddai.

"Ges i sgwrs gyda rhywun o Lywodraeth Cymru tra o'n i yma 'chydig flynyddoedd yn 么l - ac fe ddywedon nhw eu bod nhw yn derbyn y syniad o Housing First.

"Felly pam eu bod nhw dal heb fabwysiadu'r cynllun fel polisi cenedlaethol?"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Julie James AC: 'Dyw e ddim yn mynd i ddigwydd wrth glicio'r bysedd'

Gyda disgwyliad oes pobl sy'n byw ar y stryd yn amrywio o 47 i ddynion, a 43 oed i ferched, mae 'na alw ar y llywodraeth i fynd i'r afael 芒'r broblem.

Mae'r AC Julie James yn cyfaddef nad yw'r "sefyllfa bresennol yn dderbyniol".

"Mae'n amlwg ein bod ni angen ad-drefnu'r system fel ein bod ni ddim yn gweld pobl yn cysgu ar strydoedd Caerdydd," meddai.

Ychwanegodd eu bod nhw'n ystyried cynllun Housing First, a bod peilot mewn lle.

"Ond pryd chi'n ceisio newid rhywbeth, dyw e ddim yn mynd i ddigwydd wrth glicio'r bysedd, ac mae angen i ni wneud yn si诺r bod y cynllun yn gweithio gyntaf."

  • Living Rough: Life on the Streets, 91热爆 Wales Investigates ar 91热爆 One Wales 20:30 Llun 13 Mai