91热爆

90 o bobl ddigartref wedi marw yng Nghymru ers 2013

  • Cyhoeddwyd
Person digartref ar y strydFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth tua 90 o bobl ddigartref farw yng Nghymru yn y pum mlynedd hyd at 2017, yn 么l yr ymchwil cyntaf o'i fath gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae'r ONS yn amcangyfrif bod 13 o bobl wedi marw yng Nghymru y llynedd o'i gymharu 芒 26 yn 2016 - y flwyddyn a welodd y nifer uchaf o farwolaethau yn y cyfnod dan sylw.

Fe wnaeth yr ymchwil i farwolaethau ymhlith pobl ddigartref yng Nghymru a Lloegr ddangos gwenwyn cyffuriau, clefyd yr afu a hunanladdiad oedd i gyfrif am dros hanner y marwolaethau yn 2017.

"Bob blwyddyn mae cannoedd o bobl yn marw tra'u bod heb gartref," medai Ben Humberstone o'r ONS.

"Dyma rai o aelodau mwyaf bregus cymdeithas - roedd yn hollbwysig ein bod yn llunio amcangyfrifon digonol i daflu goleuni o ddifrif ar y mater pwysig yma."

Y sefyllfa yng Nghymru:

  • 2013: 22 o farwolaethau

  • 2014: 6

  • 2015: 23

  • 2016: 26

  • 2017: 13

Mae'r ONS yn amcangyfrif bod 597 o bobl ddigartref wedi marw yng Nghymru a Lloegr yn 2017 - cynnydd o 24% dros y pum mlynedd.

Tan y llynedd roedd y raddfa farwolaethau yng Nghymru yn debyg i'r naw rhanbarth yn Lloegr, ond roedd yn sylweddol is yn 2017 - 4.3 o farwolaethau i bob miliwn o'r boblogaeth yng Nghymru o'i gymharu 芒 16.4 yng ngogledd orllewin Lloegr a 15.4 yn Llundain.

Roedd nifer y marwolaethau ar gynnydd ym mhob ardal dan sylw heblaw Cymru.

Mae'r ymchwil wedi cael ei groesawu gan gyfarwyddwr elusen Shelter Cymru, John Puzey.

"Mae yna groeso i unrhyw beth sy'n tanlinellu sefyllfa enbyd pobl sy'n byw ar ein strydoedd," dywedodd.

"Mae'n hysbys fod disgwyl i bobl farw'n gynt. Dyw e ddim yn le i fod. Mae bywyd yn anodd ac yn beryglus.

"Mae yna fythau bod llawer o bobl yn dewis bod yno, pan mewn gwirionedd dyw'r gwasanaethau ddim ar gael ar eu cyfer."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dau achos diweddar

Roedd Lindy Louise Pring yn 32 oed ac wedi bod yn cysgu ar y stryd am gyfnod pan gafwyd hyd iddi yn farw yng Ngerddi Alexandra, Caerdydd fis Tachwedd y llynedd.

Daeth crwner Caerdydd a'r Fro i'r casgliad iddi farw ar 么l cymryd cyffuriau, ond roedd niwmonia hefyd yn ffactor.

Ar 13 Chwefror eleni cafwyd hyd i gorff Aaron French-Willcox, 19, mewn parc ym Mae Caerdydd. Roedd yntau'n ddigartref wedi problemau cyffuriau a theuluol.

Cafodd le mewn hostel yn 2017 trwy gymorth elusen Huggard, ond aeth ymlaen i fyw mewn pabell ym Mharc Hamadryad.

Roedd yn byw gyda Diabetes Math 1 ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty mewn coma diabetig am driniaeth wythnos cyn ei farwolaeth.

Clywodd cwest nad oedd wedi bod yn cymryd digon o inswlin.

Dywedodd llefarydd ar ran elusen arall sy'n helpu'r digartref, Crisis, bod cysgu ar y stryd yn "brofiad dychrynllyd" sy'n rhoi pobl mewn perygl i "bopeth o dymereddau is na sero i drais, camdriniaeth a salwch marwol".

Yr wythnos hon fe gyhoeddodd Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Cymru, Julie James gyllid o 拢1.34m at fynd i'r afael 芒 chysgu ar y stryd yng Nghymru dros y gaeaf yma.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru'n cydweithio'n agos ag awdurdodau lleol a'r sector wirfoddol i ddarparu'r "gefnogaeth gywir i helpu pobl... adael y strydoedd".