91热爆

Galw am well hyfforddiant i bobl sy'n helpu'r digartref

  • Cyhoeddwyd
Dyn digartrefFfynhonnell y llun, Bananastock

Mae'r elusen Shelter Cymru yn galw am fwy o hyfforddiant i bobl sy'n delio 芒 phobl ddigartref o ddydd i ddydd.

Yn 么l yr elusen nid yw'r rhai sy'n delio 芒 phobl ddigartref "yn ddeall eu hanghenion" ac mae angen mwy o "hyfforddiant arnynt".

Yn 么l ymchwil diweddar yr elusen mae 345 o bobl ddigartref yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi buddsoddi "拢117,000 i hyfforddi dros 1,100 o staff yn y maes eleni".

'345 ar y stryd yng Nghymru'

Daw galwadau Shelter Cymru wrth i'r Llywodraeth gyhoeddi 拢700,000 i helpu pobl ddigartref symud o'r stryd i lety gan gynnig cymorth hirdymor iddyn nhw fyw yn annibynnol.

Mae'r cynllun yn rhan o fuddsoddiad o 拢30m dros ddwy flynedd i fynd i'r afael 芒 digartrefedd.

Ond mae Shelter Cymru yn dweud fod diffyg tosturi a chydymdeimlad yn broblem ymysg rheini sy'n delio 芒 phobl ddigartref pob dydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Heddyr Gregory yn gweithio i Shelter Cymru

Wrth siarad gyda 91热爆 Cymru Fyw dywedodd Heddyr Gregory o'r elusen: "Y broblem yw, ac mae'n broblem gynyddol, mae 44% o gynnydd yn y nifer o bobl sy'n cysgu ar y stryd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r ffigwr erbyn hyn yn 345.

"Gwnaethom adroddiad am gysgu ar y stryd. Un o'r pethau amlwg o'r ymchwil oedd bod pobl sy'n delio gyda phobl sydd ar y stryd ddim wir yn deall yr anghenion.

'Mwy o gydymdeimlad'

"Dydyn nhw heb gael yr hyfforddiant priodol. Mae gan bobl sy'n cysgu ar stryd gymhlethdodau yn eu bywydau

"Mae'r cymhlethdodau hyn angen cael eu deall ac rydym yn teimlo bod y rheini sydd allan pob dydd angen fwy o hyfforddiant i ddelio 芒 hwy fel pobl."

Ychwanegodd fod "digon o bobl gall roi hyfforddiant yn y maes".

Ffynhonnell y llun, Bananastock

Mewn ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yr hyfforddiant y maen nhw wedi ei gynnig yn esbonio "sut gall profiadau plentyndod effeithio ar allu rhai wrth ofyn am gymorth wrth gael mynediad at dai".

"Rydym newydd gyhoeddi cyllid gwerth 拢1.34m i gefnogi gwaith sy'n cael ei wneud eisoes gyda'r digartref," meddai.

"Mae hyn yn cynnwys y cynllun Tai yn Gyntaf a gafodd ei gyhoeddi ddydd Sadwrn.

"Bwriad cynllun Tai yn Gyntaf yw cefnogi pobl sydd angen cymorth sylweddol i'w helpu i symud o'r stryd."

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: "Gall Tai yn Gyntaf helpu pobl sy'n ddigartref ac sy'n aml ag anghenion cymhleth.

"Nid yw Tai yn Gyntaf yn addas i bawb sy'n ddigartref - mae dal i fod angen tai 芒 chymorth a llety dros dro.

"Ond gall chwarae r么l bwysig iawn o ran helpu pobl, yn enwedig y rheini sydd wedi bod yn cysgu allan am gyfnod hir, i allu cynnal tenantiaeth.