91热爆

Gwasanaeth T芒n y Gogledd eisiau recriwtio mwy o ferched

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaeth T芒n
Disgrifiad o鈥檙 llun,

10% o ddiffoddwyr t芒n gogledd Cymru sy'n ferched

Mae Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru wedi lansio ymgyrch recriwtio i geisio cynyddu nifer y merched sy'n rhan o'r llu.

24 o ddiffoddwyr t芒n llawn amser sy'n ferched ar hyn o bryd yn y gogledd - 10% o'r 250 o ddiffoddwyr sy'n rhan o'r gwasanaeth.

Dywedodd Sh芒n Morris, Prif Swyddog Cynorthwyol y Gwasanaeth, bod recriwtio merched wedi bod yn her ar draws y wlad.

Ychwanegodd bod y r么l wedi newid dros y blynyddoedd i fod yn fwy amrywiol, ac na ddylai apelio at ddynion yn unig.

Yn eu rownd recriwtio ddiwethaf, yn 2015, dim ond 12% o'r ymgeiswyr oedd yn ferched.

Ond mae'r gwasanaeth yn gobeithio gweld mwy o ferched yn dangos diddordeb mewn ymuno 芒'r t卯m yn ystod diwrnod blasu fydd yn cael ei gynnal dros y penwythnos.

Dywedodd y gwasanaeth ar eu gwefan eu bod eisiau "gwneud yn si诺r bod merched yn gwneud dewis gwybodus ynghylch gyrfa posib fel diffoddwr t芒n" a sicrhau bod llai o ferched yn osgoi gyrfa o'r fath oherwydd "camsyniadau, hen stereoteipiau neu fythau".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Emma Edwards yw'r unig ferch sy'n gweithio'n llawn amser yng ngorsaf Bae Colwyn

Un sydd yn brentis gyda Gwasanaeth T芒n ac Achub Y Gogledd ar hyn o bryd yw Emma Edwards o Gaernarfon, sy'n gobeithio gweld mwy o ferched yn chwalu'r stereopteip traddodiadol.

"Lle dwi'n gweithio ym Mae Colwyn, fi ydy'r unig ferch ar y watch," meddai.

"Mae 'na ferch arall yn rhan-amser hefyd, felly mae 'na dipyn ohonom ni o gwmpas, ond dim digon.

"Dydy bod yr unig ferch ddim yn teimlo'n wahanol. 'Da ni i gyd yn gwneud yr un gwaith, ac mae pawb hefo cryfderau gwahanol.

"Mae rhai yn cael sioc pan dwi'n dweud wrthyn nhw be dwi'n ei wneud fel gwaith, ond mae o'n neis hefyd achos mae lot o bobl yn dweud ei bod hi'n neis gweld merch yn ei wneud o."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Sh芒n Morris bod recriwtio merched wedi bod yn her ar draws y wlad

Ychwanegodd Ms Morris: "Blynyddoedd maith yn 么l roedd 'na swyddi oedd yn addas i ddynion a swyddi oedd yn addas i ferched.

"Mae'r gymdeithas yn llawer mwy goleuedig erbyn hyn a 'da ni'n cydnabod bod timau cymysg yn llawer iawn mwy cyfoethog.

"Mae recriwtio merched wedi bod yn her ers sawl blwyddyn - nid yng ngogledd Cymru yn unig, ond ar draws y wlad.

"Dim ond tua 5% o'n gweithlu gweithredol ni sydd yn ferched, a dydy hynny ddim yn gwneud unrhyw fath o synnwyr y dyddiau yma."

"Mae r么l diffoddwr neu ddiffoddwraig d芒n wedi newid dros y blynyddoedd i fod yn un llawer iawn mwy amrywiol, ac felly 'da ni yn gofyn i bobl beidio bod yn swil a rhoi eu henwau ymlaen."