91热爆

Gweithwyr t芒n yn mynychu mwy o alwadau meddygol

  • Cyhoeddwyd
gweithwyr tan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer y galwadau brys meddygol mae gweithwyr t芒n wedi mynychu wedi treblu yn ystod y saith mlynedd ddiwethaf

Mae cynnydd wedi bod yn nifer y galwadau brys meddygol mae gweithwyr t芒n wedi mynychu yn y blynyddoedd diwethaf.

Yn ystod y saith mlynedd ddiwethaf treblu wnaeth nifer y galwadau.

Llynedd cafodd y criwiau t芒n eu hanfon i 4,200 o alwadau meddygol a nhw oedd y cyntaf i gyrraedd y cleifion mewn 1,716 o achosion.

Mae gweithwyr t芒n hyd yn oed yn rhoi cyngor yngl欧n 芒 sut i fwyta yn iach a chamdriniaeth alcohol yn ystod ymweliadau 芒'r cartref.

Ar hyn o bryd mae gweinidogion yn ystyried os dylai'r gwasanaeth iechyd rhoi arian i adrannau t芒n fel rhan o adolygiad.

Yn 2009-10 fe aeth y criwiau t芒n i 1,260 o alwadau meddygol ond 4,174 oedd y ffigwr erbyn 2016-17 yn 么l ystadegau Llywodraeth Cymru.

Mae gweithwyr t芒n yn cael eu hanfon, yn hytrach nag ambiwlans os ydynt yn agosach, ac mae hynny yn cynnwys rhai o'r galwadau lle mae bywydau cleifion mewn perygl, fel trawiad ar y galon.

Maent hefyd yn cael eu hanfon i achosion sydd ddim yn rhai argyfwng, fel os yw person wedi torri asgwrn, mewn ymgais i helpu parafeddygon allu mynychu galwadau brys.

Yn y cyfamser yn ogystal 芒 gwyro larymau t芒n mae swyddogion t芒n yn rhoi cyngor "ataliol" iechyd i drigolion gan gynnwys camdriniaeth alcohol a chyffuriau, camdriniaeth ddomestig, ysmygu a diet gwael.

Y sefyllfa bresennol yw bod gwasanaethau t芒n ac achub yn y canolbarth, gogledd a'r de yn cael eu hariannu gan gynghorau lleol a Llywodraeth Cymru.

Ond mae'r ysgrifennydd dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies, yn ystyried newid hyn er mwyn gweld os yw'r GIG yn gallu helpu i ariannu'r gwasanaeth t芒n am eu bod yn cynnig mwy o gefnogaeth iechyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Alun Davies yn ystyried gofyn i'r gwasanaeth iechyd gyfrannu arian at y gwasanaethau t芒n ac achub yn y dyfodol

Mae Mr Davies yn edrych ar y sefyllfa ariannu fel rhan o adolygiad awdurdodau t芒n ac achub Cymru. Nhw sydd yn gosod blaenoriaethau a chyllidebau ar gyfer y criwiau t芒n ac mae'r gweinidog yn credu nad ydyn nhw'n atebol i'r etholwyr.

Mewn llythyr at benaethiaid yr awdurdodau t芒n mae'n dweud bod hi'n anodd "cyfiawnhau nawdd lleol yn unig" oherwydd y gwaith mae'r gweithwyr t芒n yn gwneud ar gyfer y GIG.

"Os ydych yn teimlo y dylai'r GIG wneud cyfraniad cyson i'r gwaith hynny, rwy'n hapus i drafod gyda fy nghyfeillion."

Mae cadeiryddion yr awdurdodau wedi dweud wrth Mr Davies mewn llythyr nad dim ond yr awdurdodau ddylai gael eu diwygio os ydynt am barhau i gefnogi'r gwasanaeth iechyd.

Angen 'ymrwymiad llwyr'

"Os yw Llywodraeth Cymru o ddifri yngl欧n ag arloesi er mwyn cwrdd 芒'r pwysau eithriadol sydd ar y GIG yna fe fyddwn ni angen ymrwymiad llwyr ar draws holl ardaloedd gwahanol y GIG, gan gynnwys gan arweinwyr gwleidyddol.

"Does dim llawer o dystiolaeth bod hyn yn digwydd ar hyn o bryd... yn enwedig o safbwynt nawdd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi datgan yn glir eu "ymrwymiad i ddiwygio nawdd a llywodraethiant y Gwasanaeth T芒n yng Nghymru.

"Ar hyn o bryd dyw Awdurdodau T芒n ac Achub ddim yn atebol i'r etholwyr, na'r llywodraethau cenedlaethol na lleol ac mae angen datrys hyn er mwyn creu mwy o gyfleoedd ar gyfer democratiaeth leol."