41% o alwadau i wasanaethau t芒n Cymru'n ddiangen
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth diffoddwyr t芒n yng Nghymru fynychu mwy o alwadau diangen nac unrhyw fath arall o ddigwyddiad dros y pum mlynedd diwethaf.
Yn 2016/17 roedd 41% o'r 37,217 o alwadau yn rhai diangen, gyda 29% o'r galwadau yn danau a 30% yn "ddigwyddiadau arbenigol".
Ar gyfartaledd mae criwiau'n cymryd 23 munud i ddelio 芒 galwad, ac yn costio hyd at 拢300 ar gyfer pob injan d芒n.
Mae nifer y galwadau i'r gwasanaeth t芒n yng Nghymru wedi parhau i ostwng dros y degawd diwethaf.
拢3m y flwyddyn
Llynedd fe wnaeth criwiau yng Nghymru fynychu 10,751 t芒n a 11,248 "digwyddiad arbenigol" fel gwrthdrawiadau car ac achub anifeiliaid.
Ond roedd dros 40% o'r galwadau - 15,218 - yn rhai diangen, ac roedd y mwyafrif o'r rhain yn alwadau awtomatig gan larymau t芒n.
Dywedodd Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru mai nifer fach o'r galwadau y maen nhw'n ei dderbyn - 5% - sydd yn rhai sy'n fwriadol ddiangen.
Dywedodd adroddiad Llywodraeth Cymru yn 2015 bod galwadau diangen yn costio tua 拢3m y flwyddyn yng Nghymru, a'i fod yn gallu atal criwiau rhag mynychu tanau go iawn.
Mae rhai gwasanaethau t芒n yn Lloegr yn codi t芒l ar bobl sy'n gwneud galwadau ffug fwy nag unwaith, ond dyw'r rhai yng Nghymru ddim.
'Gwastraffu adnoddau'
Dywedodd Andrew Thomas o Wasanaeth T芒n ac Achub De Cymru y byddai hynny'n atal rhai rhag gwneud galwadau diangen, ond ni fyddai'n mynd at wraidd y broblem.
"Yr hyn sydd angen i ni wneud yw deall sut i leihau nifer y larymau sy'n canu, ac unwaith y byddan ni'n gwneud hynny ni fyddai angen i ni gael ein galw," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "ymateb i alwadau diangen yn gwastraffu adnoddau ac yn atal criwiau rhag mynychu digwyddiadau go iawn".
"Er mai perchnogion adeiladau sydd 芒'r cyfrifoldeb dros alwadau diangen, dylai'r gwasanaeth t芒n weithredu i geisio peidio eu mynychu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2016
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2015