91热爆

Ceisio denu merched i'r Gwasanaeth T芒n yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Diffoddwr TanFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae ymgyrch wedi ei lansio i geisio denu mwy o ferched i ymuno a'r Gwasanaeth T芒n ac Achub yng Nghymru.

125 o ferched sydd yn gweithio yn y gwasanaeth yng Nghymru yn 么l ffigyrau newydd.

Yn ne Cymru, dim ond tua 2% o weithlu'r gwasanaeth sydd yn ferched, 20 allan o 838 o swyddogion.

Mae'r gwasanaeth yn awgrymu bod y swydd yn cael ei weld fel un i ddynion yn draddodiadol.

Merched yn y Gwasanaeth T芒n ac Achub

  • Gogledd Cymru: 37 o ferched allan o 668 o ddiffoddwyr = 5.5%;

  • Canolbarth a'r Gorllewin: 68 o ferched ond dim ffigwr cyfanswm ar gael;

  • De Cymru: 20 o ferched allan o 838 o ddiffoddwyr = 2.4%;

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Suzanne Parry yn gweithio gyda Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru ac fel hyfforddwr ffitrwydd

Un sy'n gweithio gyda'r gwasanaeth yn ne Cymru yw Suzanne Parry, dywedodd: "Dwi'n meddwl bod merched yn teimlo ei bod yn swydd i ddyn, ond dydi o ddim.

"Rydyn ni i gyd o faint gwahanol, ac mae pawb yn gweithio fel t卯m yn y criw. Dwi'n meddwl os ydych chi wir eisiau gwneud hyn, dylech chi drio."

Mae Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru yn dweud mai bechgyn yn unig sy'n dangos diddordeb mewn gyrfa fel diffoddwyr t芒n ar ymweliadau i ysgolion.

Y bwriad yw newid y syniad yna a cheisio hyrwyddo'r maes fel gyrfa i ferched, a rhywbeth sydd yn hyblyg ac yn rhoi cyfle i ddysgu sgiliau newydd.

Er bod ffitrwydd corfforol yn rhan bwysig o'r swydd, erbyn hyn mae diffoddwyr t芒n yn defnyddio rhan fawr o'u hamser yn y gymuned yn hyrwyddo diogelwch.