Prif Weinidog yn addo adolygu targedau trin cleifion
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod targedau ar gyfer trin cleifion y Gwasanaeth Iechyd yn cael eu hadolygu.
Dywedodd Carwyn Jones mai un opsiwn fyddai gadael i feddygon osod targedau i gleifion unigol.
Mewn cynhadledd fisol yng Nghaerdydd amddiffynnodd bolisi Llafur a cheisio dadbrofi rhai o'r "mythau" am y Gwasanaeth Iechyd.
Dywedodd fod lefelau boddhad cleifion yn uchel a bod y gwasanaeth yng Nghymru yn well nac un Lloegr yn achos mynediad i foddion trin canser, er enghraifft.
'Heriau'
Ond cyfaddefodd fod y GIG yn wynebu "heriau" oherwydd mwy o alw a thoriadau cyllid a dweud y gallai'r targedau presennol gael "effaith andwyol ar ofal i gleifion".
Mae'r Ceidwadwyr wedi galw am ymchwiliad wedi adroddiadau beirniadol o ysbytai a rheolwyr yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones: "Targedau cyrhaeddiad yw'r hyn sy'n gwneud y GIG yn atebol a thryloyw.
"... Allwch chi ddim ymateb i fethiant i gwrdd 芒 thargedau trwy eu hail-ddiffinio ac awgrymu nad ydynt o bwys.
"Y maent o bwys i'r bobl sy'n aros am driniaeth am ganser.
'Ymchwilio'
"Os na all Llywodraeth Cymru gwrdd 芒'u targedau iechyd eu hunain, yna mae'n hen bryd iddyn nhw ymchwilio i weld pam na ddigwyddodd hynny a mynd i'r afael 芒'r problemau."
Mae Kirsty Williams, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi dweud ei bod yn beirniadu'r methiant i gwrdd 芒 thargedau penodol ond yn derbyn bod angen trafod targedau yn y Gwasanaeth Iechyd.
Dywedodd Mr Jones: "Mae pob targed yn cael ei adolygu i ystyried pa mor addas ydyn nhw.
"Un posibilrwydd, er enghraifft, yw creu targedau er mwyn cleifion unigol yn lle cael targed generig ond y cwestiwn yw pa mor ymarferol yw hynny?
"A allwn ni weithredu mewn modd lle mae targed wedi ei addasu i unigolyn a bod y targed yn cael ei osod gan y meddyg ei hun? Mae hynny'n un posibilrwydd."
Perfformiad
Yn y cyfamser, mae gwefan newydd wedi ei lansio a dywedodd Mr Jones y byddai'n helpu codi safonau.
Mae'r wefan, , yn rhoi data am berfformiad ac yn cyfeirio at y saith bwrdd iechyd yng Nghymru.
Mae'n cynnwys gwybodaeth am gyfraddau marwolaethau, cyfraddau heintiau a faint o nyrsys sydd ar gael ac yn s么n am fesurau i geisio mynd i'r afael 芒 chlefyd y galon a str么c.
Dywedodd Mr Jones bod y wefan yn rhan o ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau "tryloywder" yn y GIG.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2013
- Cyhoeddwyd12 Medi 2013
- Cyhoeddwyd28 Awst 2013