91热爆

Angen ymchwiliad dynladdiad mewn bwrdd iechyd, medd Aelod Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Llyr Gruffydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed yr Aelod Cynulliad bod angen i'r heddlu edrych ar y dystiolaeth

Mae yna alwadau am ymchwiliad i honiad o ddynladdiad corfforaethol yn sgil lledaeniad C.difficile ym mwrdd iechyd mwyaf Cymru.

Rhwng Ionawr a Mai eleni roedd yna 96 achos o'r haint yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, sir Ddinbych.

Bu farw 30 o'r cleifion tra'n dioddef gyda'r haint C.difficile.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro oherwydd i'r haint ymledu.

Ond mae'r AC Llyr Gruffydd yn dweud ei fod am gael ymchwiliad i'r modd y gwnaeth y bwrdd iechyd ymateb i rybuddion.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am wasanaethau iechyd mewn chwech o siroedd y gogledd gyda chyllid o tua 拢1.2 biliwn y flwyddyn.

Fe fe wnaeth cadeirydd y Bwrdd, yr Athro Merfyn Jones a'r is-gadeirydd, Dr Lyndon Miles ymddiswyddo yn dilyn beirniadaeth mewn adroddiadau swyddogol am y modd yr aed ati i geisio rheoli'r haint, ac am fethiannau yn y sustem rheoli.

Fe wnaeth prif weithredwr y Bwrdd hefyd adael ei swydd oherwydd rhesymau iechyd.

Ond mae rhaglen materion cyfoes 91热爆 Cymru, Week In Week Out wedi darganfod nad oes yna unrhyw un wedi ei ddisgyblu yn dilyn y feirniadaeth.

Beirniadaeth

Er y rhybuddion y gallai'r afiechyd ledaenu, dywed adroddiad swyddogol na wnaeth y bwrdd iechyd ymateb yn ddigon cyflym.

Fe roedd nifer y nyrsys sy'n gweithio yn y maes rheoli heintiau wedi cael ei leihau.

Hefyd nid oedd yna ddigon o welyau unigol mewn unedau penodol er mwyn atal yr haint rhag ymledu.

Ar y rhaglen nos Lun mae Aelod Cynulliad Gogledd Cymru, Llyr Gruffydd yn dweud ei fod eisiau i'r heddlu i edrych ar y dystiolaeth:

"Dw i'n credu bod hi yn amser i ystyried os oes yna achos i'w ateb o ran dynladdiad corfforaethol a dw i ddim yn dweud hynny ar chwarae bach.

"Rydyn ni yn gwybod mai un o'r meini prawf yw bod yr uwch rheolwyr wedi torri'r rheolau o ran gofal i gleifion. Mae 30 o bobl wedi marw oedd gyda C. Diff yn Glan Clwyd yn unig."

Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn derbyn fod yna wendidau a'u bod yn gweithio'n galed i fynd i'r afael 芒 hyn.

Ychwanegodd llefarydd fod miloedd o gleifion bob diwrnod yn elwa o driniaeth o safon uchel a'r gofal sy'n cael ei gynnig gan staff.

'Data yn achos pryder'

Mae Llywodraeth Cymru wedi anfon t卯m o arbenigwyr i geisio helpu'r Bwrdd Iechyd.

Ond dywed Geoff Ryall-Harvey, prif swyddog y Cyngor Iechyd Lleol, fod y cyhoedd wedi colli pob ymddiriedaeth.

"Mae'r brand wedi ei wenwyno. Dyw'r Cyngor Iechyd ddim yn credu bod modd i ni arddel yr enw Betsi Cadwaladr. Mae'n enw nad yw bobl am ei glywed." meddai.

Hefyd ar y rhaglen mae ymgynghorydd llywodraeth yn cymharu'r ddarpariaeth iechyd mewn rhai mannau yng Nghymru i'r sgandal diweddar yn ysbyty Stafford ac yn galw am ymchwiliad ar draws Cymru i gyfraddau marwolaethau mewn ysbytai.

Dywed yr Athro Syr Brian Jarman, sydd yn arbenigwr ar ystadegau marwolaethau ac yn cynghori llywodraeth San Steffan, fod data mewn rhannau o Gymru yn achos o bryder.

"O'r hyn rwyf wedi ei weld rwy'n bryderus am gwynion, yn bryderus am heintiau a'r modd mai ysbyty penodol yn delio gyda hyn.

"Dyw'r modd rwyf wedi ei weld o fesur nifer y marwolaethau ddim yn un gwbl agored."

Un sy'n rhannau ei bryderon yw AC Cwm Cynon, Ann Clwyd.

"Wrtha i yn breifat mae yna bobl wedi eu dweud eu bod yn falch o glywed fi'n dweud hyn.

"Ond yn amlwg mae'n embaras oherwydd rwy'n beirniadu gwasanaeth sydd wedi ei ddatganoli i Gymru, a rhywbeth sy'n ngofal Llywodraeth Cymru, " meddai Ms Clwyd sy'n arwain arolwg o gwynion gan gleifion mewn ysbytai yn Lloegr.

Ychwanegodd: "Gallwch ddim rhoi eich pen yn y tywod a smalio fod popeth yn iawn. Dyw e ddim. Dw i'n credu byddai' Aneurin Bevan yn troi yn ei fedd."

System well

Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi addo y bydd yna adolygiad i edrych ar y ffordd mae data yn cael ei gyflwyno:

"Rydyn ni yn y broses o symud i system wahanol yng Nghymru, ffordd newydd o fesur cyfradd marwolaethau mewn ysbytai," meddai.

"Rydw i'n gobeithio pan fydd wedi ei orffen y bydd gyda ni system sydd yn fwy grymus o ran y wybodaeth mae'n darparu ac yn haws i gleifion ddeall."

Dywed Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru nad yw'r system ar gyfer cwynion yn gweithio'n ddigon da.

"Dyw'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ddim yn dysgu gwersi o gwynion mor gyflym ac y dylai wneud. Rydym wedi gweld nifer y cwynion yn codi 290% ers i swyddfa'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus gael ei sefydlu."

Week In Week Out: Safe In Their Hands? 91热爆 One Wales Nos Lun 7.30pm.

Yn dilyn y rhaglen mae trafodaeth ar gyflwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru sydd yn cael ei gyflwyno gan y gohebydd Tim Rogers ar 91热爆 One Wales am 10.35pm.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol