Archwilydd yn rhybuddio o 'ddirywiad' y Gwasanaeth Iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae cleifion sy'n derbyn gofal brys sydd heb ei drefnu gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi gweld "dirywiad cyffredinol" mewn gwasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf.
Dyna gasgliad adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Ond dywedodd yr Archwilydd er bod safonau wedi disgyn, mae rhai "gwelliannau calonogol y mae angen eu cynnal".
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn mynd i weithio gyda'r GIG i sicrhau gwelliannau pellach.
Heriau
Mae adroddiad Huw Vaughan Thomas, yr Archwilydd Cyffredinol yn amlygu nifer o resymau sy'n gyfrifol am y dirywiad mewn gofal sydd heb ei drefnu.
Dywed bod "cynnydd yn y galw, heriau'n ymwneud a'r gweithlu a phroblemau gyda llif cleifion" yn rhoi pwysau ar wasanaethau yng Nghymru.
Mae hefyd yn dweud bod amseroedd aros wedi cynyddu yn gyffredinol, a bod gormod o gleifion, yn enwedig rhai h欧n yn treulio mwy na 12 awr mewn adrannau gofal brys.
Ond mae'r adroddiad yn cydnabod y cynnydd "nodedig" yn nifer y cleifion dros 85 oed oedd angen triniaeth, a'r anghenion iechyd cymhleth sydd yn aml ynghlwm a'u trin.
Dywed yr Archwilydd bod sawl un o'r prif heriau gafodd eu hamlygu yn ei adroddiad blaenorol yn 2009 yn dal i fod yn bresennol heddiw, a bod angen dulliau mwy "cyfannol" o ddarparu triniaeth heb ei drefnu.
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod problemau gyda llif cleifion drwy'r system ysbyty yn cael effaith ar wasanaethau eraill fel gofal brys, lle byddai cleifion yn gorfod aros mewn ambiwlansys cyn cael mynediad i'r ysbyty.
Nodir bod targedau yn y maes yma wedi gwaethygu yn sylweddol ers 2009.
Gwelliannau
Er y methiannau sy'n cael eu hamlygu gan yr Archwilydd, mae'n dweud bod y Gwasanaeth wedi gwella mewn rhai meysydd.
Yn 么l yr adroddiad mae'r data diweddaraf yn dangos gwelliannau mewn amseroedd aros mewn adrannau achosion brys ers y Gwanwyn 2013, ac mae angen parhau'r gwelliant yma.
Mae'n argymell y dylai'r Llywodraeth a'r GIG barhau i fonitro gofal brys, gwella data sydd ar gael er mwyn deall y galw am ofal brys, a gwella'r cyfathrebu gyda'r cyhoedd er mwyn iddynt ddewis y gofal priodol ar eu cyfer.
Un ffordd bydd drwy wasanaeth ff么n newydd 111 fydd yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn 2015.
Bydd y linell ff么n yn cynghori cleifion ar ba wasanaeth y maent eu hangen, a'r bwriad yw helpu i gleifion gael y driniaeth gywir a lleihau'r galw ar wasanaethau gofal brys.
Blaenoriaeth
"Er bod yr adroddiad hwn heddiw yn dangos bod y GIG yng Nghymru yn blaenoriaethu gwasanaethau gofal heb ei drefnu, mae ffactorau fel cynnydd yn y galw a heriau'n ymwneud 芒'r gweithlu yn amlwg wedi rhoi gwasanaethau dan gryn bwysau, ac wedi cyfrannu at anawsterau parhaus o ran cyrraedd targedau perfformiad," meddai'r Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas.
"Yn yr adroddiad hwn gwneir nifer o argymhellion clir ar gyfer yr holl asiantaethau sy'n darparu gofal heb ei drefnu yng Nghymru, a'r gobaith yw y bydd hyn yn helpu'r GIG i adeiladu ar y gwelliannau a awgrymir yn 么l y data mwyaf diweddar sydd ar gael."
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod am ystyried argymhellion yr adroddiad yn ofalus.
"Mae cyfleoedd clir ar gyfer gwella ac rydym yn falch bod llawer o'r gwaith wedi dechrau fel rhan o'r Rhaglen Waith Genedlaethol i Ofal Heb ei Drefnu, sy'n cael ei harwain gan brif weithredwyr GIG Cymru," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
"Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda GIG a gofal cymdeithasol i adeiladu ar welliannau cynnar sydd wedi eu gweithredu mewn ymateb i'r adroddiad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2013
- Cyhoeddwyd28 Awst 2013
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2013