Corff amgylcheddol wedi ei darbwyllo am drac rasio

Ffynhonnell y llun, Good Relations Wales PR

Disgrifiad o'r llun, Gallai'r safle 830 erw greu miloedd o swyddi meddai'r cefnogwyr

Mae corff amgylcheddol wedi cynghori Llywodraeth Cymru nad oes angen iddyn nhw edrych ar gynlluniau i ddatblygu trac rasio yng Nglyn Ebwy.

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan eu bod yn gwrthwynebu'r syniad yn wreiddiol am eiubod yn pryderu y byddai yn rhy agos at y Parc Cenedlaethol ac y byddai s诺n a llygredd yn cael effaith newidiol ar, "rhinweddau arbennig sydd yn y parc gan gynnwys yr ecoleg, yr archeoleg a harddwch yr ardal".

Ond maent erbyn hyn wedi eu darbwyllo gan y datblygiad.

Pe byddai'r corff wedi gofyn i weinidogion graffu ar y cynlluniau byddai yna oedi wedi bod i'r trac sydd wedi ei gymeradwyo yn barod gan gyngor Blaenau Gwent.

Fodd bynnag mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddant yn ystyried tystiolaeth gan eraill ac yn edrych ar yr holl wybodaeth cyn penderfynu a fyddan nhw yn edrych ar y syniad.

Hwb

Mae'r ymgyrchwyr sydd o blaid y syniad wedi dweud bod y newyddion yn "hwb mawr" a'i bod hi'n "galonogol" bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi trafod y ffordd ymlaen gyda'r datblygwyr.

Dywed Heads of the Valleys Development Company Limited y byddai'r llecyn sydd ger yst芒d ddiwydiannol ym mhentref Rasa yn dod a miloedd o swyddi i'r ardal ac y gallai fod yn gystadleuydd i Silverstone sef safle lle mae ceir Fformiwla Un yn rasio.

Yr ystyriaeth ynghylch pwysigrwydd y trac i'r gymuned leol oedd un o'r ffactorau pam fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu y dylai'r cynllun fynd yn ei flaen meddai Graham Hillier.

Ond roedd hi hefyd yn bwysig eu bod nhw wedi codi pryderon amgylcheddol hefyd meddai:

"Yn dilyn trafodaethau hir gyda'r datblygwyr, rydyn ni wedi cytuno sut y gallai effaith y datblygiad yma gael eu lliniaru ac fe all y cynllun symud ymlaen."

Croesawu

Mae Aelod Seneddol yr ardal, Nick Smith wedi croesawu'r penderfyniad:

"Rydyn ni wedi colli'r cyfle i gael datblygiadau mawr am genhedlaeth ac mae ein cymuned wedi dioddef oherwydd hynny.

"Mae'n galonogol i weld Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio ei chylch gorchwyl i weithio gyda'r datblygwyr er budd pawb sydd yn ymwneud gyda'r cynllun.

"Mae yna dal ffordd i fynd ond mae yna un rhwystr wedi ei oresgyn."