91热爆

Trac rasio yn mynd yn ei flaen

  • Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr Blaenau Gwent wedi pleidleisio yn unfrydol o blaid adeiladu trac rasio ger Glyn Ebwy.

Yn 么l rhai, gallai arwain at tua 1,500 o swyddi uniongyrchol a 500 o swyddi adeiladu.

Mae'r datblygwyr eisiau gwario 拢280m ar adeiladu'r trac ar 830 o aceri ger Stad Ddiwydiannol Rasa yng Nglyn Ebwy.

Roedd rhai wedi dweud eu bod yn poeni am effaith y trac ar yr amgylchedd.

Pencampwriaethau

Yn 么l y datblygwyr, fe fydd y trac yn medru cynnal pencampwriaethau fel y MotoGP a'r World Touring Car.

Yn ogystal mae cynlluniau ar gyfer adnoddau motocr贸s, cartio a chylchedau ar gyfer cerbydau sy'n cael eu gyrru gan bedair olwyn.

Mae gwestai ac adnoddau eraill ar gyfer ymwelwyr yn rhan o'r cynlluniau ac unedau diwydiannol allai gael eu defnyddio gan gwmn茂au ymchwilio a datblygu.

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud y dylai'r cynlluniau fod wedi cael eu gwrthod oherwydd "bod risg annerbyniol o uchel i'r amgylchedd".

'Achos arbennig'

Ond cyn y bleidlais roedd swyddogion Cyngor Blaenau Gwent wedi dweud y dylai'r cynnig gael ei dderbyn.

Dywedodd adroddiad: "Os bydd un yn tueddu i roi ffafriaeth i amddiffyn yr amgylchedd, yna gellir dadlau bod y cynllun yn groes i bolisi lleol a chenedlaethol.

"Ar y llaw arall, mae'r potensial datblygu economaidd yn golygu y gall hyn gael ei ystyried fel achos arbennig - achos mor eithriadol fel y gellir ei gyfiawnhau o ran polisi."

Chwe mis

Mae'r cwmni sy'n berchen ar y cais, Cyfyngedig Penaethiaid y Cymoedd, eisiau dechrau adeiladu o fewn chwe mis.

Maen nhw eisoes wedi derbyn benthyciad o 拢2m gan Lywodraeth Cymru ac yn ceisio codi mwy o arian cyhoeddus er mwyn cefnogi'r fenter.

Y gobaith yw y bydd buddsoddwyr yn cyfrannu 拢150m.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol