91热爆

Pryderon gan gorff amgylcheddol am drac rasio newydd

  • Cyhoeddwyd
Ben Spies a Cal Crutcholow yn y MotoGPFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r trefnwyr yn gobeithio y byddai'r trac rasio yn creu miloedd o swyddi

Fe ddylai cynlluniau i adeiladu trac rasio ym Mlaenau Gwent gael eu rhoi o'r neilltu am fod yna 'risg amgylcheddol annerbyniol' i'r syniad, meddai corff amgylcheddol.

Mi fydd cyngor Blaenau Gwent yn ystyried y cais yn ddiweddarach yn y mis ac yn 么l y datblygwyr byddai'r project gwerth 拢250 miliwn yn dod a miloedd o swyddi i'r ardal.

Byddai'r trac hefyd yn golygu bod raswyr gorau'r byd yn cael eu denu i'r cymoedd.

Y llecyn dan sylw yw tir ger yst芒d ddiwydiannol ym mhentref Rasa.

Ond mae rhaglen wleidyddol y 91热爆, Sunday Politics Wales, wedi gweld dogfen gan Gyfoeth Naturiol Cymru sydd yn codi pryderon am y cais.

Effaith 'annerbyniol'

Maen nhw wedi cyflwyno eu barn i'r cyngor ac yn dweud: "Rydyn ni yn ystyried y byddai'r maint a'r safle sydd ar rostir ger y ffin gyda pharc cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cael effaith amgylcheddol annerbyniol..."

Dywed y corff y byddai'r trac yn effeithio ar rannau o'r safle treftadaeth y byd ym Mlaenafon a'r tirlun hanesyddol.

Mae awdurdod parc Bannau Brycheiniog hefyd wedi dweud wrth y Sunday Politics ei bod yn anhapus gyda'r cais.

Er eu bod yn cydnabod y byddai'r trac yn dod 芒 swyddi i'r ardal maent yn dweud ei bod yn gwrthwynebu am y byddai'r llecyn yn rhy agos i'r parc cenedlaethol: "Gallai'r s诺n a'r llygredd fyddai yn cael ei gynhyrchu gael effaith ar y rhinweddau arbennig sydd yn y parc gan gynnwys yr ecoleg, yr archeoleg a harddwch yr ardal."

Swyddi

Yn gynharach yr wythnos yma fe ddywedodd ysgrifennydd Cymru David Jones fod hwn yn broject allai fod yn 'gyffroes iawn' a allai ddod a chymaint 芒 6,000 o swyddi i Flaenau Gwent.

Mae'r datblygwyr sef Heads of the Valleys Development Company Limited wedi dweud y gallai'r project fod yn gystadleuydd i Silverstone, trac lle mae ceir Fformiwla Un yn rasio.

Ond doedd y cwmni na'r cyngor ddim am wneud unrhyw sylw pellach.

Cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru mewn datganiad eu bod yn gwrthwynebu'r cais ar hyn o bryd ond y byddent yn parhau i gydweithio gyda'r datblygwyr, "i ddarganfod unrhyw ddatrysiadau i'r pryderon sydd gennym ni".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol