Gwrthwynebiad i gynllun trac rasio £200m yng Nglyn Ebwy
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp ymgyrchu yn gwrthwynebu cynlluniau i adeiladu trac rasio gwerth £200 miliwn ar dir comin yn un o gymoedd y de.
Mae Cymdeithas y Lleoedd Agored yn honni y bydd y trac rasio yng Nglyn Ebwy yn niweidio'r amgylchedd ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae'r grŵp yn galw ar Gyngor Blaenau Gwent i wrthod y cynlluniau.
Ond mae datblygwyr yn dweud fod lleddfu'r effaith amgylcheddol yn rhan allweddol o'r cais cynllunio ac maen nhw wedi addo gwella mynediad i'r tir comin.
Dywed cefnogwyr y prosiect y byddai miloedd o swyddi'n cael eu creu ar y safle 830 erw (335 hectar).
Mae'r cynlluniau'n cynnwys traciau cartio rhyngwladol a MotoCross, ynghyd â pharc technoleg ar gyfer gwasanaethau ymchwil yn y sector cerbydau modur a champau modur.
'Tir comin unigryw'
Ond yn ôl ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas y Lleoedd Gwag, Kate Ashbrook, mae'r cynllun wedi ei glustnodi ar gyfer tir comin rhestredig y mae gan y cyhoedd yr hawl i'w ddefnyddio.
"Does ganddyn nhw ddim hawl i rwygo tir comin hyd yn oed os bydd y cais cynllunio yn cael ei gymeradwyo," meddai.
"Bydd angen iddynt ddarganfod tir addas yn lle'r tir comin...mae'n anodd gweld sut y gallan nhw ddarganfod darn eang o dir tebyg a'i wneud yn dir comin.
"Rydym yn annog Cyngor Blaenau Gwent i ystyried yr effaith ddifrodus y byddai'r datblygiad hwn yn ei gael ar gefn gwlad a thir comin unigryw Cymru a gwrthod y cais cynllunio."
Dywedodd Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd, sydd y tu ôl i'r fenter, fod asesiad amgylcheddol trwyadl wedi ei gynnal fel rhan o'r cais cynllunio.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Mae lleddfu'r effaith ar yr amgylchedd yn un o ofynion rheoliadau cynllunio ac mae materion amgylcheddol fel ecoleg a'r tirlun yn cael eu hystyried yn llawn.
"Mae Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd wedi bod yn rhagweithiol iawn o ran datblygu strategaeth i ddarganfod darn newydd o dir gyda mynediad agored a sicrhau bod mannau penodol o'r tir comin ar ein safle yn haws i gael atynt nag ar hyn o bryd.
"Mae trafodaethau gyda'r grwpiau priodol ynghylch y mater hwn yn parhau yn gadarnhaol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2012
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2011