Mwy o amser i drafod trac rasio
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i adeiladu trac rasio gwerth 拢280 miliwn yng Nglyn Ebwy wedi ei hatal am fod Llywodraeth Cymru eisiau mwy o amser i edrych ymhellach ar fwriad y datblygwyr.
Roedd Cyngor Blaenau Gwent wedi cynnal cyfarfod arbennig i drafod y cynllun, ond cafodd ei hatal wedi llythyr gan Lywodraeth Cymru oedd yn rhwystro'r cyngor rhag rhoi caniat芒d cynllunio.
Mae'r llythyr yn datgan y bydd y Llywodraeth yn edrych yn ddyfnach ar y cais am ganiat芒d cynllunio, cyn penderfynu a fydd y trac yn cael ei gymeradwyo.
Roedd y cyngor hefyd wedi derbyn llythyr gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadarnhau eu gwrthwynebiad i'r cynllun i adeiladu trac rasio ar 830 o aceri o dir ger Stad Ddiwydiannol Rasa yng Nglyn Ebwy.
Cefnogaeth y Cyngor
Er y datblygiad diweddaraf yma, mae'r cyngor wedi cadarnhau ei gefnogaeth i'r cynllun.
Dywedodd Hedley McCarthy, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent: "Hoffai'r Cyngor gadarnhau ei ymrwymiad i'r prosiect enfawr hwn a byddwn yn aros am benderfyniad Llywodraeth Cymru yn yr wythnosau nesaf.
"Rydym yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod y cais yn mynd rhagddo.
"Mae'r manteision a'r achos busnes yn glir, gyda miloedd o swyddi yn cael eu creu pan fydd y cylch yn dechrau gweithredu ynghyd 芒 datblygu busnesau peirianneg, gwyddoniaeth a thechnoleg.
"Rydym yn edrych i'r dyfodol ac mae'r dyfodol hwnnw'n ddisglair."
Pryderon
Roedd y cynllun wedi denu beirniadaeth gan rai oedd yn poeni am effaith y trac ar yr amgylchedd.
Dywedodd Graham Hillier o Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Rydym ni'n cydnabod bod hyn yn ddatblygiad pwysig i'r ardal. Rydym ni'n cyfarfod gyda'r datblygwr i barhau i drafod sut i leihau'r effeithiau amgylcheddol.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r datblygwr a'r awdurdod lleol i gael y canlyniad gorau i'r amgylchedd, y gymuned a'r economi."
Dywedodd swyddog o gwmni Heads of the Valleys, sy'n gyfrifol am ddatblygu'r trac, eu bod yn cyfarfod gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i drafod y pryderon.
Creu Swyddi
Yn 么l y datblygwyr, fe fydd y trac yn medru cynnal pencampwriaethau fel y MotoGP a'r World Touring Car.
Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys lle i nifer o gerbydau gwahanol fel beiciau motocros a chartiau.
Mae gwestai ac adnoddau eraill ar gyfer ymwelwyr yn rhan o'r cynlluniau ac unedau diwydiannol allai gael eu defnyddio gan gwmn茂au ymchwilio a datblygu.
Yr amcangyfrif oedd y byddai'r trac yn creu dros fil o swyddi uniongyrchol, a nifer fawr o swyddi adeiladu hefyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2013