91热爆

Claddu merlod laddwyd gan yr eira yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
Gareth JonesFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Gareth Jones fod marwolaeth yr anifeiliad yn 'drychineb'

Mae ffermwyr yn Eryri wedi dechrau claddu tua 50 o ferlod mynydd fu farw oherwydd eira trwm fis Mawrth.

Bu farw bron hanner merlod Carneddau ar fynyddoedd Aber a Llanfairfechan yn sgil y tywydd garw.

Y gred yw bod merlod mynydd wedi pori ar lethrau'r Carneddau ym Mharc Cenedlaethol Eryri ers cyfnod y Celtiaid.

Mae rheolau'r Undeb Ewropeaidd wedi cael eu llacio fel y gall ffermwyr gladdu'r anifeiliaid fu farw yn y lluwchfeydd oherwydd eira trwm yn y gogledd a'r canolbarth.

'Trychineb'

Hyd yn hyn mae ffermwyr wedi dod i hyd i oddeutu 50 o ferlod mynydd sydd wedi marw ac wedi casglu tua 25 ar gyfer eu claddu.

Dywedodd ffermwr lleol, Gareth Wyn Jones, fod ffermwyr wedi chwilio dim ond chwarter y 27,000 erw o'r mynyddoedd a'u bod yn pryderu bod mwy o'r merlod wedi marw.

Ychwanegodd fod marwolaeth y merlod a channoedd o ddefaid yn "drychineb".

"Mae nifer o luwchfeydd dal ar y mynyddoedd felly dydyn ni ddim yn gallu mynd i rai ardaloedd o hyd," meddai.

"Bydd rhaid inni aros o leia' wythnos arall cyn chwilio'r uchelfannau."

拢500,000

Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw'n cyfrannu 拢500,000 at elusennau sy'n helpu ffermwyr ar 么l y tywydd garw.

Dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies, y byddai'r arian yn cael ei rannu rhwng tair elusen.

Bydd y rhwydwaith amaeth FCN yn derbyn 拢100,000 a mudiad R.A.B.I. yn cael 拢150,000 i'w helpu gyda gwaith bugeiliol a chynghori.

Bydd cymorth uniongyrchol yn cael ei roi i'r teuluoedd sydd wedi diodde' gwaetha'.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol