Undeb ffermwyr yn cwrdd 芒'r gweinidog, Alun Davies
- Cyhoeddwyd
Mae cynrychiolwyr NFU Cymru yn cwrdd 芒'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Cymru, Alun Davies, yr wythnos hon.
Y nod yw trafod y sefyllfa ar 么l i nifer o anifeiliaid farw yn yr eira trwm.
Dywedodd llywydd yr undb yng Nghymru Ed Bailey: "Bydd y cyfarfod yn gyfle i drafod yr angen am help brys i ffermwyr yn sgil y tywydd garw.
'Tymor hir'
"Hefyd bydd angen ystyried sut mae modd rheoli'r effeithiau tymor hir ar ffermio da byw ..."
Bydd y cyfarfod ar fferm Robert Jenkins, Cilhaul, Trefeglwys, Llanidloes am 3pm ddydd Iau.
Mae nifer o ffermwyr wedi dweud eu bod yn wynebu "trychineb" ar 么l y tywydd garw.
O dan reolau Ewropeaidd mae hi'n anghyfreithlon claddu cyrff anifeiliaid ac mae'n rhaid talu cwmn茂au i'w casglu.
Ond dywedodd prif filfeddyg Cymru, Christianne Glossop, fod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori gyda chyfreithwyr i weld a oedd modd gwneud cais i addasu'r gyfraith.
Rheolau Ewropeaidd
Dywedodd ffermwyr eu bod wedi treulio'r Pasg yn chwilio am eu hanifeiliaid mewn lluwchfeydd hyd at 15 troedfedd (4.57 metr) yng nghanolbarth a gogledd Cymru, ond bu farw cannoedd ohonynt.
Mae rheolau Ewropeaidd yn golygu bod yn rhaid i ffermwyr gael gwared ar gyrff cyn gynted 芒 phosib ond mae nifer wedi methu 芒 gwneud hynny, gyda lor茂au'n methu 芒 chyrraedd at ffermydd a mynyddoedd.
Yn 么l llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones, mae angen codi'r gwaharddiad fel bod ffermwyr yn gallu claddu eu hanifeiliaid neu ganiat谩u i gyrff gael eu casglu am ddim.
Dywedodd yr Athro Glossop fod Mr Davies wedi gofyn iddi ystyried sut y gellid helpu ffermwyr.
"Mae ffermwyr yn dweud wrthym fod cymaint o anifeiliaid marw nes eu bod yn cael trafferth sicrhau eu bod yn cael eu casglu, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell ble mae'n anodd iawn gyrru lor茂au i'r ffermydd," meddai wrth 91热爆 Cymru.
"Ac mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar yr hyn allan nhw wneud gyda'r anifeiliaid marw, prun ai yw hi'n bosib ai peidio i gyflwyno newid dros dro i'r gyfraith i'w gwneud hi'n bosib claddu'r anifeiliaid yn lle."
Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried a oedd modd helpu gyda'r gost o dalu cwmn茂au i gludo'r anifeiliaid marw o'r ffermydd.
'Trychineb'
Roedd Gareth Wyn Jones, sy'n ffermwr yn Nyffryn Conwy, wedi beirniadu Mr Davies am beidio 芒 gweithredu dros benwythnos g诺yl y banc.
Dywedodd ei fod e, ynghyd 芒 thri ffermwr arall yn ardal Llanfairfechan, yn credu eu bod wedi colli 300 o ddefaid.
Mae dros 25 o ferlod mynydd hefyd wedi marw.
"Mae'n drychineb. Dyw'r bobl 'dwi'n 'nabod o gwmpas ffordd 'ma ddim wedi bod yn cysgu, 'dwi wedi colli st么n mewn pwysau," meddai Mr Jones.
"Rydan ni wedi cael wythnos ofnadwy, pob un ohonon ni, roedd pawb o'r gymuned amaeth a hyd yn oed pobl leol wedi dod i'n helpu i chwilio am y defaid.
"Dyna 'dach chi'n ei wneud, torchi'ch llewys. Dydach chi ddim yn mynd ffwrdd am benwythnos, dim hyd yn oed y Pasg."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2013