91热爆

Cyhoeddi mwy o help i ffermwyr wedi'r tywydd garw

  • Cyhoeddwyd
Defaid mewn eira yn Sir y FflintFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan ffermwyr tan hanner nos ar Ebrill 23 i gladdu anifeiliaid mewn rhai ardaloedd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cyfrannu 拢500,000 i elusennau sy'n helpu ffermwyr ar 么l y tywydd garw.

Dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies, y bydd ai'r arian yn cael ei rannu rhwng tair elusen.

Mae'r undebau amaeth wedi croesawu'r penderfyniad.

Bydd y rhwydwaith amaeth FCN yn derbyn 拢100,000 a mudiad R.A.B.I. yn cael 拢150,000 i'w helpu gyda gwaith bugeiliol a chynghori.

Bydd cymorth uniongyrchol yn cael ei roi i'r teuluoedd sydd wedi diodde' waetha'.

Dywedodd y gweinidog: "O ystyried y prinder cyffredinol a chost gynyddol bwyd anifeiliaid ar draws y rhan fwya' o'r wlad oherwydd y tywydd gwael ac er mwyn helpu gyda lles anifeiliaid a thrafferthion ariannol byddaf hefyd yn rhoi 拢250,000 i Ymddiriedolaeth Addington i'w helpu i roi cefnogaeth tymor byr i deuluoedd yng Nghymru sy'n cael trafferthion."

Saith niwrnod

Mae hefyd wedi dweud y bydd gan rai ffermwyr saith niwrnod arall i gladdu eu hanifeiliaid, yr eildro iddo ymestyn y cyfnod gwreiddiol.

Mae'n golygu fod gan ffermwyr tan hanner nos ar Ebrill 23 i gladdu da byw.

Dywedodd Emyr Jones, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru: "Mae'r elusennau wedi gwneud gwaith da yn y gorffennol a dwi'n siwr y bydd eu gwaith yn parhau.

"Rhaid cofio bod ffermwyr wedi diodde' colledion enbyd."

Dywedodd fod yr undeb yn ddiolchgar am fod y gweinidog wedi gwrando.

'Casglu'

"Y broblem yw hyn - mae cymaint o 诺yn a defaid wedi marw dyw'r lor茂au ddim wedi llwyddo i'w casglu nhw.

"A deud y gwir, maen nhw 10 diwrnod ar ei h么l hi ac mae gweld yr holl anifeiliaid marw yn gwneud rhywun yn isel."

Cyhoeddodd Mr Davies y byddai'r ardaloedd yn y trefniadau hyn yn newid - gyda rhai ardaloedd yn cael eu hepgor gan fod y tywydd wedi gwella digon yno, ac ardaloedd eraill sydd wedi eu taro'n waeth yn cael eu hychwanegu.

Bydd cyhoeddiad am union fanylion y lleoliadau hyn yn cael eu rhyddhau maes o law.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol