91热爆

Cymru 1-2 Croatia

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bale yn rhoi Cymru ar y blaen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gareth Bale yn rhoi Cymru ar y blaen

Trodd g锚m a ddechreuodd mor addawol yn un dorcalonnus i Gymru wrth i g么l hwyr i Croatia sicrhau buddugoliaeth i'r ymwelwyr yn Stadiwm Liberty yng ngr诺p rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 nos Fawrth.

Mae Cymru nawr yn disgyn o drydydd i bedwerydd yn y tabl tu 么l i Wlad Belg (a faeddodd Macedonia 1-0 nos Fawrth), Croatia a Serbia (a gurodd yr Alban 2-0 nos Fawrth).

Gareth Bale roddodd Cymru ar y blaen wedi 23 munud wrth guro Stipe Pletikosa gyda chic o'r smotyn ar 么l i Joe Ledley gael ei faglu gan Dejan Lovren.

Cafodd Bale gyfle euraidd i ddyblu'r fantais pan oedd mewn sefyllfa un wrth un yn erbyn Pletikosa ond ergydiodd dros y trawst er mawr syndod i bawb yn y Liberty. Petai Cymru wedi mynd ar y blaen 2-0...

Cafodd Croatia hefyd eu cyfleon mewn hanner cyntaf hynod gyffrous, gyda gwaith da gan yr amddiffyn a Boaz Myhill yn eu rhwystro.

Myhill

Roedd Myhill, sydd ddim yn ddewis cyntaf yn West Brom ar hyn o bryd, ar ei orau glas gydag arbediad gwyrthiol wedi 59 munud.

Ond fe gafodd ei guro gan Dejan Lovren wedi 77 munud wrth i'w ergyd o bell wyro heibio'r golwr.

A rhoddwyd un cyfle yn ormod i Eduardo, a oedd wedi methu dau gyfle da yn y g锚m, wedi 87 munud pan adawyd ef heb ei farcio'n ddigonol yn y cwrt cosbi ac yntau'n rhwydo o flaen y g么l.

Ond wrth i'r Cymry lyfu eu clwyfau, mae digon o bethau cadarnhaol i gymryd o'r g锚m hon, nid yn lleiaf berfformiad seren y g锚m, Jonathan Williams, yn dechrau dros ei wlad am y tro cyntaf.

Rhaid cofio hefyd nad oedd pum chwaraewr canol cae Cymru ar gael ar gyfer yr ornest yn erbyn Croatia - roedd Jack Collison, David Vaughan, Joe Allen, David Edwards ac Andrew Crofts yn dioddef o anafiadau ac fe wnaeth Aaron Ramsey golli'r g锚m wedi iddo gael ei anfon o'r cae wedi 90 munud o'r g锚m yn erbyn Yr Alban nos Wener.

Nos Wener curodd Croatia Serbia 2-0 yn Zagreb yn y g锚m gyntaf rhwng y ddwy wlad yn dilyn y rhyfel rhyngddynt yn ystod yr 1990au.

Carfan Cymru

Boaz Myhill (West Bromwich Albion), Lewis Price (Crystal Palace), Owain F么n Williams (Tranmere Rovers), Ben Davies (Abertawe), James Collins (West Ham United), Chris Gunter (Reading), Joel Lynch (Huddersfield Town), Ashley Richards (Abertawe - ar fenthyg i Crystal Palace), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Ashley Williams (Abertawe), Lewin Nyatanga (Bristol City), Jack Collison (West Ham United), Andy King (Caerl欧r), Joe Ledley (Celtic), David Vaughan (Sunderland), Jonathan Williams (Crystal Palace), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Craig Bellamy (Dinas Caerdydd), Jermaine Easter (Crystal Palace - ar fenthyg i Millwall), Simon Church (Reading), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley), Owain Tudur Jones (Inverness Caledonian Thistle).

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol