Cymru 2-1 Yr Alban
- Cyhoeddwyd
Gareth Bale oedd arwr Cymru wrth i'r t卯m ennill eu g锚m gyntaf yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Hon hefyd oedd buddugoliaeth gyntaf y rheolwr Chris Coleman.
Sgoriodd Bale ddwy g么l yn y 10 munud olaf i sicrhau'r fuddugoliaeth sy'n golygu bod Cymru yn codi o waelod Gr诺p A.
Rhoddodd James Morrison yr Ablan ar y blaen ar 么l cic hir lawr y cae ac amddiffyn bl锚r gan Gymru.
Daeth y g么l funudau'n unig ar 么l i Steven Morison ddod yn agos i roi Cymru ar y blaen.
Ar 么l y g么l daeth Ramsey yn agos gydag ergyd dros y bar ond roedd Morrison hefyd yn anlwcus i beidio rhoi'r Alban 2-0 ar y blaen.
Methodd Ramsey gyda chyfle gwych yn yr ail hanner ond gyda llai na 10 munud yn weddill sgoriodd Gareth Bale o'r smotyn ar 么l i ymosodwr Cymru gael ei lorio gan Shaun Maloney.
Yna yn y munudau ola fe aeth Bale lawr yr asgell chwith ac ergydio i gefn y rhwyd o 25 llath.
G么l wych a mawr ryddhad i Gymru a Chris Coleman.
Cymru: Price, Gunter, Blake, Williams, Ben Davies, Bale, Allen, Vaughan, Ramsey, Ledley, Morison.
Eilyddion: Brown, Craig Davies, Ricketts, King, Richards, Church, Robson-Kanu, Vokes, Wilson, Fon Williams.
Alban: McGregor, Hutton, Caldwell, Berra, Fox, Maloney, Morrison, Darren Fletcher, Brown, Commons, Steven Fletcher.
Subs: Gilks, Mulgrew, Adam, McArthur, Miller, Mackie, Martin, Phillips, Webster, Forrest, Marshall.
Dyfarnwr: Florian Meyer (Yr Almaen)