Cymru 0-2 Gwlad Belg
- Cyhoeddwyd
Roedd g锚m agoriadol Cymru yn un anodd beth bynnag wrth i d卯m Chris Coleman groesawu ser fel Vincent Kompany, Marouane Fellaini ac Eden Hazard i Stadiwm Dinas Caerdydd, ond fe aeth y dasg dipyn anoddach cyn y gic gyntaf hyd yn oed.
Dyna pryd y cyhoeddwyd na fyddai Joe Allen yn medru chwarae oherwydd salwch, gan amddifadu Cymru o un o'u s锚r mwyaf eu hunain.
A doedd pethau fawr gwell pan ddechreuodd y chwarae. Wedi pum munud ar hugain o chwarae, roedd Simon Church a Gareth Bale wedi cael ergydion at g么l yr ymwelwyr, ond yna fe ddaeth eiliad wirion gan James Collins.
Trosedd broffesiynol yw'r term sy'n cael ei ddefnyddio ond doedd dim byd proffesiynol am dacl wyllt Collins ar Guillaume Gillet.
Y canlyniad oedd cerdyn coch i Collins a Chymru'n gorfod chwarae am dros awr gyda 10 dyn ac roedd rhwystredigaeth gweddill y t卯m yn amlwg.
Am y chwarter awr cyntaf o hynny, fe lwyddodd amddiffyn Cymru i wrthsefyll ton ar 么l ton o ymosodiadau ac ergydion gan yr ymwelwyr.
Ond yna bedwar munud cyn yr egwyl fe ddaeth y g么l anochel wrth i Vincent Kompany benio croesiad Dries Mertens i gefn y rhwyd.
Wedi'r egwyl roedd hi'n ymddangos y byddai angen cyfrifianell i gyfri goliau'r ymwelwyr, ond er gwaethaf ergydion di-ri, roedd amddiffyn Cymru yn llwyddo i rwystro Gwlad Belg.....tan wyth munud cyn y diwedd.
Amddiffynwr arall sgoriodd yr ail i Wlad Belg - Jan Vertonghen o glwb Spurs yn ergydio i gornel isa'r rhwyd o'r tu allan i'r cwrt cosbi.
O dan yr amgylchiadau, doedd y canlyniad ddim yn un trychinebus, ond dyma'r dechrau gwaethaf posib i ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2014.
Yn sicr mae'r pwysau ar d卯m Chris Coleman i gael triphwynt yn Serbia nos Fawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2012
- Cyhoeddwyd3 Medi 2012
- Cyhoeddwyd31 Awst 2012
- Cyhoeddwyd29 Awst 2012