Ben Davies yn cymryd lle Neil Taylor yng ngharfan Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae t卯m p锚l-droed Cymru wedi ychwanegu chwaraewr ifanc Abertawe, Ben Davies, i'r garfan ar gyfer y gemau yn erbyn Gwlad Belg a Serbia.
Daw hyn ar 么l i gyd-chwaraewr Davies yn Y Liberty, Neil Taylor, dorri ei ff锚r yn y g锚m yn erbyn Sunderland ddydd Sadwrn.
Mae disgwyl i Taylor, a oedd yn rhan o garfan t卯m Prydain yn y Gemau Paralympaidd, fod allan am weddill y tymor.
Davies ddaeth i'r cae ddydd Sadwrn yn ei le ac mae o nawr wedi ei alw i garfan Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Gwnaeth Davies, 19 oed, gryn argraff ar 么l dod i'r cae.
Mae Andrew Crofts a Craig Bellamy hefyd wedi eu hanafu a ddim ar gael ar gyfer y g锚m yn erbyn Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener nac ar gyfer y daith i Serbia ar Fedi 11.
Cafodd Crofts anaf i'w ff锚r yng ng锚m Brighton and Hove Albion ac mae disgwyl iddo fod allan am dair wythnos.
Buddugoliaeth
Mae Bellamy wedi colli cwpl o gemau i Gaerdydd oherwydd anaf i'w goes ac mae ei gyd-chwaraewr gyda'r Adar Glas, Robert Earnshaw wedi ei alw i garfan Cymru yn ei le.
Tri sydd ar gael i Chris Coleman yw Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen.
Dydi Coleman ddim wedi ennill eto gyda Chymru ers cymryd yr awenau ym mis Ionawr.
Mae carfan Cymru wedi dod at ei gilydd yn eu canolfan hyfforddi ddydd Sul.
Yr Alban, Croatia a Macedonia yw gwrthwynebwyr eraill Cymru yn y gr诺p.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2012
- Cyhoeddwyd31 Awst 2012
- Cyhoeddwyd29 Awst 2012